Y Risgiau
- Mewn Gemau Chwarae Rôl Ar-lein gyda Llawer o Chwaraewyr (MMORPGs neu MMOs), gall presenoldeb cymuned ar-lein mor fawr o ddieithriaid dienw a’r trafodaethau na chânt eu hidlo na’u cymedroli, arwain at amrywiaeth o risgiau posibl fel:
- Rhannu gwybodaeth bersonol yn anfwriadol neu’n fyrbwyll, yn cynnwys cyfrinair, cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad cartref neu oedran.
- Yr holl beryglon sy’n gysylltiedig ag ystafelloedd sgwrsio ar-lein.
- Lawrlwytho ‘cafflwyr’ sy'#39;n honni eu bod yn gallu eich helpu ond a all gynnwys firysau/ysbïwedd mewn gwirionedd.
- Lawrlwytho copïau dynwaredol o gemau, neu eu cael mewn ffordd arall, a all arwain at gosbau yn cynnwys atal cyfrif dros dro, blocio consolau rhag cael mynediad i weinydd y gweithgynhyrchydd neu erlyn.
- Bod yn wyliadwrus o droseddwyr wrth brynu neu werthu eiddo rhithwir, mewn gemau – er enghraifft cymeriadau lefel uchel – os oes arian go iawn dan sylw.
- ‘Poenydio’ (griefing) pan fydd chwaraewyr yn eich targedu yn benodol er mwyn gwneud eich profiad o chwarae gemau yn llai pleserus.
- Gwaredu consolau gemau, cyfrifiaduron a dyfeisiau symudol heb fod wedi dileu eich gwybodaeth bersonol a manylion eich cyfrif.
- Lawrlwytho gemau ‘am ddim’ ar y we ac ar apiau lle mae’n rhaid i chi dalu er mwyn cael mynediad i’r cynnwys cyfan.
- Chwarae gemau am sawl awr ar y tro gyda’r perygl o fynd yn gaeth.
Chwarae Gemau’n Ddiogel
- Dim ond pan fydd gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg y dylech chwarae gemau ar-lein.
- Dim ond fersiynau awdurdodedig o gemau rydych wedi’u prynu o’r ffynonellau cywir ac y mae gennych drwydded ar eu cyfer y dylech eu chwarae.
- Gwiriwch ddilysrwydd a diogelwch ffeiliau sydd wedi’u lawrlwytho a meddalwedd newydd drwy brynu o ffynonellau dibynadwy.
- Dewiswch enw defnyddiwr nad yw’n datgelu unrhyw wybodaeth bersonol. Yn yr un modd, os yw eich gêm yn cynnwys y gallu i greu proffil personol, gwnewch yn siŵr nad ydych yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol.
- Defnyddiwch gyfrineiriau cryf.
- Peidiwch â datgelu unrhyw wybodaeth bersonol i chwaraewyr eraill.
- Gwnewch yn siŵr fod y feddalwedd chwarae gemau yn gyfredol. Mae’r rhan fwyaf o gemau amlchwaraewr yn diweddaru eu hunain cyn gadael i chi gysylltu. Byddwch yn wyliadwrus iawn ynghylch lawrlwytho unrhyw raglen anawdurdodedig sy’n ymwneud â’r gêm.
- Cadwch lygad am sgamiau ac achosion o dwyllo wrth brynu neu werthu ‘eiddo’ sy’n bodoli mewn gêm gyfrifiadurol, yn y byd go iawn.
- Darllenwch delerau ac amodau’r gweithgynhyrchydd neu’r cwmni sy’n ei gynnal er mwyn gwneud yn siŵr na fydd unrhyw daliadau cudd uniongyrchol neu yn y dyfodol.
- Wrth waredu eich dyfais chwarae gemau naill ai drwy ei gwerthu, ei sgrapio, ei rhoi i rywun arall neu ei rhoi’n rhodd, gwnewch yn siŵr fod eich holl wybodaeth bersonol wedi’i dileu. Mae’r dull o wneud hyn yn amrywio o ddyfais i ddyfais. Cofiwch ddileu manylion eich cyfrif, a chreu copi wrth gefn neu drosglwyddo eich gemau i’ch dyfais newydd os yw’n briodol.
- Pennwch ganllawiau a rheolau sylfaenol i’ch plant wrth chwarae ar-lein.
Rhagor o Wybodaeth
Canllaw i rieni er mwyn cadw plant yn ddiogel wrth chwarae gemau ar-lein: http://www.everybodyplays.co.uk/parents-guide-to-games
Caiff gemau ar-lein gwahanol eu hesbonio mewn canllawiau fideo, yma: https://www.youtube.com/user/FamilyGamerTV
Caiff gemau ar-lein gwahanol eu hesbonio mewn canllawiau fideo, yma: https://www.youtube.com/user/FamilyGamerTV