Twyll Tocynnau
Roeddech chi’n meddwl eich bod wedi prynu tocynnau.
Ond, rydych chi’n derbyn hwn.
Rydych eisiau tocynnau i weld eich hoff fand, neu fynd i ŵyl neu ddigwyddiad chwaraeon mawr. Mae’r swyddfa docynnau a gwefannau adnabyddus eraill wedi gwerthu allan, a dydych chi ddim yn barod i dalu’r prisiau ar y safleoedd cyfnewid tocynnau i gefnogwyr. Felly rydych yn ymateb i hysbyseb ar y cyfryngau cymdeithasol neu farchnad ar-lein.
Mae’r gwerthwr yn dweud wrthych y bydd yn postio neu’n e-bostio’r tocynnau cyn gynted ag y byddwch wedi trosglwyddo’r arian i’w gyfrif banc. Ond, wrth geisio cysylltu ag ef am nad oes unrhyw beth wedi cyrraedd, does dim ateb. Wrth edrych ar fforwm cefnogwyr, gwelwch fod dwsinau o bobl eraill wedi dioddef yr un twyll.
Mae hyn yn digwydd i filoedd o gefnogwyr cerddoriaeth, chwaraeon a chefnogwyr eraill bob blwyddyn sy’n cael eu twyllo i brynu tocynnau ffug neu docynnau nad ydynt yn bodoli.
Waeth pa mor awyddus ydych chi i fynd i gig, gŵyl neu gêm, peidiwch â phrynu tocynnau gan unrhyw un ar wahân i werthwyr swyddogol, y swyddfa docynnau neu wefannau ailwerthwyr cefnogwyr ag enw da.
Awgrymiadau ar brynu tocynnau gan arbenigwr
- Yr unig leoedd y dylech brynu tocynnau yw swyddfa docynnau’r lleoliad, clwb chwaraeon, hyrwyddwr, asiant swyddogol neu safle cyfnewid tocynnau ag enw da.
- Ystyriwch y gallai ocynnau a hysbysebir ar unrhyw ffynhonnell arall fel gwefannau arwerthu, cyfryngau cymdeithasol a fforymau cefnogwyr fod yn ffug neu ddim yn bodoli, pa mor ddilys bynnag y gall y gwerthwr ymddangos a ph’un a ydynt wedi’u hysbysebu o dan, dros neu am eu gwerth go iawn.
- Peidiwch â chlicio ar ddolenni neu atodiadau cyfryngau cymdeithasol, testun neu e-bost sy’n cynnig tocynnau. Gallent gysylltu â gwefannau twyllodrus neu faleisus.
- Gallai talu am docynnau drwy trosglwyddiad banc – pa mor awyddus bynnag ydych chi i gael gafael arnynt – olygu y gallech golli’ch arian os yw’n dwyll. Chi sy’n gyfrifol am y colledion, neb arall, yn cynnwys eich banc.
- Darllenwch bolisïau preifatrwydd a dychwelyd nwyddau y gwerthwyr.
- Ystyriwch dalu â cherdyn credyd i gael diogelwch ychwanegol dros ddulliau talu eraill.
- Darllenwch yn ofalus dros holl fanylion yr hyn rydych chi’n prynu cyn cadarnhau’r taliad.
- Cyn prynu ar-lein, gwnewch yn siwr fod y dudalen yn un ddilys (teipiwch y cyfeiriad eich hun yn ofalus, nid o ddolen) a diogel (‘https’ a chlo clap wedi’i gloi), a logiwch allan pan fyddwch wedi cwblhau’r trafodiad.
- Cadwch dderbynebau tan ar ôl y digwyddiad.
Y stori lawn
Am bopeth sydd angen i chi ei wybod am ddiogelun eich hun rhag twyll tocynnau, ewch i https://www.getsafeonline.org/wales/ a chwiliwch am ‘Prynu Tocynnau’
#TwyllTocynnau
Ydych chi'n newydd i'r rhyngrwyd?
Byddwn yn eich helpu i aros ar-lein gyda diogelwch a hyder.
Chi, Coronavirus ac aros yn ddiogel ar-lein
Sut i gadw'n ddiogel ar-lein yn ystod pandemig Coronavirus.
Neighbourhood Alert
Cofrestrwch i dderbyn Rhybuddion Cymdogaeth.
Diogelu plant
Ydy'ch plant chi'n ddiogel gyda phopeth maen nhw'n ei wneud ar-lein?
Ffonau clyfar a thabledi
Mae'n fyd symudol. Cadwch hi'n ddiogel.
Cyfryngau cymdeithasol
Ydych chi'n ei ddefnyddio'n ddiogel ac yn gyfrifol?