Y risgiau
Mae llawer o wefannau argymell crefftwyr yn ddilys ac yn sicrhau diwydrwydd dyladwy cyn rhestru. Fodd bynnag, ar rai safleoedd, nid oes angen llawer o brawf o brofiad, arbenigedd na chymwysterau gan y crefftwr/cwmni, os o gwbl. Yn hytrach, y cyfan sydd ei angen yw talu ffi. Weithiau, mae’r adolygiadau gan gwsmeriaid wedi cael eu ffugio hefyd. Credu eich bod yn ymgysylltu ag arbenigwr, a allai arwain at:
- Gwaith ansafonol.
- Gwaith peryglus.
- Gwaith nad yw wedi’i warantu, neu y mae’r warant yn ddiwerth, a allai leihau gwerth eich eiddo o bosibl.
- Crefftwr heb unrhyw yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, yswiriant pob risg nac yswiriant atebolrwydd cyflogwr (lle y bo’n briodol).
- Talu cyfraddau marchnad sy’n uwch na’r hyn sy’n dderbyniol yn fasnachol am y gwaith.
- Crefftwyr twyllodrus sy’n gofyn am daliad ymlaen llaw – yn aml ‘ar gyfer deunyddiau’ – dim ond i ddianc gyda’ch arian.
Diogelwch eich hun – a’ch eiddo
- Cyn dewis crefftwr, chwiliwch ar-lein am adolygiadau cadarnhaol a negyddol (nid dim ond gwefannau argymell crefftwr).
- Trefnwch eich bod yn cyfarfod yn bersonol i drafod y gwaith, yn eich cartref neu rywle arall lle mae angen i’r gwaith gael ei wneud.
- Gwnewch yn siŵr fod y crefftwr yn fodlon darparu cyfeiriad a rhif ffôn safle’r busnes, a gwiriwch eu bod yn ddilys.
- Gwnewch yn siŵr fod y crefftwr/cwmni rydych yn ei ddewis yn ddigon cymwys a phrofiadol i wneud y math o waith rydych am ei gael, i’r safon angenrheidiol.
- Gofynnwch am amcangyfrif ysgrifenedig ar gyfer y gwaith cyn gofyn i’r crefftwr fynd rhagddo.
- Os byddwch yn gwneud unrhyw daliadau ymlaen llaw neu fesul cam, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael derbynneb wedi’i theipio neu un wedi’i hysgrifennu â llaw, gan nodi’r swm a dalwyd ac am beth.
- Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael derbynneb ar gyfer y taliad olaf, neu’r taliad cyfan os mai ar y diwedd y caiff hwn ei wneud.
- Bydd rhai twyllwyr yn gyrru eu dioddefwyr i’r banc i dynnu symiau mawr o arian allan ar gyfer beth maen nhw’n ei feddwl sy’n daliadau ymlaen llaw. Os bydd hyn yn digwydd i chi, rhowch wybod i gymydog, neu eglurwch wrth gyflogai yn y banc eich bod chi yno dan orfodaeth.