Y risgiau
Os nad yw eich hwb/llwybrydd wedi’i ddiogelu, gall pobl neu sefydliadau anhysbys / heb awdurdod gael mynediad iddo yn rhwydd os byddant o fewn y cwmpas. Gall hyn arwain at y canlynol:
- Gwybodaeth gyfrinachol neu sensitif y gallwch fod yn ei hanfon neu’n ei derbyn ar-lein yn cael ei rhyng-gipio, gan arwain at amrywiaeth o ganlyniadau difrifol.
- Eich lled band yn cael ei gymryd – gan effeithio ar gyflymder ar-lein eich cyfrifiaduron eich hun a dyfeisiau eraill.
- Eich lwfans lawrlwytho, rydych wedi talu eich Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) amdano, yn cael ei ddefnyddio.
- Bod deunydd amhriodol yn cael ei lawrlwytho, a fyddai’n cael ei olrhain i’ch cyfeiriad ac nid i gyfeiriad y ddyfais dan sylw.
Rhwydweithio Di-wifr Diogel
- Gellir osgoi’r holl risgiau uchod drwy sicrhau bod eich hwb/llwybrydd di-wifr wedi’i ddiogelu. Er mwyn gwneud yn siŵr fod hyn yn wir, chwiliwch am rwydweithiau di-wifr sydd ar gael, a bydd y rhai sydd wedi’u diogelu yn cynnwys symbol clo clap.
- Pan fyddwch yn cysylltu cyfrifiadur, ffôn clyfar, llechen, argraffwr neu unrhyw ddyfais ddi-wifr arall ag unrhyw hwb/llwybrydd/dongl di-wifr am y tro cyntaf, cewch eich annog i roi cyfrinair/allwedd ar yr amod bod y rhwydwaith mewn modd diogel. Bydd hyn yn galluogi’r ddyfais i gysylltu ar yr achlysur hwn ac fel arfer, ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol. Am resymau diogelwch, dylech newid y cyfrinair/allwedd i un o’ch dewis chi cyn defnyddio’r Wi-Fi ar gyfer unrhyw gysylltiadau neu drafodion o natur gyfrinachol.
- Os ydych yn sefydlu hwb/llwybrydd newydd, mae’n siŵr y bydd wedi’i ddarparu gyda’r diogelwch wedi’i droi ymlaen fel y gosodiad diofyn. Mae tair prif lefel amgryptio ar gael (WEP, WPA a WPA2), a WPA2 yw’r uchaf. Mae’r rhan fwyaf o hybiau/llwybrwyr yn rhoi’r opsiwn i chi o ddewis lefel uwch, ond cofiwch efallai na fydd rhai dyfeisiau hŷn yn gydnaws â lefelau uwch.
- Os na fydd hwb/llwybrydd/dongl di-wifr cartref/swyddfa/symudol rydych am gysylltu ag ef wedi’i ddiogelu am unrhyw reswm, darllenwch y llawlyfr defnyddiwr.
- Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd effeithiol wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi gysylltu i rwydwaith di-wifr.
- Cadwch godau Wi-Fi yn ddiogel fel nad yw unigolion nad oes ganddynt awdurdod i gysylltu yn gwneud hynny.
- Cofiwch fod y cod mynediad wedi’i argraffu ar yr hwb/llwybrydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod naill ai yn ei ddileu, neu wneud yn siŵr na ellir cael mynediad i’r hwb/llwybrydd ei hun os bydd ymyrraeth neu os bydd pobl nad ydych yn eu hadnabod yn cael mynediad i’r safle.