English

Byddwch yn ymwybodol o’r hyn rydych yn ei rannu  

Byddwch yn ymwybodol o'r hyn rydych yn ei rannu

Diolch i’r rhyngrwyd, mae’n hawdd rhannu am yr hyn rydych chi’n ei wneud, sut rydych chi’n teimlo, eich barn, beth rydych chi’n ei hoffi neu ddim yn ei hoffi, beth rydych chi’n angerddol amdano, a’ch diddordebau. Yn ogystal â gwybodaeth neu ddiweddariadau amdanoch eich hun, eich teulu a’ch ffrindiau, a rhoi diweddariadau i bawb am eich bywyd. 

Ond beth os na fydd yr hyn rydych chi’n ei rannu yn cael yr effaith a fwriadwyd am eich bod yn rhannu gormod? Fel codi cywilydd arnoch chi neu rywun arall am eich bod wedi postio rhywbeth y noson flaenorol, rhywun yn torri i mewn i’ch cartref am eich bod wedi postio lluniau o’ch gwyliau teulu, neu ddatgelu lleoliad eich plant. Neu fod eich hunaniaeth yn cael ei dwyn os bydd troseddwr yn casglu manylion personol o’ch proffil at ei gilydd.  

Rydym wedi llunio awgrymiadau arbenigol i’ch helpu i osgoi rhannu gormod, a’r canlyniadau posibl.  

  • Gwiriwch fod eich cyfrif Facebook a phroffiliau cyfryngau cymdeithasol eraill wedi eu gosod yn breifat. 
  • Cofiwch y gall popeth yn eich proffiliau, postiadau, sylwadau a lluniau gael eu gweld gan bobl eraill, y tu hwnt i’ch cysylltiadau personol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am eich symudiadau, pen-blwydd, eich cyfeiriad, eich plant, gweithle a phasbort/trwydded yrru. 
  • Os ydych wedi defnyddio enwau aelodau o’ch teulu, eich anifeiliaid anwes neu eich hoff dimau chwaraeon ar gyfer cyfrineiriau neu ymadroddion cofiadwy, peidiwch â’u cynnwys mewn proffiliau neu bostiadau/sylwadau. 
  • Parchwch hawl eich plant, aelodau eraill o’r teulu a’ch ffrindiau i breifatrwydd, y gallwch fod yn ei beryglu drwy rannu gwybodaeth, lleoliad a lluniau. 
  • Mae’r hyn sy’n cael ei roi ar-lein, yn aros ar-lein, hyd yn oed ar ôl iddo gael ei ddileu. Meddyliwch ddwywaith cyn rhannu unrhyw beth a allai effeithio ar eich cydberthnasau neu eich gyrfa chi neu eraill nawr ac yn y dyfodol. 
  • Cofiwch y gall cymeradwyo mynediad at ddata eich cyfryngau cymdeithasol er mwyn cymryd rhan mewn cystadleuaeth neu arolwg ddatgelu manylion cyfrinachol. Gwiriwch y telerau ac amodau. 
  • Diffoddwch y gosodiadau lleoliad ar eich dyfeisiau symudol, apiau a chamerâu chi a’ch plant er mwyn osgoi rhoi gwybod lle rydych chi/ble maen nhw. 
  • Mae’n hwyl postio pan fyddwch i ffwrdd o gartref, ond mae lladron yr un mor hoff o’r cyfryngau cymdeithasol â chi, ac efallai na fydd eich polisi yswiriant yn talu os bydd rhywun yn torri i mewn i’ch cartref. 

I ddysgu am rannu’n ddiogel ar-lein, ewch i wefan Get Safe Online a chwiliwch am ‘Rhannu gormod’. 

#WhatDoYouShare 

In Partnership With