Y risgiau
- Gan na chaiff unrhyw ddiweddariadau diogelwch eu cyhoeddi, mae eich cyfrifiadur sy’n rhedeg Windows XP bellach yn agored iawn i gael ei heintio gan faleiswedd, ac mae troseddwyr yn ymwybodol iawn o hyn.
- Gallai troseddwyr ddefnyddio maleiswedd o’r fath at nifer o ddibenion, yn cynnwys:
- Dwyn eich manylion personol ac ariannol er mwyn cyflawni twyll
- Heintio eich cyfrifiadur â meddalwedd wystlo
- Dwyn eich hunaniaeth er mwyn gwneud cais am gyfrifon banc, pasbortau a chyfleusterau eraill yn eich enw.
- Monitro eich e-bost a gohebiaeth arall.
- Gwneud eich cyfrifiadur yn rhan o fotrwyd, a ddefnyddir fel arfer i ymosod ar wefannau corfforaethol neu wefannau’r llywodraeth.
- Mae’n debyg na fydd mor hawdd i chi drefnu bod eich cyfrifiadur XP yn cael ei wasanaethu na’i atgyweirio.
- Ni fydd nifer gynyddol o ddyfeisiau a rhaglenni meddalwedd yn gweithio gyda Windows XP.
Risgiau Ychwanegol ar gyfer Busnesau
- Yn ogystal â’r uchod, rydych mewn perygl o roi mynediad anawdurdodedig i’ch systemau gwybodaeth, a fydd yn galluogi rhywun i gael mynediad at eich data neu eu dwyn, peidio â chydymffurfio â safonau yswirwyr a/neu gwsmeriaid a thorri’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
- Prin iawn yw’r galedwedd a’r feddalwedd annibynnol sy’n cefnogi gwerthwyr sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer systemau Windows XP.
Cyn i chi wneud unrhyw un o’r camau canlynol, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n gwneud copïau wrth gefn o’r data ar eich cyfrifiadur ac yn sicrhau y gellir cael mynediad atynt a’u hadfer ar beiriant arall.
Diweddaru eich Cyfrifiadur
- Y datrysiad cyntaf, amlwg yw gosod fersiwn fwy newydd o Windows … fel 10. Fodd bynnag, ni fydd llawer o hen gyfrifiaduron yn gallu rhedeg Windows 10 oherwydd ei ofynion caledwedd sy’n llawer mwy ymestynnol. Mae Microsoft yn argymell i chi lawrlwytho a rhedeg y Windows Update Assistant er mwyn gweld a yw eich cyfrifiadur yn bodloni’r gofynion system:
Os na all eich cyfrifiadur redeg y fersiynau mwy newydd o Windows, bydd angen i chi brynu un newydd. Mae cyfrifiaduron heddiw yn llawer mwy pwerus, yn ysgafnach ac yn rhatach na’r hen rai.
- Os byddwch yn prynu cyfrifiadur newydd a bod angen i chi drosglwyddo’r hyn sydd ar eich hen beiriant Windows XP drosodd, gallwch wneud hynny gan ddefnyddio cyfleuster trosglwyddo gan Microsoft, y gellir ei lawrlwytho drwy glicio yma.
- Os ydych am gadw eich hen gyfrifiadur yn hytrach na chael un newydd, mae opsiynau eraill fel ‘cychwyn deuol’ (‘dual booting’) gydag un o sawl fersiwn o system weithredu Linux. Byddai hyn yn eich galluogi i gyflawni’r holl dasgau ar-lein o Linux, a thasgau all-lein fel prosesu geiriau, taenlenni a golygu lluniau yn Windows. Mae’n cymryd cryn amser ac ymdrech i osod y datrysiad hwn, ond ceir nifer fawr o wefannau sy’n cynnig cyngor ac arweiniad.
- Gallech hefyd ystyried newid i gyfrifiadur newydd sy’n rhedeg ar lwyfan gwahanol. Yr un a ddewisir amlaf yw’r Apple Mac, neu rai o’r genhedlaeth newydd o rwydlyfrau fel y rhai sy’n defnyddio Google Chrome, neu fodelau rhwydlyfrau Microsoft ei hun.
- Mae’n werth ystyried p’un a oes angen cyfrifiadur pen desg neu liniadur arnoch o hyd o ystyried y gellir cyflawni llawer o’r swyddogaethau rydych yn ei ddefnyddio ar eu cyfer ar lechen, sy’n cynnwys amrywiaeth eang o fathau a manylebau i ddewis ohonynt, yn amrywio o fodelau sy’n rhatach na £50 i rai sy’n costio cannoedd ar gannoedd o bunnoedd.
Busnesau a Mentrau
Dylai busnesau a mentrau sy’n dal i redeg Windows XP fabwysiadu strategaeth ar frys ar gyfer trosglwyddo i lwyfan arall, a fydd bron yn sicr yn cynnwys buddsoddiad sylweddol mewn caledwedd, seilwaith a chymwysiadau newydd.
Busnesau Bach i Ganolig: Mae sawl opsiwn ar gyfer busnesau bach a chanolig sy’n ystyried symud i gyfrifiadur modern gyda’r cyfleusterau cynhyrchiant a chydweithredu diweddaraf. Dylech siarad â Phartner sydd wedi’i Ardystio gan Microsoft er mwyn deall yr opsiynau gorau i ddiwallu eich anghenion. Os bydd eich cyfrifiadur presennol yn bodloni’r gofynion system ar gyfer Windows 10, gallwch brynu Windows 10 Professional gan fanwerthwr lleol neu Bartner sydd wedi’i Ardystio gan Microsoft. Os nad yw eich cyfrifiadur yn bodloni gofynion system, dylech ystyried prynu cyfrifiadur busnes newydd gyda Windows 10 Pro.
Busnesau a Mentrau Mwy: Mae Microsoft yn cynnig adnoddau technegol manwl, cyfleusterau ac arweiniad arbenigol i sefydliadau mawr er mwyn sicrhau y gellir defnyddio a rheoli cynhyrchion a thechnolegau Windows, Office ac Internet Expolere yn rhwydd. Er mwyn dysgu mwy am drosglwyddo a defnyddio rhaglenni, cysylltwch â’ch cynrychiolydd gwerthiannau Microsoft neu Bartner sydd wedi’i Ardystio gan Microsoft. Gallwch hefyd ddysgu sut i dreialu a defnyddio cyfrifiadur pen desg modern eich hun, o’r Microsoft Deployment Toolkit.