Cadw’ch yn ddiogel ar-lein y Nadolig hwn.
Cymerwch eiliad i feddwl am y pethau y byddwch yn eu gwneud dros y Nadolig. Mae’n debygol y bydd y rhyngrwyd yn rhan o hyn mewn rhyw ffordd neu’r llall.
Ond wrth i chi fynd ar-lein i siopa, chwarae gemau, sgwrsio a mwy, mae twyllwyr yn gweithio yn y cefndir ac yn manteisio ar y ffaith nad yw pobl yn aml yn talu sylw ar yr adeg brysur hon o’r flwyddyn. Ac oherwydd deallusrwydd artiffisial (AI), mae eu sgamiau yn aml yn fwy argyhoeddiadol nag erioed.
Peidiwch â rhoi Nadolig llawen i seiberdroseddwr. Darllenwch ein cyngor syml a hawdd ei ddilyn ar sut i ddiogelu eich hun, eich teulu, eich arian a’ch dyfeisiau ar-lein y Nadolig hwn.
Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer y Nadolig
- Archebion ar-lein
Mae hysbysebion a gwefannau ffug, tudalennau talu anniogel a nwyddau ffug yn gyffredin. Peidiwch byth â thalu rhywun nad ydych yn ei adnabod drwy drosglwyddiad banc os nad ydych wedi gweld y nwyddau eich hun. Gwiriwch a yw gwefan yn debygol o fod yn un gyfreithlon neu dwyllodrus ar www.getsafeonline.org/checkawebsite
- Sgamiau danfon
Gall archebion ac anrhegion Nadolig gan eraill gyrraedd drwy gludwr neu yn y post. Sgam cyffredin ar yr adeg hon o’r flwyddyn yw neges destun neu e-bost yn rhoi gwybod i chi bod ffi dosbarthu neu ail-ddosbarthu. Os bydd gennych unrhyw amheuon, ffoniwch y cludwr neu’r manwerthwr bob amser ar y rhif y gwyddoch ei fod yn gywir. Edrychwch i weld a yw’r neges rydych yn pryderu amdani yn debygol o fod yn dwyllodrus ar www.ask-silver.com
- Ffonau, llechi a chyfrifiaduron
Diogelwch ffonau symudol, llechi a chyfrifiaduron newydd neu ail-law gan ddefnyddio ap/meddalwedd diogelwch dibynadwy. Ychwanegwch PIN neu god pas newydd ac unigryw cyn gynted ag y byddwch yn troi’r pŵer ymlaen. Gwnewch gopïau wrth gefn awtomatig o’ch holl ddogfennau a lluniau fel na fyddwch yn eu colli. Adolygwch y gosodiadau preifatrwydd a lleoliad ar ddyfeisiau newydd a rhai sydd gennych eisoes.
- Dyfeisiau clyfar
Nid yw cadw cyfrineiriau a osodwyd yn y ffatri ar gyfer cynorthwywyr llais, teclynnau, camerâu, teganau plant, watshis ffitrwydd a dyfeisiau clyfar eraill yn ddigon diogel, felly gosodwch gyfrineiriau newydd ac unigryw. Cofiwch fod cynorthwywyr llais a seinyddion clyfar wedi’u dylunio i adnabod a deall yr hyn rydych yn ei ddweud. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am osod dyfeisiau cyswllt.
- Dyfeisiau ail-law
Os byddwch yn gwerthu cyfrifiadur, ffôn symudol neu gonsol neu’n ei roi fel anrheg, ailosodwch y ddyfais i osodiadau’r ffatri er mwyn dileu eich data. Dysgwch sut i wneud hyn ar wefan y gweithgynhyrchydd. Os byddwch wedi prynu neu wedi cael dyfais ail-law, newidiwch osodiadau’r perchennog blaenorol dilëwch y data os na fydd hyn eisoes wedi cael ei wneud.
- Diweddariadau
Gwnewch yn siŵr bod diweddariadau meddalwedd, ap a systemau gweithredu yn cael eu cwblhau’n awtomatig ar eich holl ddyfeisiau er mwyn osgoi maleiswedd, a allai arwain at achosion o dwyll, dwyn hunaniaeth neu fusnesu.
- Apiau symudol
Dim ond apiau o ffynonellau cydnabyddedig fel App Store, Google Play neu Microsoft Store y dylech eu lawrlwytho. Gallai lawrlwytho o rywle arall arwain at dwyll neu ddwyn hunaniaeth.
- Chwarae gemau
Ceisiwch osgoi problemau posibl o ganlyniad i gemau wedi’u hatgynhyrchu’n anghyfreithlon, cael eich pryfocio gan chwaraewyr eraill (griefing), a gorwario mewn gêm. Cadwch gofnod o’r amser y byddwch yn ei dreulio yn chwarae gemau. Peidiwch â rhannu gwybodaeth gyfrinachol mewn sgyrsiau. Cadwch lygad ar y gemau y mae eich plant yn eu chwarae, drwy wirio terfynau oedran PEGI y gemau a siarad â nhw am bwy y maent yn chwarae ac yn sgwrsio â nhw.
- Rhannu gormod
Gwnewch yn siŵr bod yr hyn rydych yn ei rannu ar-lein yn barchus ac nad yw’n datgelu gwybodaeth sy’n gyfrinachol, yn sensitif neu’n peri cywilydd i chi eich hun neu eraill, gan gynnwys aelodau o’r teulu a ffrindiau. Os byddwch allan neu i ffwrdd dros y Nadolig, cadwch hynny i chi’ch hun, am fod lladron wrth eu bodd â’r cyfryngau cymdeithasol hefyd.
- Galwadau fideo
Cadwch alwadau’n ddiogel dros y Nadolig drwy ddefnyddio gwasanaeth sy’n gofyn am gyfrinair cryf, a pheidiwch â rhannu’r gwahoddiad i’r alwad na manylion am yr alwad ag unrhyw un heblaw’r person neu’r grŵp sy’n rhan o’r alwad.
- Ar grwydr
Peidiwch â defnyddio llecynnau Wi-Fi mewn caffis, tafarndai, gwestai, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn mannau cyhoeddus eraill ar gyfer unrhyw beth cyfrinachol oherwydd gallent fod yn anniogel neu’n dwyllodrus.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gadw’n ddiogel y Nadolig hwn, ewch i www.getsafeonline.org
Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich twyllo, rhowch wybod i Action Fraud drwy ffonio 0300 123 20 40 neu drwy fynd i’r wefan www.actionfraud.police.uk
#NadoligDiogel
Ydych chi'n newydd i'r rhyngrwyd?
Byddwn yn eich helpu i aros ar-lein gyda diogelwch a hyder.
Chi, Coronavirus ac aros yn ddiogel ar-lein
Sut i gadw'n ddiogel ar-lein yn ystod pandemig Coronavirus.
Neighbourhood Alert
Cofrestrwch i dderbyn Rhybuddion Cymdogaeth.
Diogelu plant
Ydy'ch plant chi'n ddiogel gyda phopeth maen nhw'n ei wneud ar-lein?
Ffonau clyfar a thabledi
Mae'n fyd symudol. Cadwch hi'n ddiogel.
Cyfryngau cymdeithasol
Ydych chi'n ei ddefnyddio'n ddiogel ac yn gyfrifol?