Y risgiau
- Ffonio rhifau premiwm, sy’n dechrau gyda 09, 0871, 0872, 0873 neu 118, sy’n costio mwy na’r rhan fwyaf o rifau llinellau tir rheolaidd. Efallai y byddwch hefyd yn gweld “gall costau rhwydweithiau symudol amrywio” neu “a chostau rhwydwaith ychwanegol” wedi’u nodi mewn perthynas â’r rhif – gall cost gwneud galwadau fod yn wahanol ar gyfer pob darparwr ffôn.
- Anfon negeseuon i rifau testun byr, yn dechrau gyda 6xxxx; 7xxxx; neu 8xxxx, er enghraifft wrth gymryd rhan mewn cystadleuaeth, lle ceir cost cyfradd bremiwm. Gallai hyn olygu y byddwch yn cael rhagor o negeseuon testun nad ydych am eu cael ac y gallech orfod talu tâl amdanynt.
- Lawrlwytho apiau sy’n codi tâl arnoch – efallai y byddant am ddim ar y dechrau ac yna’n costio yn ddiweddarach.
- Haint gan faleiswedd.Yn union fel cyfrifiadur, mae ffonau clyfar a llechi yn agored i feirysau ac ymosodiadau maleiswedd, yn cynnwys y sawl sy’n deialu rhifau cyfradd premiwm.
Aros mewn Rheolaeth o Gostau
- Dylech bob amser wneud yn siŵr faint mae eich rhwydwaith ffôn yn ei godi yn ychwanegol i gost gwneud galwadau cyfradd bremiwm neu anfon neges destun cyfradd bremiwm.
- Cwestiynwch unrhyw rifau dirgel ar eich bil ffôn gyda’ch rhwydwaith ffôn – neu defnyddiwch adnodd gwirio rhifau ar-lein yr Awdurdod Gwasanaethau y Telir Amdanynt drwy’r Ffôn.
- Atebwch negeseuon testun nad ydych am eu cael gyda “STOP” neu “STOP ALL”.
- Darllenwch eich bil ffôn yn ofalus a chadwch lygad am rifau nad ydych yn eu hadnabod a galwadau na wnaethoch eu gwneud.
- Byddwch yn wyliadwrus ynghylch beth rydych yn clicio arno – darllenwch y telerau ac amodau yn llawn bob amser.
Rhagor o Wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, ewch Phone-Paid Services Authority