Mae setiau teledu clyfar (a elwir yn setiau teledu cysylltiedig hefyd) yn integreiddio’r teledu â’r rhyngrwyd. Pan fyddant wedi’u cysylltu â’r rhyngrwyd, maent yn eich galluogi i chwilio a dod o hyd i fideos, ffilmiau, ffotograffau a chynnwys arall ar y we drwy ryngweithio drwy eich teclyn rheoli o bell – neu gyda rhai modelau, drwy eich ffôn clyfar neu lechen. Felly, gallwch chwilio’r rhyngrwyd, cael mynediad i’r cyfryngau cymdeithasol a defnyddio apiau fel Netflix, Skype a YouTube heb orfod newid rhwng dyfeisiau. Mae gwe-gamera yn rhan o rai ohonynt hefyd. Mae gan rai setiau teledu clyfar hefyd y gallu i fonitro a dadansoddi hanes eich defnydd, data a ddefnyddir i wneud argymhellion ar gyfer rhaglenni a chynnwys y byddech yn ei hoffi o bosibl.