- Office (yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, Outlook)
- Media Player
- Publisher
- Project
Meddalwedd sydd wedi’i Llwytho Ymlaen Llaw Fel Arfer (pan fyddwch yn prynu’r cyfrifiadur)
- Adobe Reader
- Adobe Flash
- Java
- Roxio Creator
Rhaglenni Eraill (y byddwch yn eu llwytho eich hun oddi ar CD/DVD neu drwy’r rhyngrwyd)
- Gyriannau argraffu
- Meddalwedd cyfrifon
- Meddalwedd diogelwch
- iTunes
Fel gyda system weithredu Microsoft Windows, mae troseddwyr ar-lein yn dod o hyd i fannau bregus mewn meddalwedd arall ac yn parhau i wneud hynny drwy gydol oes y fersiwn. Er mwyn atal hyn, mae gwneuthurwr meddalwedd yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd fel diweddariadau diogelwch neu ddiweddariadau hanfodol, sy’n amddiffyn rhag maleiswedd a dulliau o dorri diogelwch. Mae mathau eraill o ddiweddariadau yn cywiro gwallau sy’n gwella gweithrediad y feddalwedd, ac nid ydynt o reidrwydd yn ymwneud â diogelwch.
Y risgiau
Gall peidio â diweddaru eich meddalwedd arwain at broblemau difrifol, a all effeithio ar eich cyfrifiadur a’ch diogelwch personol eich hun. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Feirysau, ysbïwedd a maleiswedd arall.
- Ymosodiadau gan seiberdroseddwr.
- Chwalu, rhewi a pherfformiad gwael yn gyffredinol.
Yn ogystal â datrys problemau diogelwch, yn aml, mae diweddariadau meddalwedd yn cynnwys gwelliannau a nodweddion newydd.
Diogelu eich cyfrifiadur
Fel arfer, byddwch yn cael hysbysiad gan wneuthurwr y feddalwedd ar ffurf hysbysiad ar eich sgrin, bod diweddariadau ar gael. Fel arfer, rhoddir y dewis ynghylch p’un a gaiff y diweddariad ei lawrlwytho a’i osod ar unwaith neu’n ddiweddarach. Ein hargymhelliad ni yw lawrlwytho a gosod diweddariadau cyn gynted â phosibl.
Mae rhai diweddariadau meddalwedd yn ei gwneud yn ofynnol i chi ailddechrau eich cyfrifiadur er mwyn cwblhau’r broses osod. Eto, fel arfer, rhoddir y dewis ynghylch gwneud hyn ar unwaith neu’n ddiweddarach. Rydym yn argymell i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl.
Nid yw lawrlwytho’r diweddariadau meddalwedd diweddaraf yn dileu’r angen i redeg y fersiynau diweddaraf o feddalwedd wrthfeirysol, gwrth-ysbïwedd a wal dân.