Y risgiau
Rydych yn clicio ar ddolen mewn trydariad, neu bost ar eich cyfryngau cymdeithasol neu safle sy’n dangos fideo – neu mewn neges uniongyrchol – sydd naill ai’n hysbysebu rhodd neu gynnig arbennig … neu, yn eironig, yn eich rhybuddio i gymryd camau er mwyn osgoi rhyw fath o golled ariannol. Gallai hyn ymddangos ei fod gan unrhyw un – yn cynnwys cyswllt yr ymddiriedir ynddo os yw ei gyfrif cyfryngau cymdeithasol wedi cael ei beryglu neu ei ffugio.
- Mae’r ddolen yn mynd â chi i wefan sy’n gofyn am fanylion cyfrinachol neu sy’n achosi i’ch cyfrifiadur neu eich dyfais symudol gael ei heintio gan faleiswedd.
- Neu, efallai y bydd y post, y trydariad neu’r neges yn dweud wrthych am wneud galwad ffôn i rif penodol. Gall hyn naill ai olygu y gwneir cais am fanylion cyfrinachol, neu byddant i rif cyfradd premiwm sy’n arwain at ychwanegu costau afresymol i’ch bil ffôn.
- Mae’r troseddwr yn creu cyfrif gwasanaeth cwsmeriaid Twitter argyhoeddiadol ond ffug gydag enw sy’n debyg i un y banc go iawn. Bydd yn aros i chi drydar i enw go iawn y banc yn gofyn am help, yna’n herwgipio’r sgwrs drwy ymateb gyda dolen gymorth ffug a anfonwyd o’r dudalen gymorth ffug. Bydd hyn yn eich arwain i dudalen mewngofnodi argyhoeddiadol ond ffug wedi’i chynllunio i gaffael eich manylion cyfrinachol.
Fel negeseuon e-bost, negeseuon testun a galwadau ffôn twyllodrus, mae gwe-rwydo ar y cyfryngau cymdeithasol yn chwarae ar eich emosiynau a’ch anghenion dynol sylfaenol, fel ymddiriedaeth, diogelwch, ofn colli arian, cael rhywbeth am ddim, awydd i ddod o hyd i fargen neu ddyhead i ddod o hyd i gariad neu boblogrwydd/statws. Maent hefyd fel arfer yn nodi neu’n awgrymu bod angen i chi roi sylw brys i fater neu fanteisio ar gynnig.
Sut i osgoi bod yn ddioddefwr gwe-rwydo ar y cyfryngau cymdeithasol
- Peidiwch â chlicio ar ddolenni mewn postiadau, trydariadau na negeseuon testun oni fyddwch yn hollol siŵr eu bod yn ddilys ac yn llawn bwriadau da.
- Cymerwch amser i ystyried eich gweithredoedd cyn ymateb i gysylltiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Gofynnwch i chi’ch hun a fyddai rhywun dilys yn cysylltu â chi drwy’r dull hwn gyda’r wybodaeth hon.
- Adnabod bygythiadau o faterion ariannol neu gynigion sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, am beth ydynt mewn gwirionedd.
- Os nad ydych yn siŵr, ffoniwch rif cywir y sefydliad neu’r unigolyn yr honnir y mae’r testun wedi’i anfon ganddo, er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn ddilys.
- Hyd yn oed os yw’n ymddangos bod y post neu’r trydariad yn dod gan rywun rydych yn ymddiried ynddo, gallai rhywun fod wedi hacio neu ffugio ei gyfrif.
- Os bydd y cysylltiad drwy Twitter, nodwch fod cyfrifon busnesau dilys fel arfer yn cynnwys tic glas ‘dilyswyd’ er mwyn nodi bod y cyfrif yn ddilys. Hefyd, ni fyddant byth yn gofyn am fanylion mewngofnodi.
- Hefyd, nodwch nifer y dilynwyr ar y cyfrif. Mae sefydliadau go iawn – yn cynnwys eu henwau cymorth cwsmeriaid – yn debygol o fod â mwy o lawer o ddilynwyr.
Os ydych wedi dioddef gwe-rwydo ar y cyfryngau cymdeithasol
Rhowch wybod i’r rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol drwy’r dull adrodd ar y safle neu’r ap
Os ydych wedi colli arian o ganlyniad i we-rwydo ar y cyfryngau cymdeithasol, neu drwy unrhyw weithgarwch twyllodrus arall
Rhowch wybod amdano i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu drwy www.actionfraud.police.uk