English

Sgamiau CThEM/Tŷ’r Cwmnïau

Mae negeseuon e-bost gwe-rwydo twyllodrus sy’n honni eu bod wedi’u hanfon gan CThEM neu adrannau eraill y llywodraeth wedi bodoli ers rhai blynyddoedd. Maent yr un mor boblogaidd ymysg sgamwyr, os nad yn fwy poblogaidd.

Yn y DU, mae’r dyddiadau cau ar gyfer ffurflenni a thaliadau treth yn amrywio yn ôl natur eich busnes. Mae dyddiadau ffurflenni a thaliadau Treth Gorfforaethol a TAW – a ffurflenni Tŷ’r Cwmnïau – yn dibynnu ar ddyddiadau ymgorffori a chofrestru. Mae dyddiadau ffurflenni a thaliadau TAW ac YG hefyd yn benodol ar gyfer eich busnes. Ar gyfer Hunanasesu (yn achos unig fasnachwyr a phartneriaethau), y dyddiad ar gyfer ffurflenni yw 31 Ionawr, a’r dyddiadau ar gyfer taliadau ar gyfrifon yw 31 Ionawr a 31 Gorffennaf.

Gallwch gael negeseuon e-bost twyllodrus unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond yn ystod y cyfnodau cyn y dyddiadau hyn y maent fwyaf cyffredin gan fod llawer o fusnesau yn meddwl am eu materion treth.

Y risgiau

  • Os ydych yn drethdalwr neu os oes gennych fusnes arall â CThEM, efallai y byddwch yn cael e-bost gwe-rwydo sy’n gofyn am wybodaeth gyfrinachol a fyddai’n rhoi mynediad i droseddwyr i’ch cyfrifon banc neu gerdyn talu
  • Neu, efallai y bydd yr e-bost yn cynnwys atodiad sy’n esgus bod yn ddogfen ddilys, ond sydd mewn gwirionedd yn cyflwyno feirws y gellir ei ddefnyddio i’ch twyllo, dwyn eich hunaniaeth, ysbïo arnoch neu’n eich dal yn wystl ariannol.

Risg arall yw y gallech gael eich twyllo i ddefnyddio gwasanaeth answyddogol yn lle gwefan CThEM, o’r math sydd fel arfer yn codi ffioedd uwch ac afresymol yn aml am wasanaethau a ddarperir am ddim neu am gost is gan y llywodraeth. Fel arfer, gelwir y rhain yn wefannau efelychu.

Diogelu eich busnes

  • Cofiwch na fydd CThEM na sefydliadau eraill y llywodraeth byth yn eich hysbysu am ad-daliad treth neu gosb – nac yn gofyn am fanylion talu personol – dros e-bost, neges destun neu bost rhwydweithio cymdeithasol.
  • Byddwch yn wyliadwrus o negeseuon e-bost:
    • Sy’n cynnwys cyfeiriad e-bost sy’n wahanol i gyfeiriad gwefan CThEM neu sefydliad arall dibynadwy.
    • A anfonir o gyfeiriad hollol wahanol neu o gyfeiriad gwebost am ddim.
    • Nad yw’n defnyddio eich enw go iawn, ond yn hytrach yn defnyddio cyfarchiad amhenodol fel “Annwyl gwsmer”, “Annwyl Berchennog Busnes”, “Annwyl Drethdalwr” neu ddim cyfarchiad o gwbl.
    • Sy’n ymgorffori ymdeimlad o frys; er enghraifft, y bygythiad y gellir cau eich cyfrif neu y gallwch golli dyddiad cau ar gyfer taliad neu hawliad am ad-daliad os na fyddwch yn gweithredu ar unwaith.
    • Sy’n gofyn am wybodaeth gyfrinachol busnes neu gyflogai fel enw defnyddiwr, cyfrinair neu fanylion banc.
  • Byddwch yn wyliadwrus o negeseuon e-bost sy’n cynnwys atodiadau. Os nad ydych yn siŵr, peidiwch â chlicio ar yr atodiad a dilëwch yr e-bost, peidiwch ag ymateb a pheidiwch â’i anfon ymlaen oni bai bod hynny er mwyn rhoi gwybod i’r sefydliad dilys.
  • Byddwch yn wyliadwrus o wefannau efelychu, a all godi ffi uchel am wasanaeth a allai fod am ddim, neu am gost is, o safle swyddogol y llywodraeth.  Bydd y safleoedd hyn yn costio arian diangen i’ch busnes ac efallai na fyddant yn darparu unrhyw wasanaeth o gwbl, er gwaethaf y ffaith eu bod yn ymddangos mewn safle amlwg ar Google a pheiriannau chwilio eraill.

Beth i’w wneud os byddwch yn cael negeseuon e-bost amheus sy’n honni eu bod gan CThEM

Anfonwch nhw ymlaen i [email protected] neu darllenwch ganllawiau CThEM ar adnabod sgamiau

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll:

Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk.

In Partnership With