Risgiau y mae yswiriant yn eu cwmpasu
Mae yswiriant atebolrwydd seiber yn wasanaeth cymharol newydd o hyd a gall y lefelau yswiriant amrywio yn fawr rhwng cwmnïau yswiriant gwahanol, fodd bynnag, gall polisi atebolrwydd seiber da gwmpasu’r canlynol:
- Colli eich data eich hun, eu difrodi neu eu haflunio
- Colli data trydydd parti, eu difrodi neu eu haflunio (yn cynnwys data cwsmeriaid neu gyflenwyr)
- Halogi systemau trydydd parti (yn cynnwys data cwsmeriaid neu gyflenwyr) â maleiswedd
- Costau fforensig
- Cymorth technegol er mwyn adfer systemau a data
- Cymorth cyfreithiol
- Rheoli mewn argyfwng a chymorth cysylltiadau cyhoeddus
- Talu dirwyon a chosbau
- Gostyngiad mewn incwm / amharu ar fusnes
- Talu ffioedd gwystlo
- Digwyddiadau sy’n creu embaras ar y cyfryngau cymdeithasol
- Torri amodau hawlfraint
- Colli data sydd wedi’u storio yn y cwmwl
- Hysbysu gwrthrychau data
- Monitro credyd ar gyfer gwrthrychau data
- Difrod ffisegol a achosir gan achos o dorri data
- Gweithredoedd damweiniol a maleisus
Dylai unrhyw sefydliad sy’n dibynnu ar ddata, sy’n delio â gwybodaeth sensitif neu gyfrinachol, sy’n cyfathrebu’n electronig neu’n rheoli systemau a phrosesau yn electronig ystyried diogelu eu busnes ag yswiriant atebolrwydd seiber. Dylech edrych ar eich proffil risg eich hun a phrynu yswiriant sy’n addas ar gyfer eich peryglon a’ch risgiau eich hun. Mae anghenion atebolrwydd seiber manwerthwr ar-lein yn wahanol iawn i rai cyfreithiwr, peiriannydd manylrwydd, meddygfa neu ysgol ac mae nifer y cyflogeion hefyd yn berthnasol.
Costau
Mae premiymau yswiriant atebolrwydd seiber wedi gostwng yn ddramatig dros y blynyddoedd diwethaf ond cânt eu pennu yn ôl maint a gweithgareddau’r busnes y mae angen yr yswiriant arno. Yn ôl y disgwyl, mae yswirwyr yn edrych yn fwy ffafriol ar fusnesau sy’n rheoli risg seiber yn dda. Er enghraifft, bydd sefydliadau sy’n cyrraedd safonau fel Cyber Essentials neu IASME yn aml yn cael gostyngiadau premiwm neu hyd yn oed yswiriant am ddim, yn dibynnu ar yr amodau. Neu, gall busnesau nad oes ganddynt ddiogelwch digonol ei chael hi’n anodd cael yswiriant.
Oherwydd y cymhlethdod, rydym yn argymell eich bod yn cael yswiriant gan frocer yswiriant annibynnol sydd ag arbenigedd mewn yswiriant seiber. Bydd yn gallu rhoi cyngor i chi a’ch helpu i gael yswiriant priodol ar gyfer eich busnes.
Mae’r dudalen hon wedi’i llunio gyda chymorth caredig Sutcliffe and Co Insurance Brokers