Mae’r cyfuniadau o enwau defnyddiwr a chyfrineiriau hyn yn cael eu rhoi ar restrau sy’n cael eu gwerthu drwy rwydweithiau troseddol. Felly, mae’n hynod annhebygol bod eich cyfrinair wedi cael ei gymryd o ganlyniad i unrhyw fath o faleiswedd ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol. Fodd bynnag, mae’n ychwanegu rhywfaint o hygrededd i’r bygythiad, sy’n gwneud i rai pobl gredu bod rhywun wedi bod yn ysbïo arnynt.
Er bod unrhyw e-bost twyllodrus yn annerbyniol yn gyfreithlon ac yn foesegol, mae’r rhai sy’n seiliedig ar flacmel yn ymddangos yn arbennig o sinistr oherwydd, yn yr achos hwn, gallai enw da a statws moesol y dioddefwr fod yn y fantol.
Caiff testun llawn e-bost gwirioneddol a dderbynnir ei atgynhyrchu o dan yr awgrymiadau ar y dudalen hon.
Os byddwch yn cael fideo blacmel yn bygwth datgelu eich bod wedi edrych ar ddeunydd pornograffig
- Peidio byth â thalu’r swm y gofynnir amdano
- Peidiwch ag ymateb
- Peidiwch â chlicio ar ddolenni yn yr e-bost
- Peidiwch â dychryn: cofiwch mai e-bost swmp yw hwn a’i bod bron yn sicr na fydd eich system wedi cael ei pheryglu gan ysbïwedd.
- Os yw un o’r cyfrineiriau wedi cael ei ddyfynnu’n gywir yn yr e-bost:
- Newidiwch eich cyfrinair ar y cyfrif neu’r cyfrifon dan sylw. Nodwch ein cyngor ar ddewis a defnyddio cyfrineiriau cryf, a chofiwch na ddylech ddefnyddio yr un cyfrinair ar fwy nag un cyfrif. Dylech ystyried defnyddio rheolwr cyfrineiriau os, fel y rhan fwyaf o bobl, na fyddwch yn gallu cofio eich holl gyfrineiriau gwahanol.
- Cysylltwch â’r cwmni neu’r wefan y mae’n cyfeirio ato/ati a nodwch fod eich cyfrinair wedi cael ei ddefnyddio yn y ffordd hon fel y gallant ymchwilio.
- Gan mai ymgais i dwyllo yw’r e-bost, gallwch roi gwybod i Action Fraud amdano yn www.actionfraud.police.co.uk neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Testun e-bost go iawn
“(Cyfrinair derbynnydd go iawn) yw un o’ch cyfrineiriau personol, nawr beth am beidio â gwastraffu amser. Dydych chi ddim yn gwybod unrhyw beth amdanaf i ond rwyf yn eich adnabod chi’n dda iawn ac mae’n rhaid eich bod yn meddwl tybed pam eich bod wedi cael yr e-bost hwn.
Rwyf wedi gosod maleiswedd ar fideos rhyw (safleoedd rhyw) a wyddoch chi, gwnaethoch chi ymweld â gwefan bornograffig i gael hwyl (os ydych chi’n gwybod beth dwi’n ei feddwl). Pan oeddech chi’n brysur yn gwylio fideos, dechreuodd eich porwr weithredu fel RDP (Protocol Pen Desg o Bell) gyda chofnodwr bysellau a roddodd fynediad i mi i’ch sgrin arddangos yn ogystal â’ch rheolyddion gwe-gamera. Yn syth ar ôl hynny, llwyddodd fy meddalwedd i gael eich holl gysylltiadau o’ch negesydd, cyfrif Facebook a’ch e-bost.
Beth ydw i ei eisiau?
Mae’n anffodus iawn i chi fy mod i wedi eich gweld yn camymddwyn. Yna, treuliais lawer o amser yn ymchwilio i’ch bywyd personol ac yn paratoi t&aacirc;p fideo gyda’r sgrin wedi’i rhannu. Mae’r hanner cyntaf yn dangos y recordiad roeddech chi’n ei wylio ac mae’r hanner nesaf yn dangos y recordiad o’ch gwe-gamera (mae’n dangos rhywun yn gwneud pethau brwnt). A dweud y gwir, rwyf am ddinistrio popeth amdanoch chi a gadael i chi symud ymlaen â’ch bywyd bob dydd. Fy nod i yw rhoi ffordd allan i chi a all ganiatáu i hyn ddigwydd. Y ddau ddewis yw naill ai anwybyddu’r e-bost hwn (fyddwn i ddim yn argymell hyn), neu dalu $ 1000 i mi.
Beth allwch chi ei wneud?
Beth am archwilio’r ddau opsiwn yn fanylach. Yr opsiwn cyntaf yw anwybyddu’r neges hon. Dylech chi wybod beth fydd yn digwydd os byddwch chi’n dewis y llwybr hwn. Byddaf yn anfon eich fideo at eich holl gysylltiadau yn cynnwys aelodau o’ch teulu, eich cydweithwyr a llawer o bobl eraill. Nid yw’n eich amddiffyn rhag y cywilydd y bydd yn rhaid i’ch teulu a’ch ffrindiau ei wynebu pan fyddant yn dod o hyd i’ch tâp rhyw annifyr gen i yn eu mewnflwch. Yr opsiwn doeth yw anfon $ 1000 i mi. Beth am alw hyn yn “awgrym preifatrwydd”. Gadewch i mi ddweud wrthych chi beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi’n dewis yr opsiwn hwn. Bydd eich cyfrinach fach chi yn aros yn gyfrinach. Byddaf yn dileu’r tâp rhyw. Ar ôl anfon y taliad, byddwch yn symud ymlaen â’ch bywyd ac ni fydd eich teulu yn cael gwybod bod hyn wedi digwydd. Byddwch yn gwneud y taliad drwy Bitcoin (os nad ydych yn gwybod sut i wneud hyn, bydd angen i chi chwilio “how to buy bitcoin” ar google search)
Swm i’w dalu: $ 1000
CYFEIRIAD BTC: (cyfres hir a chymhleth o rifau a llythrennau wedi’i dyfynnu)
(Mae’n rhaid defnyddio priflythrennau a llythrennau bach yn y ffordd gywir, dylech ei gopïo a’i bastio yn ofalus)
Pwysig: Mae gennych un diwrnod i wneud y taliad. (Mae gennyf bicsel penodol yn yr e-bost hwn, ac rwy’n gwybod nawr eich bod wedi darllen y neges e-bost hon). PEIDIWCH â dweud wrth neb am beth y byddwch chi’n defnyddio’r bitcoin neu efallai na fyddant yn ei gynnig i chi. Gall gymryd diwrnod neu ddau i gael bitcoin felly peidiwch â llaesu dwylo. Os na fyddaf yn cael y BitCoins, byddaf yn bendant yn anfon eich tâp rhyw at bob un o’ch cysylltiadau yn cynnwys aelodau o’ch teulu, eich cydweithwyr, ac ati. Fodd bynnag, os byddaf yn cael fy nhalu, byddaf yn dileu’r tâp fideo ar unwaith. Os ydych am gael tystiolaeth, atebwch gydag “ydw!” a byddaf yn anfon eich tâp rhyw at 11 o’ch ffrindiau. Mae’n gynnig na ellir ei drafod, felly peidiwch â gwastraffu fy amser i na’ch amser chi drwy ateb yr e-bost hwn.”