English

Osgoi Ratio – Trojans Mynediad o Bell

Rydych yn defnyddio eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol ar gyfer llawer o dasgau preifat neu gyfrinachol bob dydd, a dyna pam ei bod yn hanfodol eich bod yn cymryd rhagofalon i’w hamddiffyn rhag feirysau ac ysbïwedd. Un math o ysbïwedd sy’n cael ei defnyddio fwyfwy yw RAT (Cnafon Mynediad o Bell), y gall troseddwyr eu defnyddio i gael mynediad i’ch cyfrifiadur neu ddyfais symudol er mwyn cymryd rheolaeth drosti i gael gwybodaeth breifat amdanoch neu i ysbïo arnoch. Caiff hyn ei alw’n fel ‘ratting’.

Fel arfer, caiff RATs eu lawrlwytho’n anweledig gan ddefnyddio rhaglen y gwnaethoch chi gais amdani hi – er enghraifft gêm – neu a anfonwyd atoch fel atodiad mewn e-bost. Gallant gyflawni gweithredoedd sy’n debyg i feddalwedd go iawn. Gall RATs fod yn anodd eu canfod un ai am nad ydynt fel arfer yn dangos mewn rhestrau o’r rhaglenni neu’r tasgau rydych chi’n eu defnyddio, neu nad ydych fel arfer yn sylwi eu bod yn effeithio ar berfformiad eich dyfais.

Mae RATs yn cael eu defnyddio fwyfwy i gymryd rheolaeth dros we-gamerâu, gyda’r nod o ddefnyddio’r fideos neu’r delweddau dilynol ar gyfer blacmel neu at ddibenion amhriodol eraill.

Y risgiau

  • Rhywun yn ysbïo arnoch chi (eich recordio) drwy eich gwe-gamera eich hun. Mewn rhai achosion, maent wedi’u cynllunio i wneud hyn heb actifadu’r golau dangosydd, felly ni fyddwch yn ymwybodol eich bod yn cael eich gwylio.
  • Rhywun yn monitro eich ymddygiad ar-lein (yn cynnwys pa wefannau rydych chi’n ymweld â nhw, pwy rydych chi’n ei e-bostio, beth rydych chi’n ei deipio.
  • Rhywun yn cael mynediad i’ch gwybodaeth gyfrinachol – yn cynnwys eich cyfrif banc a manylion nawdd cymdeithasol.
  • Cael eich defnyddio fel botrwyd i rannu feirysau a maleiswedd arall.
  • Rhywun yn fformatio gyriant eich cyfrifiadur.
  • Rhywun yn dileu, lawrlwytho neu’n newid eich ffeiliau a’ch systemau ffeiliau.

Sut i Osgoi ‘Ratting’

  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd a wal dân yn rhedeg pryd bynnag y bydd eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol wedi’i throi ymlaen.
  • Peidiwch â chael eich temtio i lawrlwytho rhaglenni neu apiau nad ydynt yn dod o ffynhonnell rydych yn ymddiried ynddi, oherwydd gallent gynnwys RATs a maleiswedd arall.
  • Dylech lawrlwytho diweddariadau i’ch rhaglenni a’ch apiau pan gewch eich annog i wneud hynny … yn aml maent yn cynnwys datrysiadau diogelwch.
  • Cymerwch ofal mawr wrth glicio ar ddolenni mewn e-byst – gallant fod yn achosion o we-rwydo.
  • Cymerwch ofal mawr wrth agor atodiadau mewn e-byst, hyd yn oed os yw’n ymddangos eu bod gan bobl rydych yn eu hadnabod.
  • Dylech osgoi gwefannau amheus a lawrlwytho mewn sympiau. Mae lawrlwython o’r fath yn aml yn erbyn y gyfraith, ond mae hefyd yn galluogi’r math hwn o ymosodiad seiber.
  • Dylech orchuddio eich gwe-gamera pan na fydd yn cael ei ddefnyddio, p’un a yw’n ddyfais fewnol neu wedi’i hatodi.

Os ydych yn credu bod rhywun wedi bod yn ysbïo arnoch drwy eich gwe-gamera

Dylech roi gwybod i’ch heddlu lleol am y digwyddiad.

Os ydych wedi wynebu seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioeddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

In Partnership With