Y risgiau
- Twyll sy’n deillio o wneud taliadau dros wedudalennau anniogel.
- Safleoedd prynu tocynnau ffug – gwefannau ffug a chynigion dros e-bost ar gyfer tocynnau nad ydynt yn bodoli.
- Negeseuon ffug ar fforymau cefnogwyr – prynu tocynnau nad ydynt yn bodoli.
- Peidio â derbyn tocynnau, ar ôl trosglwyddo arian yn uniongyrchol i gyfrif banc twyllwr.
- Derbyn tocynnau nad ydynt yn cyfateb i ddisgrifiad y gwerthwr.
Prynu Tocynnau’n Ddiogel
- Prynwch docynnau o swyddfa docynnau’r safle, hyrwyddwr, asiant swyddogol neu wefan cyfnewid tocynnau ddibynadwy.
- Cofiwch fod talu â cherdyn credyd yn eich amddiffyn yn well na dulliau eraill mewn perthynas â thwyll, gwarantau ac achosion o fethu â dosbarthu.
- Gwnewch yn siŵr fod yr holl fanylion prynu tocynnau yn gywir cyn cadarnhau’r taliad.
- Peidiwch ag ateb e-byst digymell gan werthwyr nad ydych yn eu hadnabod.
- Cyn rhoi manylion cerdyn talu ar wefan, gwnewch yn siŵr fod y ddolen yn ddiogel, mewn dwy ffordd:
- Dylai fod symbol clo clap yn ffrâm ffenestr y porwr, sy’n ymddangos pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi neu gofrestru. Gwnewch yn siŵr nad yw’r clo clap ar y dudalen ei hun … mae’n debyg y bydd hyn yn arwydd o safle twyllodrus.
- Dylai’r cyfeiriad gwe ddechrau gyda ‘https://’. Mae’r ‘s’ yn golygu ei bod yn ddiogel.
- Mae’r uchod yn dangos bod y cyswllt rhyngoch chi a pherchennog y wefan yn ddiogel, ond nid yw’n dangos bod y safle ei hun yn ddilys. Mae angen i chi wneud hyn yn ofalus drwy chwilio am achosion cynnil o gamsillafu yn y cyfeiriad, geiriau a nodau ychwanegol ac achosion eraill o afreoleidd-dra.
- Bydd rhai gwefannau yn eich ailgyfeirio chi at wasanaeth talu trydydd parti (fel WorldPay). Gwnewch yn siŵr fod y safleoedd hyn yn ddiogel cyn gwneud eich taliad.
- Diogelwch a chofiwch y cyfrinair a ddewiswyd gennych ar gyfer y gwasanaethau dilysu ychwanegol a ddefnyddiwyd ar rai gwefannau, fel Verified by Visa.
- Os byddwch yn dewis prynu tocynnau gan unigolyn (er enghraifft ar eBay), peidiwch byth â throsglwyddo’r arian yn uniongyrchol i’w gyfrif banc. Yn hytrach, defnyddiwch safle talu’n ddiogel fel PayPal, lle caiff taliad ei drosglwyddo rhwng dau gyfrif electronig.
- Darllenwch bolisïau preifatrwydd a dychwelyd y gwerthwr.
- Dylech bob amser allgofnodi o safleoedd rydych wedi mewngofnodi iddynt neu roi manylion cofrestru arnynt. Nid yw cau eich porwr yn ddigon i sicrhau preifatrwydd.
- Cadwch dderbynebau.
- Darllenwch ddatganiadau cardiau credyd a banc yn ofalus ar ôl prynu tocynnau er mwyn gwneud yn siŵr bod y swm cywir wedi cael ei ddebydu, a hefyd nad oes unrhyw dwyll wedi digwydd o ganlyniad i’r trafodyn.
- Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.
Rhagor o Wybodaeth
Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll: Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk.
Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.