Mae llawer o’r risgiau sy’n gysylltiedig â rhwydweithio cymdeithasol / y cyfryngau cymdeithasol yn deillio o gael grŵp mor fawr ac, mewn sawl achos, anhysbys, o bobl rydych yn rhyngweithio â nhw, a fforwm na chaiff ei gymedroli i bob pwrpas.
Y risgiau
- Datgelu gwybodaeth gyfrinachol yn ddiniwed gennych chi, cydweithwyr, cwsmeriaid, ffrindiau neu gysylltiadau.
- Datgelu gwybodaeth gyfrinachol yn fwriadol am amrywiaeth o resymau yn cynnwys mantais ariannol, twyll, peryglu hunaniaeth neu effaith ar enw da.
- Bod yn darged i fwlio, stelcio, trolio neu fathau eraill o gam-driniaeth ar-lein.
- Cyflawni bwlio, stelcio, trolio neu fathau eraill o gamdriniaeth ar-lein.
- Mynediad i gynnwys amhriodol drwy ddolenni mewn postiadau neu drydariadau.
- E-byst gwe-rwydo sy’n honni eu bod o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol, ond sydd mewn gwirionedd yn eich annog i ymweld â gwefannau twyllodrus neu amhriodol.
- Pethau y mae cydweithwyr, cwsmeriaid, cyflenwyr, ffrindiau a phobl eraill a chwmnïau wedi’u postio neu eu trydar yn eich annog i fynd i wefannau twyllodrus neu amhriodol.
- Twyllwyr, lladron hunaniaeth neu hactifadyddion yn hacio i mewn i’ch cyfrif neu dudalen neu’n eu cymryd drosodd.
- Maleiswedd wedi’i gynnwys mewn atodiadau negeseuon neu ffotograffau.
Rhwydweithio cymdeithasol / cyfryngau cymdeithasol diogel, synhwyrol a chyfrifol
Gall eich sefydliad a’i gyflogeion osgoi’r risgiau hyn a defnyddio safleoedd rhwydweithio cymdeithasol / cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn rhai canllawiau synhwyrol. Cofiwch fod dilyn canllawiau arfer gorau ar gyfer rhwydweithio cymdeithasol / cyfryngau cymdeithasol yn y gweithle yn debyg iawn i’r rhai yn eich bywyd preifat.
- Cyfyngwch fynediad i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol cwmni i’r rhai sydd ei angen ac sydd wedi’u hyfforddi i’w defnyddio yn unig.
- Sefydlwch a chynhaliwch drywydd archwilio o bwy sy’n cael mynediad i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ac ataliwch fynediad ar unwaith i gyflogeion neu gontractwyr sy’n gadael y busnes.
- Os ydych yn ystyried defnyddio apiau i gydgasglu sawl cyfrif Twitter, Facebook a LinkedIn, dim ond y rhai sy’n berthnasol ac sydd eu hangen y dylech eu defnyddio, a chyfyngwch fynediad gan eu bod yn darged poblogaidd ar gyfer cael eu hacio.
- Byddwch yn wyliadwrus o gyhoeddi unrhyw wybodaeth adnabod gyfrinachol am eich busnes, cyfarwyddwyr, cyflogeion neu gwsmeriaid – naill ai yn eich proffil neu yn eich postiadau / trydariadau.
- Defnyddiwch gyfrineiriau cryf.
- Mae’r hyn sy’n mynd ar-lein yn aros ar-lein. Dylech chi a’ch cydweithwyr ystyried yn ofalus cyn cyhoeddi sylwadau neu luniau a allai beri anawsterau yn ddiweddarach, naill ai i’r busnes neu i drydydd partïon.
- Monitrwch beth mae busnesau ac unigolion eraill yn ei bostio amdanoch chi, neu’n ymateb i’ch postiadau.
- Dysgwch sut i ddefnyddio safleoedd yn gywir. Defnyddiwch y nodweddion preifatrwydd i gyfyngu ar fynediad eraill i’ch proffil. Byddwch yn ofalus pwy rydych yn gadael iddynt ymuno â’ch rhwydwaith.
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi a’ch cydweithwyr yn cadw llygad bob amser am weithgarwch gwe-rwydo, llais-rwydo a gweithgarwch teilwra cymdeithasol arall sydd â’r nod o loffa cyfrineiriau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
- Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd effeithiol wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.
- Byddwch yn ymwybodol o faint o amser anghynhyrchiol y mae cyflogeion / cydweithwyr yn ei dreulio ar safleoedd nad ydynt yn gysylltiedig â gwaith, i’r graddau y maent yn monitro eu gweithgarwch ar-lein.