English

Siopa Ar-lein yn Ddiogel 

Twyll siopa ar-lein: yr act ddiflannu fawr 

Rydym i gyd yn adnabod neu wedi clywed am rywun sydd wedi prynu dillad, dyfais electronig neu hyd yn oed gar ar y rhyngrwyd … ond nad yw byth yn cyrraedd. Weithiau mae’n digwydd o ganlyniad i wall gweinyddol, ond yn amlach na pheidio, byddant wedi cael eu twyllo. Efallai ei fod wedi digwydd i chi. 

Yn y DU yn ystod 2023, rhoddwyd gwybod am 156,000 o achosion o bobl yn cael eu twyllo wrth siopa ar-lein, a chafwyd colledion o bron i £90 miliwn (ffynhonnell: UK Finance). Mae hynny tua thraean yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Ond mae’r ffigur go iawn yn uwch o lawer, oherwydd nid yw dioddefwyr yn rhoi gwybod am y rhan fwyaf o achosion o dwyllo siopa ar-lein. 

Er nad oes modd i ni chwifio ffon hud, dyma ein hawgrymiadau defnyddiol ar sut i ddiogelu eich hun 

  • Hyd yn oed os ydych yn benderfynol o brynu rhywbeth, peidiwch â thalu drwy drosglwyddo arian yn uniongyrchol i bobl neu gwmnïau nad ydych yn eu hadnabod, oherwydd mae’n debygol y byddwch yn ei golli os mai twyll ydyw. Talwch â cherdyn credyd os gallwch. 
  • Caiff cyfran uchel o achosion o dwyllo eu cyflawni gan grwpiau troseddau cyfundrefnol sy’n gweithredu fel busnesau, gyda’r adnoddau i sefydlu gwefannau ffug a phresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n debyg iawn i’r rhai go iawn. Gwnewch yn siŵr bod gwefan yn ddilys drwy gadarnhau bod y cyfeiriad wedi’i sillafu’n gywir. Yn ddelfrydol, teipiwch gyfeiriad y wefan yn y porwr yn hytrach na chlicio ar ddolen mewn e-bost, neges destun neu neges ar wefan gymdeithasol. Neu ewch i www.getsafeonline.org/checkawebsite  Mae rhagor o adnoddau osgoi twyll ar gael yn www.getsafeonline.org/selfhelptoolcentre  
  • Dysgwch sut i adnabod hysbysebion twyllodrus ar gyfryngau cymdeithasol, marchnadoedd ar-lein a fforymau. Edrychwch ar eitemau afrealistig o rhad gydag amheuaeth, ond gall eitemau gyda phris arferol fod yn dwyllodrus hefyd. Peidiwch byth â thalu am nwyddau nad ydych wedi’u gweld yn bersonol – nid blaendal hyd yn oed. 
  • Peidiwch â chlicio ar ddolenni mewn e-byst, negeseuon testun na negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol nad ydych yn disgwyl eu cael, a pheidiwch ag agor atodiadau e-byst annisgwyl. Ceisiwch gyflwyno negeseuon testun, e-byst a thudalennau gwe a allai fod yn dwyllodrus i Ask Silver www.ask-silver.com  
  • Gwnewch yn siŵr bod tudalennau talu yn ddiogel drwy gadarnhau bod y cyfeiriad yn dechrau gyda ‘https’ (mae’r ‘s’ yn sefyll am ‘secure’) a bod clo clap wedi’i gau yn y bar cyfeiriad. Ond, cofiwch: mae https a chlo clap wedi’i gau yn golygu bod y dudalen yn ddiogel, ond gallai twyllwyr fod yn gyfrifol am y wefan o hyd. 
  • Peidiwch â phrynu nwyddau ffug yn fwriadol a gwnewch bopeth o fewn eich gallu i sicrhau bod y brandiau rydych yn eu prynu yn ddilys. Yn ogystal â’r ffaith nad ydynt o ansawdd cystal, maent yn torri rheolau hawlfraint ac yn effeithio ar fywiolaeth pobl. Gallant fod yn anniogel hefyd. 
  • Darllenwch y print mân ac adolygiadau annibynnol am dreialon ‘rhad’ neu ‘am ddim’. Beth bynnag yw’r cynnyrch neu wasanaeth, gallech fod yn cofrestru i dalu debyd uniongyrchol misol mawr sy’n anodd ei ganslo. Ac os bydd ar gyfer meddyginiaethau neu dabledi colli pwysau, darllenwch ein cyngor ar Brynu Meddyginiaethau ar wefan Get Safe Online. 
  • Mae negeseuon testun ac e-byst sy’n honni eu bod yn dod o gwmnïau danfon nwyddau i’r cartref ac yn dweud bod ffi yn ddyledus gennych hefyd yn gyffredin. Cadwch gofnod o bopeth rydych yn ei brynu ac, os nodwyd, pa gwmni danfon y mae’r manwerthwr yn ei ddefnyddio.  
  • Gwnewch eich gwaith ymchwil wrth ystyried prisiau, yn enwedig yn ystod digwyddiadau fel Dydd Gwener Gwyllt a sêls y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Mae rhai gwerthwyr yn hysbysebu cynhyrchion am bris gostyngol pan nad ydynt yn rhatach mewn gwirionedd neu hyd yn oed pan fyddant yn ddrutach. 
  • Rhowch wybod am achosion o dwyll ar unwaith i’ch banc: bydd hyn yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y cewch eich arian yn ôl. Hefyd, rhowch wybod i Action Fraud ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk  

Am ragor o wybodaeth am brynu’n ddiogel ar-lein ewch i  www.getsafeonline.org 

#SiopaArLein 

In Partnership With