Fenywod a Merched: Diogelwch eich hun ar-lein nawr!
Rydych yn gyfartal ar-lein
Fel menyw, efallai eich bod yn teimlo, hyd yn oed yng nghanol y 2020au, bod gennych anfantais wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd. Nid ydych ar eich pen eich hun, oherwydd er bod y rhyngrwyd yn cael ei dathlu fel grym ar gyfer mwy o gyfartaledd a phwer, mae gan fenywod a merched o amgylch y byd bryderon dyddiol am fynd ar-lein, a llawer o’r rhain yn dilyn profiadau personol go iawn a phrofiadau pobl eraill. Mae’r rhain yn amrywio o ragfarn, rhywiaeth a chasineb at fenywod i amrywiaeth o ganlyniadau amharu ar breifatrwydd, i dwyll a dwyn hunaniaeth, ac mae pob un o’r rhain yn haws i’r troseddwr oherwydd maint anferthol y rhyngrwyd ac yn fwy diweddar, drwy ddefnyddio adnoddau AI sydd ar gael yn hawdd.
Caiff yr anghydraddoldeb hwn ar-lein ei amlygu drwy gyflogaeth yn y maes seiberddiogelwch, lle mae menywod ond yn cyfrif am ddau allan o 10 cyflogai, er eu bod yn cynrychioli bron i hanner y gweithlu byd eang.
Mae cydraddoldeb wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd yn hawl ddynol hanfodol i fenywod a merched. Mae ein harbenigwyr diogelwch ar-lein wedi llunio rhai awgrymiadau i’ch helpu i’w ddefnyddio’n hyderus ac i barhau i gymryd mantais o’i holl fanteision. Nid oes digon o le i restru’r holl gyngor yma, felly rydym yn awgrymu eich bod yn cael golwg ar y tudalennau gwe mwyaf perthnasol.
Dylwn, wrth gwrs, nodi bod dynion hefyd yn wynebu risg o brofi’r materion a drafodwyd isod.
Eich awgrymiadau defnyddiol ar gyfer mwynhau profiad ar-lein yn ddiogel ac yn hyderus
Trais Ar-lein ar sail Rhywedd
Mae hyn ar sawl ffurf, gan gynnwys yn rhywiol neu fathau eraill o aflonyddu, seiberstelcio, newyddion ffug, cywilyddu corff, cynnwys cas, docsio a blacmel. Ni ddylai menywod deimlo’n israddol, bod rhywun yn eu bygwth neu’n tarfu arnynt, felly cofiwch flocio a rhoi gwybod am droseddwyr. Mae llawer o adnoddau ar-lein hefyd y gallwch eu defnyddio i gael cymorth os byddwch yn dioddef. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.getsafeonline.org/personal/articles/online-gender-based-violence
Eich Manylion Personol yn cael eu Hecsbloetio
Dywedir y gallwch ddod o hyd i beth bynnag rydych eisiau ei gael ar-lein. Gallai hynny gynnwys eich manylion personol chi, os byddwch wedi gor-rannu gwybodaeth drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gwefannau a hyd yn oed galwyr. Ydych chi wedi edrych ar eich ôl troed digidol yn ddiweddar? Efallai y byddwch wedi rhannu gwybodaeth bersonol, safbwyntiau neu luniau a allai fod yn amhrisiadwy i dwyllwr, lleidr hunaniaeth neu gamdriniwr … neu a allai arwain at drais corfforol hyd yn oed. I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, ewch i www.getsafeonline.org a chwilio ‘Privacy’ ac ‘Oversharing’.
Cam-drin Technegol
Mae llawer o gamdrinwyr yn defnyddio technoleg bob dydd i reoli, aflonyddu neu fygwth rhywun. Efallai y byddant yn cam-drin yn gorfforol, yn rhywiol, yn seicolegol, neu’n economaidd drwy hacio ffonau, gosodiadau lleoliad, seiberstelcio, olrhain cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, camerâu cartrefi a mathau eraill o dechnoleg. Mae llawer o fenywod a merched sy’n cael profiad o gam-drin technegol yn teimlo nad oes ganddynt ddewis ond rhoi’r gorau i ddefnyddio lleoedd ar-lein neu eu dyfeisiau, gan wneud iddynt deimlo’n fwy ynysig a diymadferth. I gael cyngor os byddwch yn profi problem fel hyn, ewch i www.refugetechsafety.org
Ecsbloetio’n Rhywiol neu Bornograffi Dial
Yn anffodus, mae achosion o ecsbloetio’n rhywiol neu bornograffi dial yn gyffredin iawn, gyda menywod o bob oedran yn cael eu targedu am resymau fel malais, budd ariannol neu hunan-foddhad. Hyd yn oed os bydd troseddwr ond ychydig yn ddoeth yn dechnegol, gall ddefnyddio amrywiaeth o ffyrdd i godi cywilydd arnoch, a all achosi trawma sylweddol a chronig, hyd yn oed. Mae llawer o gyngor ar gael yn hawdd ar-lein ar sut i osgoi rhywun yn camfanteisio arnoch yn rhywiol neu bornograffi dial a beth i’w wneud os byddwch yn dioddef. Dechreuwch drwy fynd i www.getsafeonline.org a chwilio ‘Sexploitation’ a ‘Revenge Porn’.
Twyll
Mae cymaint o fathau o dwyll â’r pethau rydym yn eu gwneud ar-lein, gyda sgamwyr yn defnyddio popeth o pryniannau i fuddsoddiadau, bancio i garu a threfnu gwyliau i chwilio am swydd, fel ffenestr siop ar gyfer eu gweithgareddau. Mae gennym lawer o gyngor ar sut i adnabod a delio â phob un o’r rhain. Ond ffordd dda i gael awgrymiadau sylfaenol yw mynd i www.getsafeonline.org/new-to-internet
Rhowch wybod!
Os ydych yn teimlo eich bod yn cael eich bygwth, eich cam-drin neu fod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn, cofiwch roi gwybod amdano i’r wefan neu’r llwyfan perthnasol ac, os yw’n briodol, i’r heddlu. Gallai hyn helpu i atal problemau pellach i chi ac i amddiffyn menywod a merched eraill hefyd.
#MenywodDiogelArLein
Ydych chi'n newydd i'r rhyngrwyd?
Byddwn yn eich helpu i aros ar-lein gyda diogelwch a hyder.
Chi, Coronavirus ac aros yn ddiogel ar-lein
Sut i gadw'n ddiogel ar-lein yn ystod pandemig Coronavirus.
Neighbourhood Alert
Cofrestrwch i dderbyn Rhybuddion Cymdogaeth.
Diogelu plant
Ydy'ch plant chi'n ddiogel gyda phopeth maen nhw'n ei wneud ar-lein?
Ffonau clyfar a thabledi
Mae'n fyd symudol. Cadwch hi'n ddiogel.
Cyfryngau cymdeithasol
Ydych chi'n ei ddefnyddio'n ddiogel ac yn gyfrifol?