- Safleoedd elusennol ffug – gwefannau ffug ar gyfer elusennau nad ydynt yn bodoli, fel gwefannau twyllodrus dros dro a gaiff eu sefydlu yn ystod trychinebau y rhoddir llawer o gyhoeddusrwydd iddynt (er enghraifft newynau a daeargrynfeydd).
- E-byst gwe-rwydo – e-byst a anfonir atoch i geisio eich twyllo i ddatgelu eich manylion banc a’ch cyfrineiriau.
- Twyll sy’n deillio o wneud taliadau dros wedudalennau anniogel.
- Achosion o ddwyn hunaniaeth a achosir gan feirysau neu ysbïwedd, sy’n rhoi mynediad i droseddwyr i’r cyfrifon banc a gwybodaeth bersonol arall sydd wedi’i storio ar eich cyfrifiadur.
Rhoi yn Ddiogel
Er mwyn sicrhau eich bod yn rhoi yn ddiogel:
Er mwyn gwirio dilysrwydd elusen gofrestredig, ewch i gofrestr ar-lein eich rheoleiddiwr elusen genedlaethol:
Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr
Yng Nghymru a Lloegr, mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o elusennau sydd ag incwm blynyddol o £5,000 neu fwy fod wedi’u cofrestru â’r Comisiwn. Mae’r Comisiwn yn cynnal cofrestr ar-lein. https://www.charity-commission.gov.uk
Efallai y byddwch hefyd am weld p’un a yw elusen yn perthyn i’r huanreoleiddiwr codi arian yn y DU, y Bwrdd Safonau Codi Arian (FRSB) http://www.frsb.org.uk/give-with-confidence/
Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll:
Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll, ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk.