Mae’r sgam wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn, ond cynyddodd nifer yr achosion y rhoddir gwybod amdanynt yn sylweddol ers dechrau pandemig COVID-19, pan ddaeth anifeiliaid anwes yn fwy poblogaidd wrth i bobl geisio cysur a chwmni yn ystod cyfyngiadau symud cysylltiedig. Manteisiodd twyllwyr ar y sefyllfa hon, ynghyd â’r cyfyngiadau teithio a’r mesurau cadw pellter cymdeithasol a orfodwyd, a oedd yn golygu ei bod hi’n anodd mynd i weld anifeiliaid anwes.
Mewn rhai achosion, bydd y twyll yn parhau ar ôl gwneud y taliad cychwynnol, pan fydd y cyflawnwyr yn gofyn am daliadau ychwanegol, gan honni eu bod i dalu am gostau fel brechiadau, yswiriant a danfon yr anifail anwes.
Bydd y rhan fwyaf o hysbysebion twyllodrus am anifeiliaid anwes yn ymddangos ar lwyfannau gwerthu anifeiliaid anwes penodol, marchnadoedd ar-lein a’r cyfryngau cymdeithasol, yn y drefn honno.
Amddiffynnwch eich hun rhag sgamiau anifeiliaid anwes
Os ydych yn ystyried prynu anifail anwes oddi ar wefan neu gan unigolyn nad ydych yn ei adnabod yn bersonol nac yn ymddiried ynddo, dylech ymchwilio iddi/iddo gan fod mor drylwyr â phosibl. Chwiliwch am adolygiadau gan brynwyr eraill a’u darllen. Os mai marchnad ar-lein yw’r llwyfan, edrychwch ar hanes adborth y gwerthwr cyn parhau.
- Dylech fynd i weld yr anifail yn bersonol bob amser, gan wneud yn siŵr eich bod hefyd yn gallu gweld y fam a gweddill y dorraid (os oes unrhyw frodyr neu chwiorydd). Os na allwch wneud hynny, gofynnwch am alwad fideo dros Zoom, Teams, WhatsApp, Facebook Messenger neu un o’r dulliau eraill sydd ar gael yn gyffredin. Os bydd y gwerthwr yn dweud wrthych na allwch naill ai gael fideo na gweld anifail y fam, gofynnwch pam, gan gofio bod gan dwyllwyr brofiad o ddylanwadu ar bobl a’u twyllo.
- Peidiwch â gwneud unrhyw daliadau – ni waeth pa mor fach ydynt – oni bai eich bod yn sicr bod yr anifail yn bodoli ac yn bodloni eich disgwyliadau, gan gynnwys ei gefndir.
- Peidiwch byth â thalu drwy drosglwyddiad banc, oherwydd bydd yn anodd neu’n amhosibl adennill eich arian os mai sgam ydyw, neu os bydd problem gyda’r anifail ei hun. Byddwch yn fwy tebygol o gael eich arian yn ôl os byddwch yn talu drwy gerdyn credyd neu wasanaeth talu fel PayPal.
Os byddwch yn dioddef sgam anifail anwes
Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich twyllo, cysylltwch â’ch banc ar unwaith a rhoi gwybod am yr achos i Action Fraud ar-lein yn actionfraud.police.uk neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Rhagor o wybodaeth
- Gallwch gael rhagor o wybodaeth am brynu ci yn thekennelclub.org.uk/getting-a-dog
- Gallwch gael rhagor o wybodaeth am brynu cath yn cats.org.uk/help-and-advice/getting-a-cat
- Mae’r RSPCA yn cynnig gwybodaeth am yr arfer greulon o ffermio cŵn bach, gan gynnwys cyngor ar sut i adnabod arwyddion hyn mewn ci rydych yn ystyried ei brynu rspca.org.uk/adviceandwelfare/pets/dogs/puppy/sales