Y risgiau
- Colli arian rydych wedi’i dalu fel ‘ffi’ am fenthyciad neu gredyd na fyddwch yn ei gael.
Diogelwch eich hun rhag twyll ffi benthyciad
- Pan fyddwch yn gwneud cais am fenthyciad, dylech ond delio â benthycwyr sydd wedi eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn unig. Edrychwch ar Gofrestr Gwasanaethau Ariannol yr FCA i weld a yw’r cwmni yn cael ei reoleiddio. Ni fyddwch yn gallu gofyn am help gan Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol os byddwch yn cael benthyciad gan gwmni sydd heb ei reoleiddio a bod pethau’n mynd o chwith.
- Gwnewch yn siŵr fod manylion cyswllt y cwmni yn cyfateb i’r manylion ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol.
- Defnyddiwch y manylion cyswllt sydd ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol, yn hytrach na rhif llinell uniongyrchol neu gyfeiriad e-bost a gewch, rhag ofn bod rhywun yn ceisio eich twyllo.
- Os na fydd manylion cyswllt y benthyciwr wedi’u rhestru ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol, neu os bydd y benthyciwr yn honni eu bod yn hen, ffoniwch Linell Gymorth Defnyddwyr yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar 0800 111 6768.
Sut rydych yn gwybod eich bod yn delio â chwmni awdurdodedig
Os bydd cwmni a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn gofyn ichi dalu ffi ymlaen llaw cyn rhoi benthyciad i chi, dylai anfon hysbysiad atoch yn nodi manylion penodol gan gynnwys:
- Enw cyfreithiol y cwmni fel y mae’n ymddangos ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol.
- Datganiad bod y cwmni yn gweithredu fel deliwr credyd.
- Datganiad yn nodi a fydd angen ichi dalu ffi am wasanaethau’r cwmni.
- Swm y ffi (neu sut y caiff ei gyfrifo), pryd bydd y cwmni yn cymryd taliad gennych a sut y byddwch yn talu.
- Bydd angen ichi ymateb i’r hysbysiad, yn nodi eich bod wedi ei dderbyn ac yn ei ddeall.