Y risgiau
- Gan fod galwadau cynadledda a sesiynau fideogynadledda wedi’u trefnu ymlaen llaw fel arfer, gallai unrhyw un sydd â’r manylion deialu a mynediad – efallai drwy weld yr e-bost sy’n cynnwys y gwahoddiad neu ddefnyddio ysbïwedd – gael mynediad i’r alwad.
- Pan wneir galwadau cynadledda dros gysylltiad llais dros y rhyngrwyd, mae ychydig o risg o glustfeinio am fod y gwasanaeth llais dros y rhyngrwyd yn gweithio dros gysylltiadau rhyngrwyd cyhoeddus. Fodd bynnag, mae’r risg yn is na defnyddio llinell dir arferol, y gellid clustfeinio’n hawdd arni.
Telegynadledda a fideogynadledda diogel
- Defnyddiwch gyfrineiriau cryf, a pheidiwch â’u datgelu i neb arall.
- Peidiwch â datgelu manylion deialu i unrhyw un heblaw’r cyfranogwyr a awdurdodwyd yn yr alwad.
- Os yw eich gwasanaeth yn cynnwys proffil cyhoeddus, peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth sensitif, breifat na chyfrinachol ynddo.
- Ystyriwch wasanaeth a reolir. Mae darparwyr gwahanol yn cynnig lefelau gwahanol o ddiogelwch, a all gynnwys:
- Y gallu i ofyn am adolygu nifer y cyfranogwyr ar yr alwad. Mae hyn yn goresgyn y broblem y bydd cyfranogwr a awdurdodwyd yn ymuno â’r alwad yn gynnar.
- Cloi galwadau unwaith y bydd pob cyfranogwr wedi cyrraedd er mwyn atal unrhyw un arall rhag ymuno â’r alwad hyd yn oed os bydd ganddynt y PIN cywir.
- Rhifau PIN deuol sy’n galluogi’r cadeirydd i gael mwy o reolaeth dros alwad.
- Bydd rhifau PIN â chyfyngiad amser yn dirwyn i ben ar ôl i alwad ddod i ben.
- Os byddwch yn defnyddio Skype ar gyfer gwneud galwadau cynadledda neu fideogynadledda, byddwch yn wyliadwrus ynghylch pwy rydych yn derbyn ceisiadau ganddynt i fod yn un o’u cysylltiadau. Dylech osod eich gwasanaeth i ganiatáu cysylltiadau gan bobl rydych yn eu hadnabod yn unig.
- Holwch eich darparwr yn rheolaidd i weld a oes unrhyw ddiweddariadau neu batsys.
- Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd effeithiol wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio Wi-Fi diogel. Peidiwch â dibynnu ar y ffaith bod Wi-Fi / llecynnau cyhoeddus yn ddiogel, ond yn hytrach defnyddiwch 3G / 4G, neu VPN.
- Ar ôl yr alwad, rhowch y ffôn i lawr neu, yn achos Skype a gwasanaethau fideo eraill, cliciwch ar ‘End call’ er mwyn gwneud yn siŵr fod beth rydych yn ei ddweud neu’n ei wneud yn cael ei gadw’n gyfrinachol.