Mae’n anghyfreithlon gweithgynhyrchu a gwerthu nwyddau ffug. Fodd bynnag, nid yw’n anghyfreithlon prynu nwyddau ffug, hyd yn oed os byddwch yn gwneud hynny’n fwriadol. Fodd bynnag, mae llawer o resymau pam na ddylech wneud hynny.
Y risgiau
- Fel arfer, nid yw nwyddau ffug o ansawdd cystal â’r rhai go iawn ac efallai na fyddan nhw’n edrych cystal, yn achos dillad, efallai na fyddan nhw’n ffitio cystal neu yn achos eitemau trydanol, efallai na fyddan nhw’n gweithio cystal. Efallai na fyddan nhw’n addas at y diben hyd yn oed.
- Gall prynu nwyddau ffug beri risg i’ch diogelwch (neu i ddiogelwch eraill). Ni chaiff nwyddau trydanol ffug eu profi fel sy’n ofynnol ar gyfer rhai go iawn, felly gallant achosi sioc neu fynd ar dân. Eto, ni fydd persawrau na cholur yn cael eu profi a gallant gynnwys lefelau uchel o gemegion gwenwynig.
- Nid yw rhai gwefannau sy’n hysbysebu ac yn gwerthu nwyddau ffug yn ddiogel i’w defnyddio oherwydd y gallai fod perygl i’ch manylion personol, a/neu gallai eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol gael ei heintio gan faleiswedd.
- Mae prynu nwyddau ffug yn niweidio busnesau gweithgynhyrchwyr yr eitemau go iawn, a bywoliaeth eu cyflogeion. Mae hefyd yn lleihau faint o arian sy’n mynd i mewn i economi ein gwlad.
- Mae rhai nwyddau ffug yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio llafur gorfodol.
- Yn aml, defnyddir elw o werthu nwyddau ffug i ariannu troseddau cyfundrefnol mwy sinistr fel smyglo pobl, caethwasiaeth a therfysgaeth.
- Gallai troseddwyr fanteisio ar y manylion y byddwch chi’n eu rhoi ar wefan sy’n gwerthu nwyddau ffug, er enghraifft, gallent sefydlu rhagor o wefannau anghyfreithlon gan eich cofrestru chi fel y perchennog.
- Mae cynhyrchu a gwerthu nwyddau er budd ariannol drwy ddefnyddio nod masnach heb ganiatâd y perchennog yn droseddau sy’n arwain at gosbau trwm, yn cynnwys dirwyon sylweddol a/neu gyfnod yn y carchar.
Os byddwch chi’n cael eich temtio i brynu nwyddau ffug
- Ni waeth pa mor awyddus ydych chi i gael gafael ar eitem, peidiwch byth â phrynu fersiwn ffug ar bwrpas, am y rhesymau a restrir uchod.
Sut i osgoi prynu nwyddau ffug yn anfwriadol
- Dim ond gan werthwyr cydnabyddedig rydych chi’n gwybod eu bod yn ddilys o brofiad neu drwy argymhelliad y dylech brynu. Darllenwch fforymau a blogiau.
- Edrychwch ar ramadeg a sillafu y wefan – yn cynnwys y sillafu yng nghyfeiriad y wefan. Yn aml, mae twyllwyr yn gwneud mân newidiadau i’r cyfeiriad er mwyn eich twyllo i gredu ei fod yn wir. Mae bob amser yn werth teipio’r cyfeiriad y gwyddoch ei fod yn gywir.
- Os byddwch yn prynu o safle arwerthu, gwiriwch fanylion y gwerthwr, a darllenwch adolygiadau.
- Byddwch yn wyliadwrus o nwyddau a gaiff eu hysbysebu ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol neu drwy neges destun.
- Edrychwch i weld a oes gan y gwerthwr gyfeiriad post, ac nid dim ond Flwch Postio neu gyfeiriad e-bost.
- Cofiwch nad yw cyfeiriad .co.uk yn brawf bod gwefan wedi’i lleoli yn y DU.
- Chwiliwch am bolisi neu warant dychwelyd nwyddau. Ni fydd y rhan fwyaf o fasnachwyr ffug yn cynnig y rhain.
- Os caiff eitem sy’n ddrud fel arfer ei chynnig am bris rhatach, holwch eich hun pam.
- Gwiriwch fod y dudalen dalu yn ddiogel – darllenwch ein tudalen gyngor.
- Peidiwch byth â thalu am nwyddau drwy drosglwyddiad banc. Yn aml, bydd cais am daliad o’r math hwn yn arwydd o sgam, ac ni fydd yn ofynnol i’ch banc ad-dalu eich arian.
Os ydych wedi cael eich twyllo gan werthwyr nwyddau ffug, rhowch wybod amdano i Action Fraud neu ffoniwch 0300 123 2040.
Sut i roi gwybod am drosedd Eiddo Deallusol
Ewch i’r wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch 03454 04 05 06.
I gael cynghorydd sy’n siarad Cymraeg, ffoniwch 03454 04 05 05.
Os hoffech aros yn ddienw, cysylltwch â Taclo’r Tacle neu ffoniwch 0800 555 111.
Eich Awdurdod Safonau Masnachu lleol yw’r brif asiantaeth sy’n gorfodi deddfwriaeth eiddo deallusol troseddol. Os oes gennych bryderon am unrhyw berson neu fusnes a all fod yn rhan o drosedd eiddo deallusol, neu’n ymwybodol o achos o’r fath, gallwch gysylltu ag un o’r sefydliadau uchod.