Cymhellion ar gyfer ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig.
- Blacmel / cribddeiliaeth.
- Effeithio’n negyddol ar eich enw da neu ei ddinistrio hyd yn oed.
- Cystadleuaeth annheg (manteisio ar eich diffyg gwasanaeth er mwyn ennill eich cwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt).
- Drwgdeimlad yn eich erbyn chi neu eich busnes.
- Yr awydd i gael credadwyedd ymysg y gymuned droseddol.
- Hactifadu
Diogelu eich busnes
Mewn termau technegol, gall ymosodiadau atal gwasanaeth gwasgaredig ddod ar sawl ffurf, ac fel sawl agwedd ar y rhyngrwyd, mae angen gwybodaeth fanwl er mwyn eu deall ac amddiffyn rhagddynt.
Os oes gennych reswm i gredu eich bod yn darged posibl i ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig, rydym yn argymell eich bod yn dod o hyd i arbenigwr diogelu rhag ymosodiadau atal gwasanaeth gwasgaredig sydd â’r wybodaeth a’r adnoddau ategol i ddiogelu eich busnes ac yn ymgynghori ag ef. Dylai allu argymell a gweithredu datrysiad technegol er mwyn lliniaru’r bygythiad i’ch busnes.
Cynllunio galluoedd
Dylai pob sefydliad sydd â gwefan wneud yn siŵr ei fod wedi’i ddiogelu cymaint â phosibl rhag traffig anghyfreithlon a chyfreithlon sy’n anarferol o uchel (ac annisgwyl).
Dylech gynnal asesiad risg, gan ystyried yr holl ganlyniadau rhesymol, a sefydlu capasiti gweweinydd, band eang a phŵer prosesu i fynd i’r afael â nifer fawr o ymweliadau ar yr un pryd. Trefnwch gyda’ch darparwr cynnal i hwyluso camau hyblyg a rhagweithiol o fynd i’r afael â llwythi heb lawer o rybudd os o gwbl ac ystyriwch gydbwyso llwythi i weinyddion lluosog. Bydd cost yn gysylltiedig â’r trefniadau hyn, ond bydd angen i chi gydbwyso hyn yn erbyn y risgiau a’r canlyniadau i’ch busnes ac efallai y gellir trafod hyn.