Y risgiau
- Ceir risg uchel o golli’r arwerthiant ar ôl gwario arian ar gynigion eisoes, gan fod arwerthiannau yn agored i nifer anhysbys o chwaraewyr, yn cynnwys y rhai mewn gwledydd eraill.
- Gwneud mwy a mwy o gynigion heb sylweddoli faint rydych yn ei wario.
- Defnyddio cynigion wedi’u hawtomeiddio, a all ymestyn gemau a chodi’r siawns ar gyfer chwaraewyr sy’n parhau i chwarae.
- Problemau rhwydwaith a phroblemau technegol eraill a allai olygu oedi o eiliadau hanfodol i gynigion yn anfwriadol, yn enwedig pan fydd llawer o bobl mewn gwledydd gwahanol yn chwarae’r un gêm.
- Yr anallu i asesu strategaethau cynigwyr eraill.
- Cael nwyddau nad ydynt yn cyfateb i ddisgrifiad yr hysbysebwr.
- Peidio â derbyn nwyddau rydych wedi gwneud cynnig llwyddiannus amdanynt.
- Eich hunaniaeth mewn arwerthiant ceiniog yn cael ei ddwyn a’i ddefnyddio mewn ffordd dwyllodrus.
- Eich gwybodaeth bersonol/ariannol yn cael ei dwyn a’i defnyddio mewn ffordd dwyllodrus.
- Negeseuon e-bost gwe-rwydo, y mae’n ymddangos eu bod o safleoedd arwerthiannau neu dalu ar-lein neu sydd mewn gwirionedd gan droseddwyr sy’n ceisio eich denu i ymweld â gwefan ffug er mwyn cael eich gwybodaeth fel manylion mewngofnodi ar gyfer eich cyfrif talu ar-lein.
Defnyddiwch arwerthiannau ceiniog yn ddiogel
- Byddwch yn wyliadwrus ynghylch defnyddio safleoedd camarweiniol neu dwyllodrus. Chwiliwch am adolygiadau neu sylwadau ar-lein am y safleoedd er mwyn gweld a yw defnyddwyr eraill wedi cael anawsterau.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth rydych yn ei wneud: gan eich bod yn talu er mwyn cynnig, mae gwefannau arwerthiannau ceiniog yn debycach i loterïau na gwefannau awerthiant traddodiadol. Gall safleoedd gynnig cynigion – ond gall pwrcasiadau hefyd droi allan i fod yn ddrutach na’r disgwyl unwaith y bydd yr holl gostau cynigion wedi’u hychwanegu.
- Byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau o dan Ddeddf Gwerthu Nwyddau 1979. Efallai y bydd hawl gennych i ddychwelyd nwyddau a chael ad-daliad os yw’r nwyddau a gewch o ansawdd anfoddhaol, os nad ydynt yn addas at y diben neu os nad ydynt yn cyfateb i ddisgrifiad y gwerthwr.
- Dylech ddarllen telerau ac amodau’r gwerthwr bob amser i weld cyfyngiadau amser er mwyn osgoi anghydfodau.
- Byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau o dan y Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr (Gwerthu o Bell). Mewn rhai amgylchiadau gwerthu o bell, os nad ydych wedi cael y cyfle i archwilio nwyddau cyn eu prynu, fel arfer bydd gennych saith diwrnod gwaith, o pan fyddwch yn cael y nwyddau, i’w dychwelyd a chael ad-daliad llawn. Pan fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys, rhaid i fasnachwyr roi hysbysiad i chi o’ch hawliau canslo a dylid nodi hyn yn glir yn y telerau ac amodau.
- Cofiwch na allwch ddychwelyd nwyddau fel arfer dim ond am eich bod yn penderfynu nad ydych eu heisiau nhw mwyach.
- Darllenwch y print mân bob amser a byddwch yn glir ynghylch beth rydych chi’n ymrwymo iddo cyn i chi gytuno ar unrhyw delerau ac amodau.
A chofiwch bob amser
- Defnyddiwch gyfrineiriau cryf. Peidiwch byth â datgelu eich cyfrineiriau ar gyfer arwerthiannau ceiniog neu daliadau ar-lein i neb.
- Os ydych yn meddwl bod eich cyfrif arwerthiant ceiniog ar-lein neu ar gyfer gwneud taliadau ar-lein wedi cael ei beryglu, gweithredwch ar unwaith. Ewch ar dudalen gymorth ar-lein y safle.
Pwyllwch cyn clicio ar ddolenni mewn negeseuon e-bost digymell. Er enghraifft, mae’n well rhoi cyfeiriad gwefan eich banc yn uniongyrchol yn eich porwr, neu ddefnyddio nod tudalen a grëwyd gennych gan ddefnyddio’r cyfeiriad cywir. - Os byddwch yn talu â cherdyn talu, cofiwch fod cerdyn credyd yn eich amddiffyn yn well na dulliau eraill mewn perthynas â thwyll, gwarantau ac achosion o fethu â dosbarthu.
- Wrth dalu naill ai drwy wasanaeth talu ar-lein neu gan ddefnyddio cerdyn talu, gwnewch yn siŵr fod y ddolen yn ddiogel, mewn dwy ffordd:
- Dylai fod symbol clo clap yn ffrâm ffenestr y porwr, sy’n ymddangos pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi neu gofrestru. Gwnewch yn siŵr nad yw’r clo clap ar y dudalen ei hun … mae’n debyg y bydd hyn yn arwydd o safle twyllodrus.
- Dylai’r cyfeiriad gwe ddechrau gyda ‘https://’. Mae’r ‘s’ yn golygu ei bod yn ddiogel.
- Mae’r uchod yn dangos bod y cyswllt rhyngoch chi a pherchennog y wefan yn ddiogel, ond nid yw’n dangos bod y safle ei hun yn ddilys. Mae angen i chi wneud hyn yn ofalus drwy chwilio am achosion cynnil o gamsillafu yn y cyfeiriad, geiriau a nodau ychwanegol ac achosion eraill o afreoleidd-dra.
- Dylech bob amser allgofnodi o safleoedd rydych wedi mewngofnodi iddynt neu roi manylion cyfrestru arnynt. Nid yw cau eich porwr yn ddigon i sicrhau preifatrwydd.
- Cadwch dderbynebau.
- Darllenwch ddatganiadau cardiau credyd a banc yn ofalus ar ôl siopa er mwyn gwneud yn siŵr bod y swm cywir wedi cael ei ddebydu, a hefyd nad oes unrhyw dwyll wedi digwydd o ganlyniad i’r trafodyn.
- Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.
Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.