English

Eich Plentyn a Rhwydweithio Cymdeithasol

Rhwydweithio cymdeithasol oedd un o chwyldroadau’r oes ar-lein – ac mae’n parhau i fod felly – a phan gaiff ei ddefnyddio’n gywir, mae’n ffordd wych o gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu. Ond gall hefyd fod yn ffynhonnell o niwed i’ch plentyn (neu i chi ac aelodau eraill o’ch teulu, drwy eich plentyn). Mae’r rhan fwyaf o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn pennu terfyn oedran is ar gyfer aelodaeth (mae 13 oed yn gyffredin), ond mae’n hawdd i blant osgoi hyn a mynd ar-lein pan fyddant islaw’r oedran hwn. Dylech annog eich plentyn i ddweud wrthych pa safleoedd rydych yn eu defnyddio, a gofyn iddynt ddangos i chi sut maent yn gweithio.

Mae’r prif risgiau yn gysylltiedig â’ch plentyn yn gwneud ffrindiau neu’n siarad â dieithryn a all fod yn eu stelcio, seiberfwlio gan ddieithriaid neu bobl maent yn eu hadnabod eiseos, cael eu twyllo drwy lawrlwytho cynnwys ffug neu gysylltu â chynnwys ffug, a nodi achosion o ddwyn drwy ddatgelu gwybodaeth breifat mewn proffiliau a deunydd a rennir. Ac er y gall hyn fod y tu hwnt i amgyffred, gallai eich plentyn fod yn bwlio neu’n dweud pethau amhriodol am rywun arall, yn hytrach na bod yn darged.

Addysgwch eich plentyn i fod yn ofalus iawn mai dim ond pobl ddibynadwy y mae’n eu hadnabod y dylai wneud ffrindiau â nhw a chyfathrebu â nhw. Dywedwch wrtho y gallai datgelu gwybodaeth bersonol fel ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad, enw ei anifail anwes neu athro roi’r wybodaeth sydd ei angen ar rywun i beri niwed iddo. Dylech ei addysgu i beidio â chlicio ar ddolenni na lawrlwytho o safleoedd y mae wedi cysylltu â nhw.

A dylech ei addysgu ynghylch sut i ddefnyddio cyfrineiriau a manylion mewngofnodi eraill yn ddiogel. Mae’n gyffredin iawn i dudalennau plant gael eu hacio, i’w proffiliau gael eu newid naill ai am hwyl neu mewn ffordd faleisus, neu i sylwadau niweidiol gael eu rhannu gan rywun arall yn eu henw. Gall hyn hefyd ddigwydd os byddant yn gadael eu cyfrifiadur neu ddyfais symudol ymlaen ac yn cerdded i ffwrdd heb allgofnodi o’r safle.

Yn anad dim, gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod ei bod yn iawn iddyn nhw fynd atoch chi neu oedolyn arall dibynadwy os byddant yn teimlo bod rhywbeth maent wedi’i weld neu wedi’i wneud ar safle rhwydweithio cymdeithasol yn peri bygythiad iddyn nhw neu’n gwneud iddyn nhw deimlo’n anghyfforddus.

Mae’r holl wybodaeth a chyngor uchod yn gymwys i wasanaethau negeseuon uniongyrchol hefyd.

Dyma rywfaint o wybodaeth am Facebook a Twitter, dau o’r safleoedd rhwydweithio cymdeithasol mwyaf poblogaidd ymysg plant o hyd. I weld rhai eraill, cliciwch yma.

Facebook

Facebook yw’r safle rhwydweithio cymdeithasol mwyaf poblogaidd yn y byd. Mae’r holl gyngor a restrir o dan Rhwydweithio cymdeithasol a negeseuon uniongyrchol yn gymwys, yn cynnwys cyngor am achosion posibl o fwlio, stelcio, sgamio, negeseuon maleisus, dwyn hunaniaeth a hacio. Trafodwch y cwestiynau hyn â’ch plentyn:

  • Wyt ti’n adnabod dy ffrindiau?
  • Pwy all weld beth rwyt ti’n ei rannu ar Facebook?
  • Cadwa reolaeth o’r hyn rwyt ti’n ei rannu ar-lein
  • Sut mae dy broffil yn ymddangos?
  • Fyddet ti’n gwybod sut i ddefnyddio ‘Graph Search’?
  • Sut i reoli newidiadau ‘Cuddio o’r llinell amser’?
  • Sut wyt ti’n defnyddio dy restr Ffrindiau?
  • Wyt ti’n gwybod sut i ddadactifadu dy gyfrif?

Twitter

Safle rhwydweithio cymdeithasol yw Twitter sy’n galluogi ei ddefnyddwyr i anfon a darllen negeseuon neu ‘drydariadau’ byr. Mae gan Twitter fwy na 320 miliwn o ddefnyddwyr misol gweithredol ledled y byd, ac mae ymysg y deg safle yr ymwelir ag ef amlaf, ac mae’n dod yn fwyfwy poblogaeth ymysg pobl ifanc. Y prif bethau i gadw llygad amdanynt a rhoi cyngor i’ch plentyn amdanynt yw trydariadau maleisus neu rai sy’n bwlio, a pheidio â chlicio ar ddolenni a allai fod yn rhai ffug.

Ceir gwybodaeth gynhwysfawr am ddefnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, negeseuon uniongyrchol ac ystafelloedd sgwrsio yn ddiogel drwy glicio yma.

See Also...

In Partnership With