Y risgiau
Mae trais ar-lein a ddioddefir gan fenywod, merched a chymunedau SOGI (Cyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd) yn cynnwys:
- Bygythiadau o drais corfforol, rhywiol a mathau eraill o drais
- Aflonyddu rhywiol neu fathau eraill o aflonyddu
- Seiberstelcio
- Trolio ar sail rhyw a rhywedd
- Secstio
- Cyhoeddi delweddau, fideos neu glipiau sain personol heb ganiatâd
- Cael mynediad at ddata preifat drwy hacio
- Creu a dosbarthu newyddion ffug am unigolyn a dargedir
- Ymgais i flacmelio ac achosion llwyddiannus o flacmelio
- ‘Doxxing’ (cael mynediad at wybodaeth breifat unigolyn a’i rhannu ar-lein)
- Tarfu ar gyfarfodydd rhithwir (‘Zoombombing’ – delweddau pornograffaidd yn cael eu dangos yn ystod galwadau neu gyfarfodydd fideo gan bartïon nas gwahoddwyd)
Gall unrhyw un o’r uchod arwain at ganlyniadau difrifol a chwbl annerbyniol i’r unigolyn gan amrywio o gywilydd, yn y sefyllfa orau, i golli urddas a thrawma meddyliol difrifol yn y sefyllfa waethaf, a all arwain at ynysigrwydd, hunan-niweidio a hyd yn oed hunanladdiad. Yn nodedig, bydd dioddefwyr hefyd yn aml yn rhoi’r gorau i ddefnyddio’r rhyngrwyd, gan golli’r holl fanteision cysylltiedig yn ogystal â’u hymdeimlad o bŵer a’u mynediad at hawliau dynol sylfaenol.
Gall hyn fynd hyd yn oed yn waeth oherwydd, yn aml, caiff dioddefwyr trais ar-lein eu beio am y digwyddiad, oherwydd eu safbwyntiau, eu hymddygiad preifat neu’r ffaith eu bod wedi ceisio amddiffyn eu hunain neu wrthsefyll y gamdriniaeth.
Gall trais ar-lein ar sail rhywedd fod ar ffurf digwyddiad untro neu, yn fwy tebygol, ymgyrch barhaus i dargedu’r unigolyn. Gall fod yn gyfyngedig i sianeli ar-lein fel e-bost, SMS, negeseuon uniongyrchol, y cyfryngau cymdeithasol neu wefannau, neu gall gael ei gyflawni ar y cyd â fersiynau yn y ‘byd go iawn’ o’r un math o drais. Y prif wahaniaeth rhwng y ddau yw y gall cyflawnwyr ledaenu’r trais yn eang oherwydd natur feirol y rhyngrwyd.
Nid dim ond y rhai sy’n dechrau’r trais sy’n gyfrifol am y niwed a wneir, ond hefyd y rhai sydd naill ai’n ymuno â nhw drwy dargedu’r dioddefwr yn uniongyrchol, neu’n ei ledaenu drwy eu sianeli eu hunain, gan gynnwys ar lafar gwlad yn eu cymunedau eu hunain (weithiau’n anymwybodol o’u rhan yn y gadwyn).
Mae nifer yr achosion o drais ar-lein ar sail rhywedd wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau pandemig COVID-19. Yn anffodus, mae’r cynnydd diweddar mewn caledi economaidd, symudiadau cyfyngedig, ynysigrwydd cymdeithasol a phroblemau iechyd meddwl wedi creu’r cyflyrau delfrydol i gyflawnwyr.
Beth i’w wneud os cewch eich targedu gan drais ar sail rhywedd
Siaradwch ag aelod o’ch teulu, ffrind, cydweithiwr neu addysgwr rydych yn ymddiried ynddo i beidio â’ch barnu na lledaenu na rhoi gwybod am eich pryderon i’r gymuned ehangach.
- Peidiwch ag ymateb i’r cyflawnwr na’r rhai sy’n gyfrifol am ledaenu’r trais, gan y bydd hyn ond yn arwain at ddigwyddiadau pellach, gan gynnwys bygythiadau digymell.
- Rhwystrwch y cyflawnwr a’r rhai sy’n lledaenu’r trais.
- Os bydd y trais ar ffurf rhannu deunydd personol ar-lein, rhowch wybod amdano i’r wefan neu’r llwyfan cyfryngau cymdeithasol dan sylw, gofynnwch iddo gael ei dynnu oddi yno ac i’r defnyddiwr cyfrifol gael ei flocio.
- Rhowch wybod am fwlio ar-lein, camdriniaeth yn seiliedig ar ddelwedd neu ffurfiau eraill ar gam-drin ar-lein i’r heddlu.
- Rhowch wybod i’r heddlu am fygythiadau o niwed corfforol, blacmel, stelcio, hacio neu rannu deunydd preifat.
- Os yw trais ar-lein ar sail rhywedd wedi peri trawma i chi, gallwch geisio cymorth seicolegol proffesiynol. Mae nifer o gymunedau cymorth perthnasol ar gael ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol hefyd, ond gwnewch yn siŵr bod unrhyw rai y byddwch yn ymuno â nhw yn ddilys.
Os cewch eich temtio i dargedu unrhyw un gan ddefnyddio unrhyw un o’r mathau uchod o drais, p’un a gânt eu dechrau gennych chi neu gan rywun arall, meddyliwch ddwywaith. Ystyriwch yr effaith ar y dioddefwr bwriadedig a’r ffaith y gallech fod yn cyflawni trosedd hefyd. Mae’r un peth yn wir am anfon y math hwn o ddeunydd ymlaen at bobl eraill, neu ei rannu mewn ffordd arall, naill ai ar-lein neu all-lein.