English

Gwasanaethau Diangen Copy

Efallai y bydd eich sefydliad yn cadw hen wasanaethau cyfrifiadurol sy’n segur neu’n dal i fod yn gyfrifol amdanynt. Gallai’r rhain gynnwys:

  • Systemau TG etifeddol sydd wedi cael eu disodli.
  • Systemau neu seilwaith na chânt eu defnyddio mwyach oherwydd uniad neu gaffaeliad.
  • Systemau sydd wedi cael eu defnyddio ar gyfer profion neu brawf cysyniad.
  • Gweinyddion sydd wedi cael eu disodli gan storfeydd cwmwl.
  • Gweinyddion gwe segur.

Pan na fydd angen gwasanaeth o’r fath mwyach, dylid ei ddadgomisiynu’n drylwyr er mwyn peidio â pheri risg diogelwch.

Efallai y bydd dal angen rhai gwasanaethau at ddibenion neu ddefnyddiau penodol, sy’n golygu y byddai’n fwy priodol cyfyngu arnynt yn hytrach na’u dadgomisiynu’n llwyr.

Y risgiau

Mae’r canlyniadau posibl yr un fath ag ar gyfer unrhyw system wybodaeth arall sy’n agored i niwed, yn cynnwys:

  • Risg uniongyrchol pan gaiff gwasanaeth ei adael yn rhedeg ac yn hygyrch yn anfwriadol.
  • Risgiau eilaidd sy’n deillio o fethiant i ddileu elfennau fel eitemau gweithredadwy deuaidd neu ffeiliau ffurfweddu, sy’n ddefnyddiol i haciwr sy’n ceisio cyflawni ymosodiad amlhaenog.

Gall peidio â chael strategaeth a chyfundrefn dadgomisiynu effeithiol olygu y bydd eich sefydliad yn credu bod gwasanaeth wedi cael ei gau i lawr ond mewn gwirionedd nid yw, neu ei fod yn anghofio ei fod yn bodoli.

Sut i ddadgomisiynu gwasanaethau diangen

  • Cynhaliwch archwiliadau TG rheolaidd a chynhwysfawr ym mhob safle er mwyn penderfynu a oes gwasanaethau, cyfarpar neu seilwaith diangen neu segur.
  • Defnyddiwch ddulliau sganio pyrth i chwilio am wasanaethau diangen.
  • Byddwch yn ymwybodol o bob elfen gwasanaeth fel y gallwch wneud yn siŵr ei fod wedi’i ddadgomisiynu’n llwyr neu mai dim ond defnydd cyfyngedig dewisol y gellir ei wneud ohono.
  • Cynhaliwch restr o ba wasanaethau ddylai fod ar gael.
  • Dadgomisiynwch unrhyw wasanaeth diangen yn llwyr.
  • Cynhaliwch yr un gweithdrefnau diogelwch ar wasanaethau y bwriedir eu dadgomisiynu, fel unrhyw rai eraill, gwasanaethau byw, yn cynnwys profion hacio lle y bo’n briodol.
  • Cyfyngwch ar wasanaethau sydd eu hangen ar gyfer rhai dibenion o hyd a gwnewch yn siŵr nad yw’r rhai a fwriedir at ddefnydd lleol yn unig ar gael i’r cyhoedd.
  • Gwnewch gofnod o unrhyw wasanaethau dros dro y bydd angen i chi eu hanalluogi yn y pen draw.
  • Cynhaliwch archwiliadau trylwyr ar ôl dadgomisiynu er mwyn gwneud yn siŵr fod y weithdrefn wedi llwyddo. Defnyddiwch gyfarpar systemataidd fel sganwyr pyrth er mwyn gwneud hyn lle y bo’n bosibl.
  • Gwnewch yn siŵr y caiff unrhyw galedwedd sydd wedi’i dadgomisiynu ei gwaredu mewn modd diogel, priodol, sy’n cydymffurfio â’r drefn.

 

In Partnership With