Mae sefydliadau mwy o faint, cyfleusterau gweithgynhyrchu, gweithfeydd cynhyrchu pŵer, gridiau ynni, cyfleusterau gofal iechyd a systemau cludo yn dod yn fwyfwy cysylltiedig yn yr un modd, gan roi cysylltiad bob awr o’r dydd i bawb, o’r rheolwr prosesau i’r Prif Swyddog Gweithredu, lle bynnag y bônt yn y byd.
Y risgiau
Fodd bynnag, am fod y gwrthrychau hyn wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd, yn union fel cyfrifiaduron a dyfeisiau symudol, maent yn agored i ymyrraeth anawdurdodedig neu i gael eu hacio. Ond mae’r risg yn fwy mewn gwirionedd am nad yw llawer o bobl yn ystyried y gellir hacio’r gwrthrychau hyn.
Nid yw’n debygol y byddai unrhyw un am hacio eich oergell. Fodd bynnag, cafwyd sawl achos o gamerâu CCTV IP domestig a busnes yn cael eu hacio gyda’r bwriad o ysbïo ar weithgareddau a theuluoedd eu perchnogion, mewn rhai achosion gyda’r fideo dilynol yn cael ei ffrydio’n fyw i bawb ei gweld. Y risg yw y gallai rhywun eich gwylio chi ac aelodau o’ch teulu yn anghyfreithlon yn eich cartref eich hun.
P’un a ydynt yn cael mynediad i’ch camerâu neu eich eitemau domestig neu fusnes eraill, bydd preifatrwydd a chyfrinachedd eich cartref, busnes, teulu, cyflogeion a chwsmeriaid mewn perygl.
Diogelu eich ‘pethau’
Mae’n rhaid i bob eitem gysylltiedig y byddwch yn ei phrynu gael ei ffurfweddu er mwyn cysylltu â’ch llwybrydd, ac mae angen cyfrinair ar gyfer y rhan fwyaf ohonynt, sydd wedi’i osod ymlaen llaw yn y ffatri yn y rhan fwyaf o achosion. Rydym yn awgrymu y dylech:
- Newid y cyfrinair diofyn i un sy’n anodd ei dorri/dyfalu ond y gallwch ei gofio. Cadw eich cyfrineiriau i chi’ch hun. Darllen ein cyngor ar gyfrineiriau yma.
- Sicrhau bod eich Wi-Fi wedi’i ddiogelu i lefel WPA2 bob amser a pheidiwch â datgelu’r cod mynediad i bobl anawdurdoedig.
- Darllen cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd a dod yn gyfarwydd â nhw, yn enwedig o ran cysylltu â’r rhyngrwyd. Os nad oes rhywbeth yn glir, cysylltwch â’r gweithgynhyrchydd.