English

Deall AI: y manteision a’r heriau 

O fod yn rhywbeth lle mai dim ond ychydig o bobl oedd yn ymwybodol ohono, a hyd yn oed llai o bobl yn ei ddeall, mae’r term AI (neu ddeallusrwydd artiffisial) bellach yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin gan bawb, o arbenigwyr technoleg i’r cyhoedd. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod hefyd bod ganddo agweddau cadarnhaol a negyddol.

Mae AI wedi bod gyda ni ers mwy o amser nag y byddech efallai yn sylweddoli, yn chwarae ei ran mewn sawl agwedd ar ein bywydau o ddydd i ddydd, o’r cyfryngau cymdeithasol i satnav, caru ar-lein i drefnu bwrdd. Mae’n mynd yn fwyfwy soffistigedig, ac mae bellach yn ffurfio rhan fawr o strategaethau sawl sefydliad, ac yn sicrhau camau datblygiadol enfawr mewn llawer o feysydd, o ofal iechyd i drafnidiaeth, gweithgynhyrchu i farchnata, cyllid i atal troseddau. Ar gyfer unigolion, mae nifer o adnoddau AI cynhyrchiol ar gael yn hawdd ar gyfer chwilio a chreu cynnwys.  

Diffiniad o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI)

 
Technoleg yw AI sydd wedi’i adeiladu ar fodelau sydd wedi’u hyfforddi ar swm penodol o ddata neu ddata sydd ar gael ar y rhyngrwyd, yn dibynnu ar gyfluniad y rhaglen. AI cynhyrchiol – y math sy’n cael ei ddefnyddio’n aml i greu cynnwys – mae’n defnyddio’r hyn y mae wedi’i ddysgu i greu ymatebion yn seiliedig ar ‘awgrymiadau’ a ddarperir gan ddefnyddiwr.
 

Beth yw’r problemau o ddydd i ddydd? 

Yn ogystal â’r pethau gwych y gall AI ei wneud, mae ganddo hefyd nifer o agweddau negyddol – ar wahân i’r pryderon ei fod yn mynd â swyddi ac yn rhoi mantais annheg i’w ddefnyddwyr.  

  • Mae dynwared yn elfen o’r rhan fwyaf o droseddau ac agweddau niweidiol eraill ar-lein – boed yn ddynwared eich banc, awdurdodau treth neu adrannau eraill o’r llywodraeth, rhywun rydych yn siarad ag ef ar y cyfryngau cymdeithasol, safle gemau neu garu, unigolyn enwog yn honni ei fod yn cefnogi cynnyrch neu wasanaeth … neu hyd yn oed ffrind neu gydweithiwr. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae AI yn creu lluniau, fideos, galwadau ffôn a galwadau fideo twyllodrus sy’n llawer mwy realistig a darbwyllol.  
  • Mae AI hefyd yn cael ei ddefnyddio’n fwy aml i gynhyrchu fideos ffugiad dwfn at ddibenion anghyfreithlon neu anfoesol.  
  • Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i greu a thargedu negeseuon gyda’r nod o newid eich safbwyntiau gwleidyddol neu ideolegol.  
  • Risg arall yw mynd yn rhy ddibynnol ar AI i gyflawni tasgau amrywiol y dylech eu cyflawni eich hun. Er enghraifft, os byddwch yn dibynnu ar AI i gynhyrchu unrhyw fath o gynnwys, bydd y canlyniad dim ond cystal â’r hyn y gall ddod o hyd iddo ar-lein, ac felly, gallai fod yn anghywir neu’n amherthnasol. Mae hefyd yn golygu nad ydych yn defnyddio eich sgiliau eich hunain, a allai gamarwain athrawon neu gyflogwyr a dod yn amlwg pan fyddwch yn sefyll arholiadau neu’n ceisio dyrchafiad. 

Darllenwch ein hawgrymiadau defnyddiol ar ddiogelu eich hun rhag AI ar-lein. 

  • Yn fwy nag erioed, byddwch yn wyliadwrus o ymdrechion i dwyllo neu ddwyn hunaniaeth. Mae AI bellach yn cael ei ddefnyddio’n eang gan seiberdroseddwyr i ddynwared pobl neu sefydliadau dilys, felly gofynnwch i’ch hun a yw cais am arian neu wybodaeth yn ymddangos yn iawn. 
  • Dysgwch sut i adnabod yr arwyddion: a yw llais mewn fideo neu drac sain yn swnio’n awtomataidd neu’n annaturiol? A yw lluniau a fideos yn ymddangos fel eu bod wedi cael eu haddasu, a yw fideos yn herciog? A fyddai’r person yn y fideo neu’r recordiad llais yn dweud yr hyn y mae’n ymddangos ei fod yn ei ddweud go iawn? A oes unrhyw beth nad yw’n edrych neu’n swnio’n ddilys? 
  • Os bydd unrhyw un yn anfon neu’n postio fideo neu lun ffugiad dwfn ohonoch sy’n sarhaus am unrhyw reswm, rhowch wybod amdano a gwnewch gais iddo gael ei atal rhag defnyddio’r llwyfan. 
  • Nid yw allbynnau llwyfannau AI cynhyrchiol ond cystal â’r wybodaeth y maent wedi’i chaffael a’i dysgu. Mae bob amser yn werth gwirio ffynonellau eraill y gwyddoch eu bod yn ddibynadwy i gael cywirdeb a gonestrwydd.  
  • Peidiwch â chredu popeth rydych yn ei ddarllen, ei weld neu’n ei glywed, waeth pa mor ddilys y gallai ymddangos. Mae AI yn cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus iawn i ddylanwadu ar eich gweithredoedd a’ch credoau. 
  • Pan fyddwch yn defnyddio AI cynhyrchiol, peidiwch â datgelu gwybodaeth bersonol na chyfrinachol ddiangen amdanoch eich hun, eich teulu, eich ffrindiau na’ch sefyllfa ariannol, oherwydd gallai hyn ymddangos yng nghanlyniadau ymholiadau defnyddwyr eraill. 
  • Mae’r hyn rydych yn ei gyflwyno ar lwyfan AI cynhyrchiol yn aros yno a chaiff ei ddefnyddio gan rywun, yn rhywle. Dylech sicrhau bod yr hyn rydych yn ei gyflwyno bob amser yn barchus.  
  • Defnyddiwch AI bob amser fel adnodd, nid yn lle eich doniau, deallusrwydd na rhinweddau eich hun neu eraill. 

#DeallAI 

In Partnership With