Pwy sy’n wynebu’r risg fwyaf?
- Mae pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o gymryd rhan mewn seiberdroseddu yn debygol o fod â diddordeb mawr mewn technoleg.
- Yn aml, caiff hyn ei ysgogi gan frwdfrydedd dros chwarae gemau, a all fod wedi arwain at ymweld â gwefannau a fforymau sy’n rhannu codau twyllo wrth chwarae gemau cyfrifiadurol. Gall y sefyllfaoedd hyn fod yn boblogaidd ar gyfer codio maleiswedd a seiberdroseddau arall.
- Efallai na fydd y bobl ifanc yn cael eu herio’n ddigonol gan gynnwys meysydd llafur technoleg yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol.
- Mewn rhai achosion (ond nid pob un o bell ffordd), maent wedi cael diagnosis o fath o awtistiaeth neu Syndrom Asperger.
Mae ymchwil gan Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU yn awgrymu y gallai pobl ifanc mor ifanc â 12 oed wynebu risg o gael eu cynnwys mewn troseddau seiber-ddibynnol. Mae rhai yn cael enillion ariannol mawr, ond i eraill, y nod yw cwblhau her, cael ymdeimlad o gyflawniad ac ennill ‘bathodyn anrhydedd’ o fewn eu grŵp o gyfoedion. Mae’r rhan fwyaf o’r rhai yr effeithiwyd arnynt yn meddwl bod y tebygolrwydd o wynebu camau gorfodi’r gyfraith yn isel, ac nid yw rhai hyd yn oed yn sylweddoli bod eu camau yn cyfateb i weithgarwch troseddol.
Fel rhiant neu ofalwr, mae’n annhebygol y byddwch yn amau unrhyw weithgarwch troseddol os bydd person ifanc yn eich cartref yn treulio cyfnodau hir ar-lein. Mewn gwirionedd, efallai y byddwch yn meddwl eu bod wedi’u diogelu am eu bod yn ‘ddiogel yn y tŷ’.
Canlyniadau posibl
- Ymweliad gan swyddogion gorfodi’r gyfraith sy’n arwain at rybudd neu arestio posibl, dirwyon a/neu garchariad.
- Gorchymyn llys sy’n cyfyngu ar fynediad i’r rhyngrwyd.
- Cofnod troseddol, a allai effeithio ar addysg a rhagolygon gyrfa.
Mathau o seiberdroseddau
1. Troseddau seiber-ddibynnol (neu seiberdroseddau ‘pur’) yw’r rhai y gellir ond eu cyflawni drwy ddefnyddio cyfrifiadur, rhwydweithiau cyfrifiadurol neu fathau eraill o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh). Un enghraifft o drosedd seiber-ddibynnol fyddai cynnal ymosodiad gwrthod gwasanaeth, wedi’i gynllunio i foddi gwefan â thraffig er mwyn ei hatal rhag gweithredu.
2. Troseddau a hwylusir gan ddulliau seiber yw troseddau traddodiadol y gellir cynyddu eu graddfa neu eu cwmpas drwy ddefnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd. Byddai twyll marchnata torfol a sgamiau defnyddwyr ar-lein yn enghreifftiau o hyn.
Os oes gennych bryder
Os oes gennych bryder bod eich plentyn neu berson ifanc arall rydych yn ei adnabod yn gwneud y dewisiadau seiber anghywir, dylech gysylltu â’r tîm Atal SeiberDroseddau yn eich Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol (ROCU).
Gyrfaoedd sy’n defnyddio codio a sgiliau cyfrifiadurol eraill
Gall fod sawl cyfle i bobl ifanc yn eu harddegau droi eu talentau codio a’u talentau cyfrifiadurol eraill at yrfaoedd gwerth chweil sy’n talu’n dda. Mae’r prinder sgiliau seiber ledled y DU ac yn fyd-eang wedi arwain at nifer fawr o gyfleoedd o’r fath ym maes chwarae gemau, y cyfryngau cymdeithasol a chwmnïau technoleg eraill, ac asiantaethau’r llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith.
Ceir canllawiau drwy ddilyn y dolenni canlynol:
CYBER SECURITY CHALLENGE
Rhaglenni wedi’u cynllunio i nodi, ysbrydoli a galluogi mwy o bobl i ddod yn weithwyr proffesiynol ym maes diogelwch seiber www.cybersecuritychallenge.org.uk
NCSC CYBER FIRST
Datblygu cenhedlaeth nesaf y DU o weithwyr proffesiynol ym maes seiber drwy fwrsarïau myfyrwyr, cyrsiau a chystadlaethau www.cyberfirst.ncsc.gov.uk
IMMERSIVE LABS
Am ddim (i fyfyrwyr) – dysgu rhithwir ar borwr ar-lein i bob gallu www.immersivelabs.com
CYBRARY
Hyfforddiant Seiberddiogelwch ar-lein am ddim gyda dewis o gannoedd o gyrsiau http://www.cybrary.it
KHAN ACADEMY
Fideos, ymarferion, rhaglenni seiberddiogelwch ar-lein am ddim www.khanacademy.org
Fideo NCA
Gwyliwch fideo NCA ar helpu pobl ifanc i wneud y #dewisiadauseiber cywir yn
Adnodd i athrawon
Mae Cyber Security Challenge UK wedi datblygu adnoddau addysgu am ddim er mwyn helpu rhieni ac athrawon i godi ymwybyddiaeth o seiberdroseddau ymysg pobl ifanc.