Y risgiau
- Caledwedd yn methu (er enghraifft, mae caledwedd yn methu yn digwydd yn aml).
- Dileu ffeil ar ddamwain.
- Lladrad.
- Tân, llifogydd, difrod damweiniol.
- Feirws neu heintiau ysbïwedd trychinebus.
- Dileu ffeil wrth ddiweddaru systemau gweithredu.
Gallai’r data ar eich cyfrifiadur gynnwys eich dogfennau, ffotograffau, cerddoriaeth, fideo a chysylltiadau – yn ogystal â’ch meddalwedd. Gall gyriannau caled cyfrifiaduron modern ddal symiau anferth o ddata, sy’n golygu y gallai canlyniadau colli data drwy unrhyw un o’r dulliau uchod fod yn drychinebus. Gallai’r effaith fod yn anghyfleus, yn llawn straen, yn llafurus ac yn ddrud.
Cadwch eich Data yn Ddiogel
Mae cadw copïau wrth gefn yn ei gwneud yn syml i chi ddiogelu eich data drwy eu copïo a’u storio rywle heblaw am yriant caled eich cyfrifiadur.
Mae amrywiaeth o ddulliau gwahanol o gadw copïau wrth gefn o’ch data ar gael. Pa bynnag un y byddwch yn ei ddewis, mae’n hanfodol arsylwi’r canlynol:
- Cynlluniwch ar gyfer achos o golli eich holl ddata yn llwyr (er enghraifft, os caiff eich gliniadur sy’n cynnwys eich holl ddata ei ddwyn).
- Os byddwch yn cadw copïau wrth gefn o’ch data ar yriant caled allanol, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei storio mewn eiddo gwahanol er mwyn atal eich data wrth gefn rhag cael ei ddwyn neu ei ddifrodi ynghyd â’ch cyfrifiadur.
- Os yw eich dyfais wrth gefn yn eich galluogi i wneud hynny, diogelwch gopïau wrth gefn â chyfrineiriau er mwyn diogelu eich preifatrwydd.
Y tro cyntaf y caiff data ei gadw wrth gefn, caiff copi wrth gefn llawn ei wneud. Dim ond copïau wrth gefn cynyddrannol y bydd angen eu gwneud wedi hyn – lle mai dim ond ffeiliau sydd wedi’u newid neu eu hychwanegu ers i’r copi wrth gefn diwethaf gael ei wneud a gaiff eu storio. Mae’r rhan fwyaf o brosesau gwneud copïau wrth gefn modern yn dewis pa ddull i’w ddefnyddio yn awtomatig.
Dulliau Cadw Copïau Wrth Gefn
Mae dwy brif egwyddor ar gael o ran cadw copïau wrth gefn o’ch data. Er mwyn dewis pa un i’w ddefnyddio, mae angen i chi ystyried pa mor rhwydd ydyw i’w ddefnyddio, cyflymder, pris a’ch ffordd o fyw eich hun.
Gyriannau Caled Cludadwy
Mae disg galed allanol yn ffordd gyflym ac effeithlon o gadw copïau wrth gefn o’ch holl ddata. Mae modelau ar gael sydd naill ai’n plygio i mewn i borth USB eich cyfrifiadur, neu’n cysylltu drwy eich rhwydwaith di-wifr. Mae’r rhan fwyaf mor gryno fel y gellir eu storio yn hawdd oddi ar y safle.
Fel arfer, mae’r rhain yn amrywio o fodelau 320 Gigabyte (320,000 Megabyte) sy’n costio llai na £50, i’r rhai sy’n darparu hyd at 4 Terabytes (4,000 Gigabytes) am tua £275. I roi syniad i chi o faint y storfa, fel arfer bydd un ffotograff o ansawdd rhesymol a gymerwyd ar gamera digidol neu ffôn camera rhwng 1 a 5 Megabyte. Bydd ffeil gerddoriaeth mewn fformat MP3 rhwng 3 ac 8 Megabyte. Felly hyd yn oed ar y gyriant 320 Gigabyte y sonnir amdano uchod, gallech ffitio mwy na 100,000 o ffotograffau o faint cyfartalog neu 64,000 o draciau cerddoriaeth.
Mae rhai gyriannau caled cludadwy yn cynnwys nodwedd ‘un cyffyrddiad’ sy’n cadw copïau wrth gefn o’ch data drwy gyffwrdd botwm, neu yn awtomatig ar ysbeidiau a bennir ymlaen llaw.
Mae’n bwysig profi y gellir adfer y data rydych wedi gwneud copïau wrth gefn ohonynt ar eich gyriant caled cludadwy os bydd angen. Dylech brofi hyn gan ddefnyddio cyfrifiadur gwahanol er mwyn sicrhau bod y copïau wrth gefn yn cydweddu – ac y gellir ei adfer – rhag ofn i chi golli eich cyfrifiadur presennol.
Cadw Copïau Wrth Gefn Ar-lein (Cwmwl)
Mae’r defnydd o gyfleuster cadw copïau wrth gefn ar-lein (a elwir yn ‘gwmwl’) yn gynyddol boblogaidd oherwydd ei gyfleuster ychwanegol, y ffaith ei fod yn ddiogel ac yn rhad.
Gallwch gadw gadw copïau gwrth gefn o unrhyw ddata o un neu ddwy ddogfen neu ffotograffau i holl gynnwys eich cyfrifiadur, heb unrhyw gyfyngiad ar le storio bron. Mae rhai darparwyr yn rhoi lle storio cyfyngedig am ddim, ond fel arfer, mae cost cadw copïau wrth gefn yn cynyddu yn gymesur â swm y data dan sylw.
Mae llawer o ddarparwyr cyfleusterau cadw copïau wrth gefn o ddata. Mae’r rhain yn cynnwys darparwyr gwasanaethau’r rhyngrwyd, gwerthwyr meddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd a chwmnïau fel Apple gyda’r iCloud – i arbenigwyr.
Mae’r Cwmwl yn cael ei ddefnyddio fwyfwy fel prif storfa yn ogystal ag er mwyn cadw copïau wrth gefn o ddata. Mae hyn yn eich galluogi i gael gafael ar eich data o unrhyw gyfrifiadur, ffôn clyfar neu lechen unrhyw le yn y byd heb orfod cludo’r data gyda chi, gyda’i risgiau diogelwch cysylltiedig. Mae defnyddio’r Cwmwl fel prif storfa hefyd yn sicrhau diogelwch y data gan fod darparwyr yn cadw copïau wrth gefn o’ch data yn ogystal â’i storio. Mae hyn yn goresgyn y rhan fwyaf o’r risgiau sy’n gysylltiedig â storio data ar eich cyfrifiadur.
Ceir enghraifft o gyfleuster cadw copïau wrth gefn o ddata ar-lein yma.
Cyngor arall
Peidiwch â defnyddio cofau bach USB, CDs neu DVDs y gellir eu recordio er mwyn cadw copïau wrth gefn o’ch data. Er y gall y rhain ymddangos fel petaent yn ddulliau rhad a chyfleus, maent yn rhannu capasiti cyfyngedig a gallant gael eu colli neu eu dwyn yn hawdd. Mae CDs a DVDs hefyd yn araf iawn yn trosglwyddo eich data.