Y risgiau
Gall feirysau ac ysbïwedd ymosod ar eich ffôn clyfar neu lechen drwy’r dulliau canlynol:
- Lawrlwytho o wefannau sydd wedi cael eu heintio yn fwriadol neu’n ddamweiniol gan un feirws neu fwy.
- Lawrlwytho apiau sydd wedi’u heintio. Mae’r rhain yn cynnwys apiau sydd wedi’u lawrlwytho o siop swyddogol y ddyfais neu’r system weithredu, ac yn gynyddol, siopau ffug sydd wedi’u sefydlu yn benodol ar gyfer dosbarthu maleiswedd.
- Cysylltu eich dyfais â chyfrifiadur, er enghraifft er mwyn gosod diweddariadau, cysoni a llwytho cerddoriaeth.
Gall feirysau ac ysbïwedd achosi canlyniadau difrifol iawn yn cynnwys:
- Dwyn hunaniaeth o apiau sy’n gweithio yn y cefndir i ddwyn gwybodaeth bersonol sydd wedi’i storio ar y ffôn.
- Twyll o apiau sy’n gweithio yn y cefndir i ddwyn gwybodaeth bersonol sydd wedi’i storio ar y ffôn.
- Galwadau cyfradd bremiwm a negeseuon testun sy’n cael eu hanfon o’ch ffôn yn ddiarwybod i chi.
- Dileu a llygru data.
- Dyfais araf neu un na ellir ei defnyddio.
- Bywyd batri byrrach.
Efallai mai dim ond cario feirws y mae eich dyfais – a allai gael ei drosglwyddo wedyn i ddyfeisiau eraill (fel cyfrifiaduron) dros e-bost.
Diogelu eich Dyfais Symudol
Mae gan ddyfeisiau Apple a BlackBerry raglenni diogelwch mewnol hynod o dda rhag maleiswedd, ond mae dyfeisiau Apple yn dod yn darged mwy poblogaidd ar gyfer twyllwyr, sy’n golygu y dylech osod rhaglenni diogelwch ar y rhyngrwyd beth bynnag fo’ch dyfais.
At ddefnydd personol ac mewn swyddfa gartref mae nifer o ddewisiadau ar gael wrth benderfynu pa ap diogelwch ar y rhyngrwyd i’w lawrlwytho. Pa fath bynnag y byddwch yn ei ddewis, gwnewch yn siŵr ei fod yn frand ag enw da gan gyflenwr prif ffrwd, ac ewch am y gorau y gallwch ei fforddio. Dyma rai o’r cyflenwyr enwocaf, ond nodwch nad ydym yn argymell un o flaen y lleill:
Norton, Kaspersky, McAfee, Bullguard, Sophos, AVG, Avast, Bitdefender
Mae’n bwysig lawrlwytho diweddariadau ar gyfer apiau diogelwch cyn gynted ag y cewch eich annog i ddiogelu rhag maleiswedd newydd.
- Gwiriwch y gosodiadau diogelwch yn eich dyfais bob amser er mwyn sicrhau’r diogelwch gorau.
- Edrychwch ar wefan darparwr eich gwasanaeth yn rheolaidd i chwilio am ddiweddariadau ar gyfer eich math a model o ffôn clyfar neu lechen.
- Cyn cysylltu eich dyfais â chyfrifiadur, gwnewch yn siŵr fod gan eich cyfrifiadur y feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd ddiweddaraf a bod wal dân wedi’i gosod ac yn rhedeg.
- Wrth drefnu bancio ar-lein, gwnewch yn siŵr fod unrhyw apiau y byddwch yn eu lawrlwytho at y diben wedi’u cyhoeddi gan eich banc.
- Byddwch yn wyliadwrus o siopau ffug wrth lawrlwytho apiau – dim ond o ffynonellau dibynadwy y dylech wneud hynny.
Gwybodaeth ychwanegol
Os ydych wedi wynebu twyll gwirioneddol neu honedig, rhowch wybod amdano ar unwaith i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll drwy ffonio 0300 123 20 40 neu drwy fynd i www.actionfraud.police.uk.
Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.