Y risgiau
- Efallai na fydd plentyn yn ymwybodol o’r costau posibl os bydd ond yn manteisio ar gynnwys sydd ‘am ddim’.
- Mae rhai gemau am ddim yn ei gwneud yn ofynnol i gredyd gael ei wario er mwyn parhau i’r lefel nesaf, ac er y gallai’r swm rydych yn ei dalu bob tro fod yn isel, gall gronni a rhoi sioc i’r sawl sy’n talu’r bil ar ddiwedd y mis.
- Gall eich plentyn lawrlwytho fideo neu dôn canu heb sylweddoli ei fod wedi sbarduno tanysgrifiad i wasanaeth a fydd yn dechrau codi tâl i’r ffôn yn rheolaidd.
Costau Diogelu
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o weithgarwch eich plentyn ar eich ffôn clyfar neu’ch llechen chi.
- Peidiwch â caniatáu i’ch plentyn ddefnyddio eich dyfais symudol os ydych am osgoi unrhyw gostau annisgwyl.
- Dylech bob amser amddiffyn eich dyfais symudol gyda PIN, y dylech ei gadw’n gyfrinachol.
- Peidiwch â datgelu’r manylion mewngofnodi rydych yn eu defnyddio ar gyfer App Store, Google Play neu ffynonellau apiau eraill.
- Chwiliwch drwy eich biliau ffôn am rifau neu daliadau nad ydych yn eu hadnabod.
Rhagor o Wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, ewch Phone-Paid Services Authority