Yn bwysicach na hynny, ydych chi’n ymwybodol o beryglon posibl plant sy’n defnyddio’r safleoedd amrywiol hyn? P’un a yw hynny yn:
- Sgwrsio â phobl sy’n ‘ffrindiau’ newydd iddyn nhw yn eu barn nhw, ond a allai fod â bwriad i wneud niwed iddyn nhw mewn gwirionedd.
- Rhannu neu edrych ar ddelweddau amhriodol neu ddelweddau sy’n addas i oedolion neu gynnwys arall.
- Cael eich bwlio neu eich cam-drin mewn ffyrdd eraill.
- Cael eich herio i gyflawni gweithredoedd peryglus neu anghyfrifol ar gamera – ‘neknominating‘ yw un o’r rhai y rhoddir y mwyaf o sylw iddo.
- Datgelu gwybodaeth bersonol neu breifat amdanyn nhw eu hunain, eu ffrindiau neu eu teulu. Neu drefnu i gwrdd yn bersonol â rhywun maen nhw wedi cwrdd ar-lein, pan nad y person hwnnw ydyn nhw mewn gwirionedd.
Dyma rai o’r safleoedd mwyaf cyffredin y gallech weld bod eich plant yn eu defnyddio. Gallwch ddysgu mwy am safleoedd rhwydweithio cymdeithasol prif ffrwd fel Facebook a Twitter, yma.
Mae llawer o’r safleoedd hyn yn defnyddio fideo byw fel ffordd o gyfathrebu, neu’n cynnwys anfon lluniau. Mae hyn yn gadael y ffordd yn agored i bobl anfon delweddau a all fod yn amhriodol.
Mae gan sawl safle ‘reolau’ fel oedran gofynnol i fod yn aelod, neu’r math o gynnwys, delweddau neu gynnwys y gall aelodau eu rhannu. Yn ddi-ffael, mae’r broses gofrestru yn dibynnu ar ymddiriedaeth ac mewn gwirionedd, mae’n hawdd i blant esgus eu bod yn hŷn. A gellir cam-drin y rheolau ar y math o gynnwys y gellir ei rannu. Darllenwch y cyngor yn yr adran Diogelu Plant ar y wefan hon ar sut i weithio gyda’ch plant er mwyn eu cadw’n ddiogel ar-lein – sy’n cynnwys eu ffonau a’u llechi.
Snapchat
Ap rhannu ffotograffau poblogaidd ar gyfer dyfeisiau symudol Apple ac Android yw Snapchat, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr rannu eu ffotograffau am rai eiliadau cyn iddynt ‘ddiflannu’. Ond gall unrhyw un sy’n derbyn llun ei gadw drwy gymryd sgrinlun, neu mae apiau newydd wedi cael eu datblygu sy’n golygu y gall y llun gael ei gadw heb wneud hynny hyd yn oed. Mae’r safle’n cael ei beirniadu’n gryf am ei gwneud yn hawdd i blant gael eu stelcian neu eu paratoi at bwrpas rhyw. 13 yw’r cyfyngiad oedran er mwyn ymuno â’r safle, ond mae llawer o blant yn gwneud hynny pan fyddant yn iau o lawer.
Ask.fm
Ar Ask.fm, mae defnyddwyr dienw yn gofyn cwestiynau i ddefnyddwyr eraill. Mae hyn yn golygu y gallant guddio eu hunaniaeth yn hawdd a dweud yr hyn a fynnont i bob pwrpas heb unrhyw ganlyniadau. Yn ôl y sôn, mae achosion o fwlio a cham-drin ar y safle wedi arwain at brofiadau trawmatig iawn ymysg pobl ifanc, gyda rhai achosion trist o bobl ifanc yn lladd eu hunain. Mae perchenogion y safle wedi dweud y byddant yn cynnwys botwm ‘adrodd am gamdriniaeth’, darparu dulliau cofrestru dewisol a chyflogi rhagor o bobl fel cymedrolwyr.
Yik Yak
“No profiles, no passwords, it’s all anonymous”, dyma’r hyn a geir ar ddeunydd cyhoeddusrwydd yr ap. Mae’r ap wedi’i gynllunio fel ffordd o bostio newyddion a negeseuon mewn cymunedau lleol ac ar gampysau colegau ac ysgolion, ac mae wedi ennill enw da fel dull ar gyfer seiberfwlis ac mae disgyblion wedi cael eu gwahardd rhag ei ddefnyddio mewn llawer o ysgolion yn y DU a’r UD.
Habbo
Safle rhwydweithio cymdeithasol wedi’i anelu at bobl ifanc yn eu harddegau yw Habbo (Habbo Hotel yw ei enw llawn), er ein bod wedi clywed am blant mor ifanc ag wyth oed yn ei ddefnyddio. Eto, mae wedi bod yn destun cryn bryder oherwydd negeseuon pornograffig.
Shots of Me (or just Shots)
Ap sy’n galluogi defnyddwyr i gymryd a phostio hunluniau, sydd ond yn defnyddio camera golwg blaen eu ffonau symudol. Mae Shots wedi peri pryder eang oherwydd y ffaith ei fod yn cael ei ddefnyddio i anfon ffotograffau amhriodol a allai arwain at achosion o seiberfwlio a blacmel.
Omegle
Is-bennawd Omegle yw “Chat to strangers”, felly mae’n amlwg o’r cychwyn cyntaf y gallai eich plant (a chi) fod yn wynebu nifer o broblemau.
Chatroulette
Eto, ar Chatroulette, nid oes gan y plant unrhyw syniad gyda phwy maent yn siarad ar ben arall y sgrin, sy’n destun pryder.
I roi syniad arall i chi o nifer yr apiau a safleoedd sgwrsio y gall plant fanteisio arnynt heddiw, dyma ddetholiad bach o safleoedd sy’n debyg i Chatroulette, yn seiliedig ar y defnydd o wegamerâu a chamerâu ffôn. Ydych chi’n adnabod unrhyw un ohonynt?
iMeetzu
SpinnerChat
WebcamBam
Cam Random Chat
HollerChat
RandomSkip
CoolStreamz
Swagcams
SpeedyCams
Bazoocam
Omegle
Chatroulette
Tinychat
Camzap
Chatrandom
Facebuzz
Quierochat
Streamberry
Chatpig
Chattino
Camfrog
Hehechat
Rounds
Chatville
Funyo
Paltalk
Webcamnow
Flipchat
VideochatUS
RouletteChat
Dirtyroulette
Chatxroulette
Lollichat
Chatrad
321 Chat
Chatbazaar
Wireclub
Chat Avenue
Wocchat
Airtime