Y risgiau
- Gadael feirysau i mewn i’ch cyfrifiaduron neu rwydwaith yn anfwriadol – o wefannau a rhaglenni rhannu ffeiliau rhwng cymheiriaid.
- Gosod ysbïwedd sy’n galluogi troseddwyr i gael gwybodaeth gyfrinachol er mwyn cael mantais ariannol neu er mwyn dwyn hunaniaeth.
- Amddifadu datblygwyr meddalwedd ac artistiaid sy’n perfformio o’u hincwm.
- Torri hawlfraint. Er y gallai lawrlwytho meddalwedd, cerddoriaeth a fideos am ddim eich temptio, mae’n anghyfreithlon atgynhyrchu deunydd sydd dan hawlfraint.
- Bod eich wal dân yn cael ei thorri, yn enwedig wrth ddefnyddio rhaglenni rhannu ffeiliau rhwng cymheiriaid.
- Lawrlwytho deunydd ymosodol/anghyfreithlon neu feirysau sy’n edrych fel rhywbeth arall.
- Gosod meddalwedd hysbysebu (adware) yn anfwriadol sy’n galluogi hysbysebion naid plagus.
Lawrlwytho yn ddiogel
- Gwnewch yn siŵr fod meddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd a wal dân effeithiol wedi’u diweddaru wedi’u gosod ac yn rhedeg cyn gwneud unrhyw lawrlwytho.
- Byddwch yn ofalus iawn wrth lawrlwytho ffeiliau gweithredadwy (.exe). Defnyddir y ffeiliau hyn gan raglenni i redeg ar eich cyfrifiadur. Fodd bynnag, cânt eu defnyddio hefyd yn gyffredin i gario feirysau.
- Defnyddiwch wefannau lawrlwytho dibynadwy yn hytrach na systemau rhwng cymheiriaid er mwyn caffael rhaglenni.
- Byddwch yn wyliadwrus ynghylch lawrlwytho unrhyw beth, oherwydd y gall pobl alw eu ffeiliau yn unrhyw beth y mynnont. Gallai rhywbeth sy’n ymddangos fel clip o ffilm wyddonias newydd fod yn bornograffi caled neu’n ffeil sydd wedi’i heintio gan feirws mewn gwirionedd.
- Dim ond o safleoedd sy’n codi tâl arnoch fel iTunes, Google Play neu wefannau manwerthwyr dibynadwy y dylech lawrlwytho cerddoriaeth.
Rhannu ffeiliau yn ddiogel rhwng cymheiriaid
- Os bydd yn rhaid i chi ddefnyddio meddalwedd rhannu ffeiliau yn eich busnes, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis meddalwedd diogel, yn ei gosod yn ddiogel a’i defnyddio’n briodol.
- Dim ond pan fydd gennych feddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg y dylech osod rhaglenni rhannu ffeiliau.
- Dylech ystyried talu am fersiwn bremiwm na chaiff ei hariannu gan hysbysebion, er mwyn lleihau’r risg y caiff meddalwedd hysbysebu ei gosod.
- Dim ond o wefannau gweuthurwyr neu adwerthwyr awdurdodedig y dylech lawrlwytho meddalwedd.
- Peidiwch â gadael i bobl bori eich ffeiliau yn uniongyrchol, a ffurfweddwch y rhaglen yn ofalus fel mai dim ond y ffeiliau rydych am eu rhannu y byddwch yn eu rhannu, gan gadw gweddill eich ffeiliau a’ch gwybodaeth gyfrinachol yn breifat. Mae hyn yn osgoi rhannu data â dieithriaid llwyr yn anfwriadol.
- Peidiwch â rhannu deunydd sydd dan hawlfraint.
Ceir rhagor o wybodaeth am ddwyn hawlfraint yn y canlynol:
FAST: Y Ffederasiwn yn Erbyn Dwyn Meddalwedd.