Mae tri math o wasanaeth llais dros y rhyngrwyd
- Sylfaenol, lle rydych ond yn cysylltu set law ffôn safonol, clustffonau neu ficroffon a seinyddion â’ch hwb di-wifr sydd wedi’i ffurfweddu gan eich gwasanaeth llais dros y rhyngrwyd er mwyn gwneud galwadau cost isel drwy’r rhyngrwyd.
- Wedi’i reoli, lle mae cwmni yn rhoi rhif ffôn i chi a gallwch dderbyn galwadau yn ogystal â gwneud galwadau.
- Skype, sydd hefyd yn galluogi defnyddwyr i wahodd a ffurfio cysylltiadau, creu proffiliau, gwneud galwadau fideo a rhannu ffeiliau.
Fel yn achos gwasanaethau eraill sy’n seiliedig ar y rhyngrwyd, bydd angen i chi fod yn ofalus ynglŷn â’r ffordd rydych chi’n defnyddio eich gwasanaeth llais dros y rhyngrwyd.
Y risgiau
- Mae ychydig o risg o glustfeinio am fod y gwasanaeth llais dros y rhyngrwyd yn gweithio dros gysylltiadau rhyngrwyd cyhoeddus. Fodd bynnag, mae’r risg yn is na defnyddio llinell dir arferol, y gellid clustfeinio’n hawdd arni.
- Os byddwch yn defnyddio gwasanaeth llais dros y rhyngrwyd er mwyn gwneud galwadau rhwng tri neu fwy o bobl lle mae’r manylion deialu a mynediad wedi’u trefnu ymlaen llaw, gall unrhyw un sy’n gweld y manylion hyn (er enghraifft, drwy weld yr e-bost) hefyd wrando ar eich galwad.
- Gall twyllwyr ofyn i chi fod yn un o’u cysylltiadau ar Skype er mwyn gwneud y canlynol:
- Eich ffonio neu anfon neges uniongyrchol atoch er mwyn cyflawni trosedd neu dwyll, neu drwy eich annog i fynd i wefan dwyllodrus neu lawrlwytho ffeil faleisus sy’n cynnwys feirws neu ysbïwedd.
- Cael gafael ar fanylion personol ar eich proffil a’u defnyddio mewn ffordd anonest.
- Rhannu ffeiliau neu’ch cyfeirio at wefannau sydd â chynnwys amhriodol neu dramgwyddus.
Defnyddio gwasanaeth llais dros y rhyngrwyd / Skype yn ddiogel
- Os bydd angen cyfrinair arnoch i ddefnyddio eich gwasanaeth llais dros y rhyngrwyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio cyfrineiriau cryf, a pheidiwch â’u datgelu i neb arall.
- Os yw eich gwasanaeth yn cynnwys proffil cyhoeddus, peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth sensitif, breifat na chyfrinachol ynddo.
- Pan fyddwch yn defnyddio Skype, byddwch yn wyliadwrus ynghylch pwy rydych yn derbyn ceisiadau ganddynt i fod yn un o’u cysylltiadau. Dylech osod eich gwasanaeth i ganiatáu cysylltiadau gan bobl rydych yn eu hadnabod yn unig.
- Blociwch ddefnyddwyr twyllodrus a niwsans rhag cysylltu â chi eto yn ddi-oed a rhowch wybod am yr hyn maent yn ei wneud.
- Os byddwch yn meddwl bod rhywun wedi eich darbwyllo i rannu manylion talu, cysylltwch â’ch banc neu ddyroddwr eich cerdyn ar unwaith.
- Edrychwch ar wefan eich gwasanaeth llais dros y rhyngrwyd yn rheolaidd i weld a oes unrhyw ddiweddariadau neu batsys.
- Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg.
- Allgofnodwch o’ch gwasanaeth llais dros y rhyngrwyd bob amser pan fyddwch wedi gorffen eich galwad. Efallai nad yw cau eich porwr yn ddigon i ddod â’ch sesiwn i ben yn awtomatig.
- Byddwch yn ymwybodol bod gwasanaeth llais dros y rhyngrwyd yn dibynnu ar gael prif gyflenwad o bŵer. Os bydd toriad yn y cyflenwad pŵer neu broblem gyda’r cyfarpar, ni fyddwch yn gallu gwneud galwadau, gan gynnwys galwadau brys. Os bydd angen cyfrinair arnoch i ddefnyddio eich gwasanaeth llais dros y rhyngrwyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio cyfrineiriau cryf, a pheidiwch â’u datgelu i neb arall.
Rhagor o wybodaeth gan Skpe ar reoli eich gosodiadau preifatrwydd
Canllaw Skpe ar reoli eich gosodiadau preifatrwydd ar eich cyfrifiadur Windows
Canllaw Skpe ar reoli eich gosodiadau preifatrwydd ar eich cyfrifiadur Mac
Os byddwch yn defnyddio ap Skype, dewiswch ‘Settings’ i ddod o hyd i’r gosodiadau preifatrwydd, eu hadolygu a’u haddasu.