Mae mathau eraill o ddiweddariadau yn cywiro gwallau neu’n gwella gweithdrediad o fewn Windows, ac nid ydynt o reidrwydd yn ymwneud â diogelwch. Maent hefyd yn canfod pa gynhyrchion Microsoft rydych yn eu rhedeg ar eich cyfrifiadur ac yn rhoi diweddariadau i’r rhain hefyd. Gall y rhain gynnwys Microsoft Office (Word, Excel, PowerPoint ac ati) ac Internet Explorer (yn eich porwr Microsoft).
Y risgiau
Gall peidio â diweddaru Windows arwain at broblemau difrifol, a all effeithio ar eich cyfrifiadur a’ch diogelwch personol eich hun. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Feirysau, ysbïwedd a maleiswedd arall.
- Ymosodiadau gan seiberdroseddwr.
- Chwalu, rhewi a pherfformiad gwael yn gyffredinol.
Yn ogystal â datrys problemau diogelwch, mae diweddariadau Windows yn cynnwys gwelliannau i’r system weithredu a nodweddion newydd yn aml.
Diogelu eich Cyfrifiadur
Er mwyn sicrhau bod y diweddariadau Windows diweddaraf yn cael eu lawrlwytho a’u gosod, dylech wneud yn siŵr fod eich cyfrifiadur wedi’i osod fel a ganlyn:
- Windows 10 & 8
O’r ddewislen Start menu, cliciwch ar ‘Control Panel’. Dewiswch ‘Windows Update’, yna cliciwch ar ‘Install optional updates’. Yn y cwarel chwith, cliciwch ar ‘Change settings’. O dan Important updates, dewiswch yr opsiwn rydych am ei gael. O dan ‘Recommended updates’, dewiswch y blwch ‘Give me recommended updates the same way I receive important updates’, ac yna cliciwch ar ‘OK.’ Efallai y gofynnir i chi am gyfrinair gweinyddu neu i gadarnhau eich dewis.
Byddwch fel arfer yn cael hysbysiad gan Microsoft ar ffurf hysbysiad ar eich sgrin, bod diweddariadau Windows ar gael. Fel arfer, caiff y diweddariadau eu lawrlwytho’n awtomatig a chewch eich annog i ailddechrau eich cyfrifiadur er mwyn iddynt gael eu gosod.
Nid yw lawrlwytho’r diweddariadau Windows diweddaraf yn dileu’r angen i redeg y fersiynau diweddaraf o feddalwedd wrthfeirysol, gwrth-ysbïwedd a wal dân.
Rhagor o Wybodaeth
Diweddariadau Microsoft Windows