Y risgiau
- Hysbysebion swyddi ffug sy’n arwain at dwyll neu ddwyn hunaniaeth.
- E-byst gwe-rwydo sy’n eich annog i ymweld â gwefannau ffug.
- Sgamiau ffôn cyfradd premiwm sy’n twyllo pobl i gredu ei fod yn gyfweliad swydd.
- Cynlluniau gweithio gartref ffug lle na chewch eich ad-dalu am waith a wneir, neu rydych yn atebol am dreuliau yr eir iddynt fel costau postio a galwadau ffôn.
- Cael eich twyllo i dalu arian ymlaen llaw yn gyfnewid am y posibilrwydd o gyflogaeth.
- Cael eich twyllo i dalu arian am wiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yr heddlu neu wiriadau diogelwch eraill.
- Sgamiau ysgrifennu CV lle y gofynnir i chi i wella eich CV er mwyn cael swydd.
- Cymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol yn anfwriadol.
- Datgelu gwybodaeth bersonol neu wybodaeth ariannol mewn ffurflenni cais a phroffiliau ar-lein.
- Datgelu gwybodaeth bersonol neu wybodaeth ariannol ar eich CV.
- Troseddwyr yn hacio i mewn i’ch cyfrif.
- Rhoi gwybod i’ch cyflogwr presennol yn anfwriadol eich bod yn chwilio am swydd newydd.
- Darpar gyflogwyr ffug yn peryglu eich diogelwch personol.
- Cael eich amlygu i feirysau ac ysbïwedd.
Cofrestru’n Ddiogel ar Safleoedd Swyddi
- Wrth gofrestru ar safle swyddi, dylech sicrhau i ddechrau bod y safle yn ddilys a bod ganddi gyfeiriad ffisegol a rhif ffôn llinell dir.
- Mae’r rhan fwyaf o safleoedd swyddi yn cynnig hyblygrwydd mewn perthynas â ph’un a ydych yn gwneud eich proffil yn ‘gyhoeddus’, yn ‘gyfrinachol, neu’n ‘breifat’ (methu chwilio amdano). Bydd safleoedd dilys yn egluro’r gwahaniaeth, a dylech ddewis yr opsiwn sydd fwyaf addas i chi.
- Ni ddylech fyth ddatgelu gwybodaeth breifat fel eich rhif Yswiriant Gwladol, rhif trwydded yrru, gwybodaeth am eich cyfrif banc, cerdyn credyd, rhif pasbort na dyddiad geni.
- Dewiswch a defnyddiwch gyfrinair diogel a pheidiwch â’i ddatgelu i neb.
CVs Diogel
Ni ddylech fyth ddatgelu gwybodaeth breifat fel eich rhif Yswiriant Gwladol, rhif trwydded yrru, gwybodaeth am eich cyfrif banc, cerdyn credyd, rhif pasbort na dyddiad geni.
Osgoi Gwyngalchu Arian
Caiff rhai gweithgareddau gwyngalchu arian eu cyflawni pan fydd troseddwyr yn defnyddio cyfrifon banc personol pobl i symud arian sydd wedi’i ddwyn. Peidiwch byth â datgelu manylion cyfrif banc personol nes y byddwch wedi llwyddo yn eich cais, a’ch bod yn fodlon bod eich cyflogwr yn ddilys.
Osgoi Sgamiau
Os byddwch yn cael e-bost sy’n honni ei fod gan ddarpar gyflogwr sydd wedi gweld eich CV ar safle swyddi, dylech glicio ar ddolenni a gwneud yn siŵr eu bod yn mynd i hysbyseb swydd ddilys.
Cynlluniau Gweithio Gartref
Mae cynlluniau gweithio gartref yn gyfrwng poblogaidd i dwyllwyr. Dylech fod yn arbennig o wyliadwrus o lenwi amlenni, gwaith cydosod a biliau meddygol neu waith prosesu hawliadau. Dylai cyflogwyr gweithio gartref dilys fod yn barod i ateb amrywiaeth o gwestiynau am eu rhaglenni. Dyma rai cwestiynau i’w gofyn:
- Pa dasgau y bydd yn rhaid i chi eu cyflawni (gofynnwch i’r darpar gyflogwr restru pob cam o’r swydd).
- P’un a fyddwch yn cael cyflog ai peidio, neu p’un a fydd eich cyflog yn seiliedig ar gomisiwn.
- Pwy fydd yn eich talu.
- Pryd y byddwch yn cael eich taliad cyntaf.
Gwybodaeth arall
- Gwnewch yn siŵr fod darpar gyflogwr yn ddilys cyn cwrdd i gael cyfweliad, er mwyn sicrhau na fydd eich diogelwch personol mewn perygl.
- Byddwch yn wyliadwrus o bobl fydd yn cysylltu â chi ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol lle mae gennych broffil.
- Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.
- Ewch i wefan SAFERjobs (www.safer-jobs.com) i gael rhagor o gyngor ar sut i chwilio am swyddi yn ddiogel.
Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim