Mae sgamwyr pensiynau yn glyfar a soffistigedig iawn; maent yn defnyddio nifer o ddulliau i gael gafael ar eich arian. Ond, mae digon o arwyddion a all eich helpu i adnabod sgam ac arferion y gallwch eu defnyddio i amddiffyn rhagddynt.
Sut i adnabod sgam
Pwyllwch os bydd y canlynol yn digwydd:
- Mae rhywun yn cysylltu â chi yn ddigymell dros y ffôn, drwy neges e-bost neu neges destun neu alwr ar garreg y drws.
- Rydych yn cael cynigion ynghylch cael mynediad i’ch pensiwn personol neu bensiwn eich cwmni cyn i chi gyrraedd 55 oed*
- Rydych yn cael cynigion i drosglwyddo eich arian i un buddsoddiad tramor, gydag elw gwarantedig o 8% neu uwch.
- Rydych yn cael cynigion neu sylwadau ar ‘fuddsoddiadau untro’, cynigion gyda chyfyngiadau amser, cymhellion arian parod ymlaen llaw, ‘adolygiadau pensiwn am ddim’, ‘bylchau cyfreithiol’ neu ‘fentrau’r llywodraeth’.
- Gofynnir i chi roi eich rhif ffôn a chyfeiriad eich cartref a/neu wybodaeth ariannol bersonol, pan fyddwch ond yn holi am y cynhyrchion sydd ar gael.
- Rydych yn cael eich rhoi dan bwysau i gyflymu’r broses drosglwyddo, drwy ddefnyddio gwasanaeth negesydd neu ymweliad gan gynrychiolydd taer.
- Caiff y ddogfennaeth aelodaeth ei chelu oddi wrthych, naill ai gyda neu heb esboniad.
- Rydych yn cael deunyddiau marchnata sgleiniog, ond dim llawer o fanylion cyswllt ar gyfer y cynghorydd na’r cwmni sy’n gwneud y cynigion.
*Dim ond mewn achosion prin – fel salwch – y mae’n bosibl cael gafael ar arian cyn cyrraedd 55 oed o’ch cynllun pensiwn presennol yn yr amgylchiadau hyn.
Diogelu rhag sgamiau pensiwn
- Peidiwch byth â datgelu gwybodaeth ariannol na gwybodaeth bersonol i alwr diwahoddiad, neu mewn ymateb i neges e-bost neu neges destun.
- Casglwch gymaint o wybodaeth ag y gallwch am gefndir y cwmni – rhowch gynnig drwy’r rhyngrwyd i ddechrau, ond pwyllwch cyn defnyddio gwefannau crand. Dylai unrhyw gynghorwyr ariannol wedi’u rheoleiddio fod wedi’u cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
- Dylech ofyn i’r cynllun pensiwn rydych yn trosglwyddo ohono wirio cofrestriad y cynllun newydd gyda CThEM a gwneud yn siŵr ei fod yn ddilys.
- Os nad ydych yn siŵr ynghylch cynnig a gawsoch neu os nad oes rhywbeth yn swnio’n iawn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau ar 0300 123 1047 (rhwng 9 a 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener) i holi.
- Peidiwch â chael eich rhuthro, eich rhoi dan bwysau na’ch poenydio i wneud penderfyniad am eich pensiwn.
- Cymerwch eich amser a chadarnhau pethau.
Rhagor o Wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am sgamiau pensiwn, gallwch ddarllen canllawiau penodol y Rheoleiddiwr Pensiynau fel a ganlyn: http://www.thepensionsregulator.gov.uk/
Os ydych wedi cael galwad ddiwahoddiad a’ch bod yn amau ei bod yn sgam
- Rhowch wybod i’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol gan ddefnyddio ei ffurflen rhoi gwybod am sgamiau buddsoddi ar-lein neu drwy gysylltu â’i Linell Gymorth i Ddefnyddwyr ar 0800 111 6768.
- Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll drwy ffonio 0300 123 20 40 neu drwy fynd i www.actionfraud.police.uk
Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef sgam pensiynau
- Cysylltwch â’r cynllun pensiwn rydych yn trosglwyddo oddi wrtho ar unwaith – efallai y gall atal y trosglwyddiad os nad yw wedi mynd drwodd eisoes.
- Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll drwy ffonio 0300 123 20 40 neu drwy fynd i www.actionfraud.police.uk
- Os ydych yn ofni gallech fod wedi colli rhywfaint o’ch cynilion pensiwn neu eich holl gynilion pensiwn, gallwch siarad â’r Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (0300 123 1047) oherwydd efallai y bydd angen i chi feddwl am sut yr effeithir ar eich ymddeoliad a’r ffordd orau o symud ymlaen.
Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.