Awgrymiadau Diogelwch Gwebost Cyffredinol
- Defnyddiwch wasanaethau gwebost gan gwmnïau hysbys a dibynadwy.
- Galluogwch weithrediad hidlo sbam neu newidiwch i ddarparwr gwebost a all wneud hyn (gweler Feirysau ac Ysbïwedd).
- Defnyddiwch gyfrinair cryf i fewngofnodi (gweler Cyfrineiriau).
- Allgofnodwch o’ch ap bancio neu wefan symudol bob amser pan fyddwch wedi gorffen ei defnyddio. Mae hyn yn bwysig iawn ar gyfrifiadur a rennir.
- Rydym yn argymell mai dim ond pan fydd gan eich darparwr gwebost gysylltiad diogel (a ddangosir drwy glo clap yng nghornel de gwaelod ffenestr eich porwr a’r llythrennau ‘https://’ ar ddechrau cyfeiriad y wefan) y dylech gysylltu â gwebost. Os nad yw’r cysylltiad yn ddiogel, gofalwch na fyddwch yn anfon e-bost a allai ddatgelu gwybodath bersonol neu ariannol amdanoch eich hun.
- Byddwch yn wyliadwrus ynghylch atodiadau mewn negeseuon e-bost o ffynonellau anhysbys neu annibynadwy. Mae rhai systemau gwebost yn sganio atodiadau am faleiswedd yn awtomatig.
- Gwnewch yn siŵr bod gennych y feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd a wal dân diweddaraf wedi’u gosod.
Peidiwch â Cholli eich Hen Negeseuon E-bost
Gall rhai systemau gwebost ddileu negeseuon e-bost os byddwch yn mynd y tu hwnt i’r cwota storio. Os bydd eich archif e-bost yn bwysig, ystyriwch wasanaeth storio ar-lein sy’n codi tâl, neu ddefnyddio gwasanaeth gwebost heb y cyfyngiadau hyn.
Nodwch hefyd y gall rhai darparwyr gwebost atal eich cyfrif os na fyddwch yn cael mynediad iddo am gyfnod estynedig o amser.