Y risgiau
- Cael eich twyllo i ddatgelu data personol mewn ymateb i e-bost, neges destun, llythyr neu alwad ffôn.
- Rhywun yn dwyn dogfennau papur neu’n cael mynediad iddynt (er enghraifft, datganiadau banc, biliau cyfleustod, ffurflenni treth, pasbort/trwydded yrru).
- Rhannu gwybodaeth breifat â theulu, ffrindiau neu bobl rydych yn ymddiried ynddynt.
- ‘Syrffio dros ysgwydd’ – pobl yn edrych dros eich ysgwydd ar eich cyfrifiadur neu’ch ffôn clyfar/llechen, neu wrth y peiriant ATM.
Y Symptomau
- Ddim yn cael biliau na gohebiaeth arall – sy’n awgrymu bod troseddwr wedi rhoi cyfeiriad gwahanol yn lle eich cyfeiriad chi.
- Cael cardiau credyd na wnaethoch gais amdanynt.
- Credyd yn cael ei wrthod i chi heb reswm amlwg.
- Cael galwadau gan gasglwyr dyledion neu gwmnïau am bethau na wnaethoch eu prynu.
- Cofnodion nad ydych yn eu hadnabod ar eich hanes credyd.
- Mae dogfennau pwysig fel eich pasbort neu drwydded yrru eisoes wedi cael eu colli neu eu dwyn.
- Wrth brynu neu werthu, rydych yn cael cwynion nad yw nwyddau nad oeddech yn ymwybodol ohonynt wedi cael eu dosbarthu neu na thalwyd amdanynt.
- Rydych yn gweld cofnodion ar eich datganiad banc, credyd neu gerdyn siopa am nwyddau na wnaethoch eu harchebu.
- Ni allwch fewngofnodi i safle gan ddefnyddio eich cyfrinair arferol (am fod troseddwr wedi mewngofnodi fel chi ac wedi’i newid).
Atal
- Peidiwch â rhannu gwybodaeth am eich cyfrif â ffrindiau, teulu na phobl eraill.
- Peidiwch â rhannu gormod ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru yn rhedeg.
- Os yw’n bosibl, trefnwch gael biliau a datganiadau dibapur.
- Ffeiliwch ddogfennau sensitif yn ddiogel, a rhwygwch y rhai nad oes eu hangen arnoch bellach – yn ddelfrydol gyda pheiriant rhwygo papur.
- Peidiwch byth â datgelu data gwybodaeth breifat wrth ymateb i e-bost, neges destun, llythyr, galwad ffôn, oni bai bod y cais o ffynhonnell ddilys.
- Byddwch yn wyliadwrus bob amser o bobl yn edrych dros eich ysgwydd pan fyddwch yn nodi gwybodaeth breifat ar gyfrifiadur, dyfais symudol neu beiriant ATM.
Beth i’w wneud os bydd rhywun wedi dwyn eich hunaniaeth
- Gweithredwch yn ddi-oed er mwyn lleihau’r effaith.
- Cysylltwch ag unrhyw wefannau yr effeithiwyd arnynt a rhowch wybod iddynt am y broblem.
- Os gallwch, mewngofnodwch a newidiwch eich cyfrinair ar unwaith gan ddefnyddio cyfrinair cryf.
- Os na allwch fewngofnodi, cysylltwch ag adran cymorth technegol y wefan ar unwaith i gael rhagor o gyngor.
- Gofynnwch i’ch banc, cymdeithas adeiladu neu gwmni cerdyn credyd am gyngor (er enghraifft ar rewi cyfrifon a chael cardiau, cyfrineiriau a PINs newydd). Bydd y rhan fwyaf yn ad-dalu’r swm llawn a gollwyd ar yr amod nad oeddech yn esgeulus mewn rhyw ffordd.
- Newidiwch eich cyfrinair ar wefannau eraill rhag ofn eu bod hefyd wedi cael eu peryglu.
- Os oes angen cwestiwn cyfrinachol i gael mynediad i wefan, newidiwch hwn os gallwch er mwyn osgoi digwyddiadau tebyg.
- Gwiriwch eich gwybodaeth bersonol arall, fel cyfeiriadau, er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn dal i fod yn gywir.
- Chwiliwch am drafodion eraill, eitemau sydd ar werth neu eitemau a brynwyd yn eich enw nad chi oedd yn gyfrifol amdanynt, a’u canslo.
- Rhowch wybod am bob dogfen a gafodd ei cholli neu ei dwyn (pasbortau, trwyddedau gyrru, cardiau credyd, llyfrau siec ac ati) cyn gynted â phosibl i’r awdurdodau cyhoeddi perthnasol.
- Peidiwch â pharhau i ddefnyddio PIN sydd wedi’i beryglu.
- Holwch yr asiantaethau gwirio credyd am unrhyw gofnodion anarferol, ac i gael cyngor. Er enghraifft, mae Experian yn cynnig gwasanaeth monitro rhad ac mae’r manylion ar gael yn www.experian.co.uk/consumer/credit-expert-credit-monitoring.html ac mae Clearscore yn dangos adroddiad credyd Equifax i chi am ddim, yma: www.clearscore.com/?utm_source=trmi&utm_medium=site&utm_campaign=gso-site
- Rhowch wybod i Royal Mail os byddwch yn amau bod rhywun wedi dwyn eich post neu fod camau atgyfeirio post wedi’u cymryd yn dwyllodrus ar gyfer eich cyfeiriad.
- Ystyriwch gofrestru â Gwasanaeth Cofrestru Amddiffynnol CIFAS.
Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll: Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk .
Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.