English

Sicrhewch eich bod yn caru’n ddiogel ac yn hyderus ar-lein.

Mae caru ar-lein yn ffordd wych o ddod o hyd i gydberthynas newydd, boed yn gyfaill ar-lein neu’n gariad oes. Eich dewis chi yw’r hyn rydych yn chwilio amdano, ond mae angen i chi ystyried efallai na fydd eich cyfaill newydd yn dweud y gwir am bwy ydyw.

Mae’r rhan fwyaf o’r bobl y byddwch yn cwrdd â nhw ar wefannau caru a llwyfannau ar-lein eraill yn ddiffuant, ond os nad ydyn nhw, gallech gael eich twyllo drwy’r dulliau canlynol:

  • Twyll rhamant – pan fydd y person rydych yn sgwrsio ag ef yn dwyllwr neu’n unigolyn sy’n dwyn hunaniaeth mewn gwirionedd
  • Swyno drwy dwyll – pan gewch eich hudo gan broffil ffug neu broffil sydd wedi’i ddwyn
  • Niwed personol – pan fyddwch yn cyfarfod â rhywun wyneb yn wyneb

Cynghorion arbenigol i’ch helpu i gadw’n ddiogel wrth garu ar-lein

  • Defnyddiwch wefan neu ap caru ag enw da ac arhoswch ar wasanaeth negeseua pwrpasol y wefan neu’r ap nes eich bod yn hyderus bod y person yn dweud y gwir am bwy ydyw, a’ch bod yn ymddiried yn llwyr ynddo, hyd yn oed os bydd yn rhaid i chi dalu am y gwasanaeth hwnnw.
  • Defnyddiwch fanylion mewngofnodi diogel ac unigryw bob amser ar wefannau ac apiau caru er mwyn lleihau’r tebygolrwydd y caiff eich cyfrif ei hacio.
  • Edrychwch y tu hwnt i’r proffil. Gofynnwch ddigon o gwestiynau, defnyddiwch eich synnwyr cyffredin a pheidiwch â rhuthro i mewn i ddim. Gallai hyn eich helpu i osgoi problemau fel twyll, cribddeiliaeth neu gael eich defnyddio am ryw.
  • Chwiliwch ar y we gan ddefnyddio enw neu luniau proffil yr unigolyn rydych yn sgwrsio ag ef neu unrhyw ymadroddion a ddefnyddir yn aml ganddo a’r term ‘sgam garu’, ‘sgam ramant’ neu ‘swyno drwy dwyll’. Er mwyn gwirio os yw’r llun yn un dilys neu os mai llun o rywun arall ydyw, gwnewch chwiliad delweddau. Dechreuwch drwy deipio ‘Search with an image on Google’.
  • Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw un sy’n rhy awyddus, oherwydd gall hyn fod yn arwydd bod ganddo gymhellion eraill.
  • Peidiwch byth ag anfon arian, manylion banc na chyfrineiriau at rywun rydych wedi cwrdd ag ef ar-lein, ni waeth beth fo’r rheswm dros ofyn amdanynt, nac am ba mor hir rydych wedi bod yn cyfathrebu a’r person. Gallai fod yn dwyll.
  • Peidiwch â datgelu manylion personol fel enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad cartref nac enwau, manylion na lleoliadau eich plant neu aelodau eraill o’ch teulu. Gallai hyn arwain at achos o dwyll, dwyn hunaniaeth neu niwed personol hyd yn oed.
  • Yn sicr, nid argymhellir eich bod yn anfon lluniau neu fideos o natur bersonol ohonoch chi eich hun at rywun rydych wedi cwrdd ag ef ar-lein. Gallai hyn arwain at broblemau fel cribddeiliaeth neu niwed i enw da, ac ni allwch fod yn siŵr pwy fydd yn gweld y deunydd. Cofiwch hefyd nad yw rhai cydberthnasau’n para am byth ac efallai na fyddwch am i gyn-gariad feddu ar luniau preifat ohonoch.
  • Rhowch y gorau i sgwrsio ag unrhyw un y byddwch yn cwrdd ag ef ar-lein sy’n dweud wrthych am beidio â sôn amdano wrth eich ffrindiau a’ch teulu. Mae twyllwyr ac ymosodwyr rhyw yn gweithio drwy wahanu eu dioddefwyr oddi wrth eu teulu a’u ffrindiau.
  • Peidiwch â chyfarfod â rhywun rydych wedi bod yn sgwrsio ag ef ar-lein wyneb yn wyneb am y tro cyntaf heb ddweud wrth ffrind neu aelod o’r teulu i ble rydych yn mynd.  Trefnwch gyfarfod yn rhywle cyhoeddus, cadwch eich ffôn wedi’i droi ymlaen a threfnwch i rywun eich ffonio er mwyn rhoi cyfle i chi wneud esgus a gadael yn gynnar. Trefnwch eich trafnidiaeth eich hun i’r dêt ac oddi yno.

Os byddwch yn dioddef twyll rhamant, rhowch wybod i Action Fraud ar unwaith ar www.actionfraud.police.uk neu drwy ffonio 0300 123 2040. Dylech hefyd roi gwybod i’r wefan neu’r ap caru lle gwnaethoch gwrdd â’r troseddwr. Rhowch wybod i’r heddlu am unrhyw ymosodiadau.I gael cyngor am ddim a hawdd ei ddilyn ar garu’n ddiogel ar-lein, ewch i getsafeonline.org a dewiswch ‘Protecting Yourself’ yna ‘Safe Online Dating’

#CaruDiogel

In Partnership With