Cariad ar yr olwg gyntaf … ond efallai ddim.

Wrth i garu ar-lein fod y ffordd fwyaf cyffredin i gyfarfod â rhywun newydd y dyddiau hyn, bydd y rhan fwyaf o’r bobl yn chwilio’n wirioneddol am gariad neu gwmni. Ond wyddech chi fod platfformau caru ar-lein hefyd yn boblogaidd gyda defnyddwyr llai gonest sy’n camfanteisio arnynt i gyflawni twyll, camddefnyddio a niweidiau eraill? Os byddwch yn dod yn ddioddefwr, ni fyddwch yn cael gwybod nes ei bod yn rhy hwyr.
A nawr, mae’n anoddach fyth i weld y gwahaniaeth.
Mae twyllwyr rhamant bob amser wedi bod yn hen lawiau ar ddynwared rhywun arall a darbwyllo, ond nawr, mae llawer mwy yn defnyddio AI (Deallusrwydd Artiffisial) i wneud eu lluniau, eu negeseuon, eu galwadau ffôn, a hyd yn oed eu galwadau fideo yn fwy argyhoeddiadol. Ni waeth pa mor ddoeth rydych chi’n meddwl eich bod chi, gallwch fod yn ddioddefwr.
Amddiffynnwch eich hunan
Os byddwch chi yn rhoi cynnig ar garu ar-lein am y tro cyntaf, cymerwch amser i ddarllen yr awgrymiadau arbenigol hyn ar amddiffyn eich hunan. Os ydych chi’n caru ar-lein yn rheolaidd, beth am eu darllen fodd bynnag fel nodyn atgoffa?
- Dewiswch wefan neu ap caru ar-lein sy’n ddibynadwy. Darllenwch yr adolygiadau ac yn well byth, gofynnwch am awgrymiadau gan eich ffrindiau a theulu.
- Arhoswch ar wasanaeth negeseuon y llwyfan, ni waeth pa mor awyddus mae’r person i gyfathrebu â chi y tu allan iddi. Gwnewch hyn nes eich bod yn hyderus bod y person yn dweud y gwir am bwy ydyw, a’ch bod yn ymddiried yn llwyr ynddo.
- Defnyddiwch gyfrineiriau cadarn ac unigryw gan gynnwys unrhyw fanylion mewngofnodi eraill bob amser ar wefannau ac apiau caru er mwyn lleihau’r tebygolrwydd y caiff eich cyfrif ei hacio.
- Dewch i adnabod y person, nid y proffil. Meddyliwch a gweithredwch yn rhesymol, peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau a pheidiwch â rhuthro i mewn i ddim byd.
- Chwiliwch ar y we gan ddefnyddio enw neu luniau proffil yr unigolyn rydych yn sgwrsio ag ef neu unrhyw ymadroddion a ddefnyddir yn aml ganddo a’r term ‘sgâm garu’, ‘sgâm ramant’ neu ‘swyno drwy dwyll’. Teipiwch ‘Chwilio gyda delwedd ar Google’ yn eich peiriant chwilio er mwyn geld a yw’r llun proffil yn un dilys neu a yw wedi cael ei ddwyn. Gallwch ddefnyddio hyn drwy’r Ganolfan Adnoddau Hunan-gymorth ar wefan Get Safe Online.
- Os byddwch yn cwrdd â rhywun newydd sy’n rhy awyddus neu sy’n eich rhuthro, gall hyn fod yn arwydd bod gan yr unigolyn gymhellion eraill.
- Os bydd rhywun rydych wedi cwrdd ag ef ar-lein yn gofyn i chi anfon arian, manylion banc neu gyfrineiriau, gwrthodwch, ni waeth pa mor argyhoeddiadol neu dorcalonnus yw’r rheswm y bydd yn ei roi.
- Peidiwch â datgelu manylion personol fel enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad cartref nac enwau, manylion na lleoliadau eich aelodau o’ch teulu. Gallwch fod yn peryglu eich diogelwch eich hun, neu eu diogelwch nhw.
- Peidiwch ag anfon lluniau neu fideos ohonoch chi eich hun sydd o natur bersonol at rywun rydych wedi’i gwrdd ar-lein. Mae blacmel rhywiol a phorn dial yn dod yn fwy cyffredin, a gall y ddau arwain at drawma sylweddol i’r dioddefwr.
- Os bydd rhywun yn dweud wrthych am beidio â sôn amdano wrth eich ffrindiau a theulu, gall fod yn ceisio eich ynysu neu eich rheoli drwy orfodaeth. Meddyliwch o ddifrif am ddod â’r sgwrs i ben a’i flocio.
- Os byddwch yn cwrdd â rhywun wyneb yn wyneb am y tro cyntaf, mae eich diogelwch yn hollbwysig. Dywedwch wrth ffrind neu aelod o’ch teulu ble a phryd rydych chi’n mynd. Trefnwch eich trafnidiaeth eich hun yno ac yn ôl, trefnwch gyfarfod yn rhywle cyhoeddus, cadwch eich ffôn wedi’i droi ymlaen a threfnwch i rywun eich ffonio er mwyn rhoi’r cyfle i chi esgusodi eich hun a gadael yn gynnar.
Os byddwch yn dioddef twyll rhamant, rhowch wybod i Action Fraud ar unwaith ar www.actionfraud.police.uk neu drwy ffonio 0300 123 2040. Dylech hefyd roi gwybod i’r wefan neu’r ap caru lle gwnaethoch gwrdd â’r troseddwr. Rhowch wybod am unrhyw ymosodiadau neu ymddygiad sy’n enghraifft o reolaeth drwy orfodaeth i’r heddlu.
I gael cyngor ymarferol am ddim ar garu’n ddiogel ar-lein, ewch i getsafeonline.org a dewiswch ‘Protecting Yourself’ yna ‘Safe Online Dating’
#CaruDiogel

Ydych chi'n newydd i'r rhyngrwyd?
Byddwn yn eich helpu i aros ar-lein gyda diogelwch a hyder.

Chi, Coronavirus ac aros yn ddiogel ar-lein
Sut i gadw'n ddiogel ar-lein yn ystod pandemig Coronavirus.

Neighbourhood Alert
Cofrestrwch i dderbyn Rhybuddion Cymdogaeth.

Diogelu plant
Ydy'ch plant chi'n ddiogel gyda phopeth maen nhw'n ei wneud ar-lein?

Ffonau clyfar a thabledi
Mae'n fyd symudol. Cadwch hi'n ddiogel.

Cyfryngau cymdeithasol
Ydych chi'n ei ddefnyddio'n ddiogel ac yn gyfrifol?