English

Porn Dial

Pornograffi dial yw’r arfer o uwchlwytho delweddau rhywiol ar-lein – ffotograffau a fideos yn benodol – o gyn-bartneriaid (neu bartneriaid presennol hyd yn oed) heb eu caniatâd. Fel arfer, caiff y delweddau eu cymryd yn ystod perthynas agos. Weithiau bydd manylion personol yn cyd-fynd â’r delweddau, fel cyfeiriad a rhif ffôn y dioddefwr.

Fel y mae’r enw’n ei awgrymu, mae’r sawl sy’n postio pornograffi dial yn gwneud hynny er mwyn dial am gael ei wrthod neu’r hyn y mae’n ei ystyried yn fath arall o anghyfiawnder. Er nad oes rheol bendant, mae’r mwyafrif o’r troseddwyr yn ddynion a’r rhan fwyaf o’r dioddefwyr yn ferched ifanc.

Weithiau, caiff ei ddefnyddio ar gyfer blacmêl, gyda’r bygythiad y caiff delweddau eu rhannu – neu os ydyn nhw eisoes ar-lein, eu gadael yno – hyd nes y caiff swm o arian ei dalu neu hyd nes bydd y dioddefwr yn cytuno i ailddechrau’r berthynas.

Mae tri phrif fforwm yn cael eu defnyddio i rannu delweddau rhywiol o’r fath:

  • Safleoedd cyfryngau cymdeithasol. Mae Twitter a Facebook wedi atgyfnerthu eu polisïau ynghylch pornograffi dial a’r sawl sy’n ei rannu yn ddiweddar.
  • Gwefannau a fforymau pornograffi dial.
  • Negeseuon uniongyrchol i’r dioddefwr a thrydydd partïon a anfonir drwy e-bost neu neges destun

Ym mis Chwefror 2015, daeth pornograffi dial yn drosedd o dan y Bil Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd.

Y risgiau

  • Cyn-bartner i chi (neu rywun arall) yn postio neu’n rhannu delweddau rhywiol/personol ohonoch, sy’n peri gofid mawr ar y gwaethaf neu gywilydd ar y gorau.
  • Dioddef blacmel ariannol neu emosiynol.
  • Os mai chi sy’n cyflawni gweithred pornograffi dial, bydd posibilrwydd gwirioneddol iawn o’r canlynol:
  • Y cewch eich euogfarnu o drosedd, gyda dedfryd bosibl o hyd at ddwy flynedd yn y carchar.
  • Achosi gofid mawr i’ch dioddefwr, gyda chanlyniadau trychinebus posibl iddyn nhw a’u teulu.

Cofiwch, ni waeth pa mor agos ydych chi i rywun, gall pethau newid a gallai ffotograffau neu fideos a gaiff eu cymryd yn ystod perthynas gael eu rhannu ag eraill.

Os ydych wedi dioddef pornograffi dial

  • Peidiwch ag ymateb i fygythiadau blacmêl.
  • Rhowch wybod i’r heddlu am hyn.
  • Os bydd yn ymddangos ar wefan neu ar safle cyfryngau cymdeithasol, rhowch wybod i’r safle am y delweddau, gofynnwch iddynt gael eu dileu, ac i’r troseddwr gael ei flocio.
  • I gael cymorth a chyngor, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Pornograffi Dial yn www.swgfl.org.uk/products-services/esafety/revenge-porn-helpline neu drwy ffonio 0845 6000 459. Caiff y llinell gymorth ei gweithredu gan y South West Grid for Learning.
  • Peidiwch â theimlo gormod o gywilydd nac embarás i roi gwybod am bornograffi dial, oherwydd gallwch fod yn helpu eich hun yn ogystal â dioddefwyr gwirioneddol neu bosibl eraill.

BBC Crimewatch – Sextortion Report o Get Safe Online ar Vimeo.

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

 

See Also...

In Partnership With