Y risgiau
- Gellid rhannu eich data â gwefannau a busnesau eraill.
- Efallai na fyddwch yn cael y cynnig gorau am nad yw’r canlyniadau wedi cael eu rhestru yn y drefn orau i chi, neu fod rhai cynigion wedi’u hepgor yn y canlyniadau.
- Efallai na fydd rhai gwefannau yn derbyn cwynion.
- Mewn nifer fath o achosion, gall y gwefannau y ceir dolenni iddynt o’r safle cymharu prisiau – neu’r safle ei hun – fod yn ffug.
- Negeseuon e-bost gwe-rwydo sy’n gofyn am fanylion mewngofnodi a manylion cardiau talu, sy’n honni eu bod o wefannau cymharu prisiau, ond sydd oddi wrth dwyllwyr go iawn.
Defnyddio Safleoedd Cymharu Prisiau yn Ddiogel
- Diogelwch eich data drwy edrych ar delerau ac amodau’r safle cymharu prisiau sy’n ymwneud â data a phreifatrwydd.
- Os nad ydych am i’ch gwybodaeth bersonol gael ei throsglwyddo i gwmnïau eraill, gwnewch yn siŵr fod gennych y gallu i ‘optio allan’ o wneud hynny ar y wefan, er enghraifft drwy dicio blwch i ddweud nad ydych yn rhoi eich cydsyniad i’ch gwybodaeth gael ei rhannu.
- Gwnewch y gymhariaeth drwy ofyn am y canlyniadau sydd fwyaf defnyddiol i chi, er enghraifft nid dim ond yn ôl pris ond efallai y tâl dros ben ar bolisi yswiriant, neu delerau hyblyg gyda benthyciad.
- Holwch a yw eich canlyniadau’n cael eu cyflwyno yn ôl perthnasedd, pris neu boblogrwydd a’r hyn y mae’r wefan yn ei ddweud ynghylch pa mor aml y mae’n diweddaru ei gwybodaeth am brisiau ac argaeledd nwyddau.
- Defnyddiwch nifer o safleoedd gwahanol: nid yw pob cynnig ar gael ar bob safle er gwaethaf y ffaith eu bod yn cynnwys ymadroddion fel ‘rydyn ni wedi dod o hyd i’r cynnig gorau’ neu ‘rydyn ni wedi chwilio’r farchnad’.
- Dylech wybod gyda phwy rydych yn gwneud busnes. Gwnewch yn siŵr bod y safle yn datgelu beth yw’r busnes (nid dim ond enw’r wefan) a chyfeiriad y busnes, y mae’r ddau yn ofynion cyfreithiol.
- Os yw’n bosibl, defnyddiwch safle sydd wedi’i achredu gan y corff rheoleiddio perthnasol, fel Llais Defnyddwyr ar gyfer cynhyrchion ynni, Ofcom ar gyfer telathrebu a’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol sydd wedi’i gefnogi gan y Llywodraeth ar gyfer gwasanaethau ariannol.
Mae’r cyngor uchod hefyd yn gymwys i unrhyw wefannau y cewch eich cyfeirio atynt drwy’r safle cymharu prisiau.
A chofiwch bob amser…
- Defnyddiwch gyfrineiriau cryf. Peidiwch byth â datgelu eich cyfrineiriau i gael mynediad i wefan neu i wneud taliadau ar-lein i neb.
- Os ydych yn meddwl bod eich cyfrif talu ar-lein wedi cael ei beryglu, gweithredwch ar unwaith. Ewch ar dudalen gymorth ar-lein y safle.
- Pwyllwch cyn clicio ar ddolenni mewn negeseuon e-bost digymell. Er enghraifft, mae’n well rhoi cyfeiriad gwefan eich banc yn uniongyrchol yn eich porwr, neu ddefnyddio nod tudalen a grëwyd gennych gan ddefnyddio’r cyfeiriad cywir.
- Os byddwch yn talu â cherdyn talu, cofiwch fod cerdyn credyd yn eich amddiffyn yn well na dulliau eraill mewn perthynas â thwyll, gwarantau ac achosion o fethu â dosbarthu.
- Wrth dalu naill ai drwy wasanaeth talu ar-lein neu gan ddefnyddio cerdyn talu, gwnewch yn siŵr fod y ddolen yn ddiogel, mewn dwy ffordd:
- Dylai fod symbol clo clap yn ffrâm ffenest y porwr, sy’n ymddangos pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi neu gofrestru. Gwnewch yn siŵr nad yw’r clo clap ar y dudalen ei hun … mae’n debyg y bydd hyn yn arwydd o safle twyllodrus.
- Dylai’r cyfeiriad gwe ddechrau gyda ‘https://’. Mae’r ‘s’ yn golygu ei bod yn ddiogel.
- Mae’r uchod yn dangos bod y cyswllt rhyngoch chi a pherchennog y wefan yn ddiogel, ond nid yw’n dangos bod y safle ei hun yn ddilys. Mae angen i chi wneud hyn yn ofalus drwy chwilio am achosion cynnil o gamsillafu yn y cyfeiriad, geiriau a nodau ychwanegol ac achosion eraill o afreoleidd-dra.
- Dylech bob amser allgofnodi o safleoedd rydych wedi mewngofnodi iddynt neu roi manylion cofrestru arnynt. Nid yw cau eich porwr yn ddigon i sicrhau preifatrwydd.
- Cadwch dderbynebau.
- Darllenwch ddatganiadau cardiau credyd a banc yn ofalus ar ôl siopa er mwyn gwneud yn siŵr bod y swm cywir wedi cael ei ddebydu, a hefyd nad oes unrhyw dwyll wedi digwydd o ganlyniad i’r trafodyn.
- Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/ gwrthysbïwedd a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu broblemau mewn perthynas â safle cymharu prisiau
Cysylltwch â’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth, a all eich helpu i gyfeirio eich cwyn at y person perthnasol. Ewch i www.advice.org.uk neu ffoniwch linell gymorth y Ganolfan Cyngor Ar Bopeth i ddefnyddwyr ar 08454 04 05 06.
Os ydych yn amau eich bod wedi cael eich cyfeirio at wefan anonest neu dwyllodrus, rhowch wybod i dîm y wefan cymharu prisiau am y digwyddiad.
Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll:
Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk.