Mewn rhai achosion, yr unig ran o’r cyfrifiadur y gellir ei ddefnyddio yw’r bysellfwrdd rhifau er mwyn rhoi PIN i’ch galluogi i dalu’r troseddwyr. Un tro ychwanegol yw y gall cyhuddiad o weithgaredd anghyfreithlon neu ddelwedd bornograffig ymddangos weithiau ar y sgrin sydd wedi’i gloi, sy’n ei gwneud yn anoddach drwy gywilydd i rai defnyddwyr geisio help gan unrhyw un arall, a phenderfynu talu’r pridwerth.
Gallai eich cyfrifiaduron gael eu heintio gan feddalwedd wystlo pan fyddwch chi neu gydweithwyr yn gwneud y canlynol yn anfwriadol:
- Agor atodiad maleisus mewn e-bost.
- Clicio ar ddolen faleisus mewn neges e-bost, neges uniongyrchol, safle rhwydweithio cymdeithasol neu wefan arall.
- Ymweld â gwefan lwgr.
- Agor ffeiliau wedi’u heintio gan wefannau dosbarthu ffeiliau digidol ar y we (er enghraifft High Tail (YouSendIt gynt) neu Dropbox.
- Agor macros llwgr mewn dogfennau cymwysiadau (prosesu geiriau, taenlenni ac ati).
- Cysylltu dyfeisiau cyswllt USB llwgr (e.e. cofau bach, gyriannau caled allanol, chwaraewyr MP3).
- Rhoi CDs/DVDs llwgr mewn cyfrifiaduron.
Y risgiau
- Peidio â gallu cael mynediad i unrhyw ffeiliau neu swyddogaethau ar gyfrifiaduron wedi’u heintio byth eto.
- Peidio â chael mynediad i’ch ffeiliau neu swyddogaethau, hyd yn oed pan fyddwch wedi talu’r pridwerth.
Osgoi meddalwedd wystlo
- Peidiwch ag ateb i e-byst digymell na sbam gan gwmnïau neu unigolion nad ydych yn eu hadnabod na chlicio ar ddolenni yn yr e-byst hynny.
- Dim ond gwefannau rydych yn gwybod eu bod nhw’n ddilys y dylech ymweld â nhw.
- Dylech bob amser ddiweddaru meddalwedd ac apiau – yn cynnwys systemau gweithredu – cyn gynted ag y cewch eich annog i wneud hynny.
- Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd effeithiol wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.
- Sefydlwch gamau awtomataidd i gadw data wrth gefn yn rheolaidd, yn ddelfrydol ar-lein i gyfleusterau sy’n diwallu anghenion diogelwch eich sefydliad a gwneud yn siŵr bod copïau wrth gefn o ddata yn gallu cael eu gwneud yn gyflym ac y gellir cael mynediad iddynt yn hawdd.
Os oes gennych feddalwedd gwystlo ar eich cyfrifiaduron
- Er mwyn canfod a dileu meddalwedd wystlo a meddalwedd faleisus arall a all fod wedi’u gosod ar gyfrifiaduron, rhedwch sgan system lawn gyda datrysiad diogelwch priodol cyfredol.
- Os bydd unrhyw gyfrifiaduron wedi cael eu cloi gan feddalwedd gwystlo, ceisiwch gyngor proffesiynol o ffynhonnell ddibynadwy. Hyd yn oed wedyn, mae’n bosibl na fyddwch byth yn gallu cael mynediad i’ch ffeiliau eto.