Y risgiau
- Talu am bwrcasiad rhywun arall yn ddiarwybod i chi pan fyddwch yn pasio eich ffôn neu gerdyn NFC dros ddarllennydd digyffwrdd pan fydd ei drafodyn yn cael ei brosesu.
- Talu allan o’r cyfrif anghywir am fod y darllennydd cardiau yn dod o hyd i’r cerdyn anghywir.
- Rhywun yn dwyn eich gwybodaeth ariannol – neu’n clonio eich cerdyn – am fod y signal di-wifr yn cael ei ryng-gipio gan dwyllwyr.
- Y wybodaeth a anfonir gan eich ffôn NFC yn cael ei llygru neu ei haddasu gan drydydd parti wrth gael ei throsglwyddo.
- Methu â gwneud taliadau os bydd batri eich ffôn NFC wedi marw.
- Methu â gwneud taliadau os caiff eich ffôn NFC ei golli neu ei ddwyn.
- Posibilrwydd o fethu â gwneud taliadau dramor oherwydd diffyg safonau cyffredin.
- Eich gwybodaeth ariannol ddim yn cael ei dileu yn iawn pan fyddwch yn cael gwared ar eich ffôn NFC.
- Eich sglodyn NFC yn cael ei ddileu o bell – naill ai mewn camgymeriad neu mewn ffordd faleisus.
Defnyddio Taliadau Digyffwrdd yn Ddiogel
- Os oes gennych ffôn NFC, gwnewch yn siŵr ei fod bob amser yn cael ei gloi pan fydd yn segur gan ddefnyddio PIN, y dylech ei newid yn rheolaidd.
- Cymerwch ofal ychwanegol i beidio â cholli na difrodi eich ffôn NFC oherwydd ei fod yn waled arall mewn gwirionedd.
- Diogelwch eich cardiau talu digyffwrdd drwy fuddsoddi mewn llewys neu waledi arbennig fel na all eraill eu rhyng-gipio, ac fel na fyddwch chi’n eu defnyddio ar ddamwain er mwyn talu am eich pwrcasiadau eich hun neu bobl eraill.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen a deall telerau ac amodau eich banc fel eich bod yn siŵr pwy sy’n atebol os bydd taliad anghywir neu os caiff diogelwch ei danseilio.
- Darllenwch eich datganiadau banc yn ofalus er mwyn sicrhau nad oes taliadau wedi’u cymryd o’ch cyfrif heb yn wybod i chi na heb eich caniatâd, naill ai yn fwriadol neu ar ddamwain.
Os bydd gennych broblem
I ddechrau, cysylltwch â’r banc neu ddarparwr cerdyn perthnasol.