Y risgiau
Gallai meddalwedd wystlo fel CryptoLocker neu WannaCry heintio eich cyfrifiadur pan fyddwch yn gwneud y canlynol yn anfwriadol:
- Agor atodiad maleisus mewn e-bost.
- Clicio ar ddolen faleisus mewn neges e-bost, neges uniongyrchol, safle rhwydweithio cymdeithasol neu wefan arall.
- Ymweld â gwefan lwgr – yn aml mae’r rhain o natur bornograffig.
- Agor ffeiliau wedi’u heintio gan gwmnïau dosbarthu ffeiliau digidol ar y we (er enghraifft Hightail – YouSendIt gynt, a Dropbox).
- Agor macros llwgr mewn dogfennau cymwysiadau (prosesu geiriau, taenlenni ac ati).
- Cysylltu dyfeisiau cyswllt USB llwgr (e.e. cofau bach, gyriannau caled allanol, chwaraewyr MP3).
- Rhoi CDs/DVDs llwgr yn eich cyfrifiadur.
Osgoi Meddalwedd Wystlo
- Peidiwch ag ateb i e-byst digymell na sbam gan gwmnïau neu unigolion nad ydych yn eu hadnabod na chlicio ar ddolenni yn yr e-byst hynny.
- Dim ond gwefannau rydych yn gwybod eu bod nhw’n ddilys y dylech ymweld â nhw.
- Dylech bob amser ddiweddaru meddalwedd ac apiau – yn cynnwys systemau gweithredu – cyn gynted ag y cewch eich annog i wneud hynny.
- Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i ddiweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.
- Gwnewch gopi wrth gefn o’ch oll ddata yn rheolaidd, yn cynnwys i ddyfais wedi’i chysylltu ag USB sydd wedi’i storio o bell o’ch cyfrifiadur. Mae hyn oherwydd y gall meddalwedd wystlo penodol hefyd heintio eich storfa cwmwl.
Os oes gennych feddalwedd wystlo ar eich cyfrifiadur
- Er mwyn canfod a dileu meddalwedd wystlo a meddalwedd faleisus arall a all fod wedi’u gosod ar eich cyfrifiadur, rhedwch sgan system lawn gyda datrysiad diogelwch priodol cyfredol.
- Os yw eich cyfrifiadur wedi cael ei gloi gan feddalwedd wystlo, ceisiwch gyngor proffesiynol o ffynhonnell ddibynadwy.
Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.